Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Mehefin 2015.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Newidiwyd y modd y caiff gwastraff eu hasesu a'u dosbarthu yng Nghymru ar 1 Mehefin 2015.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae hwn o ganlyniad i nifer o newidiadau yn y gyfraith Ewropeaidd i’r:
- Rhestr Gwastraff (dolen allanol)(neu'r Catalog Gwastraff Ewropeaidd)
- nodweddion gwastraff peryglus yn Atodiad III o Gyfarwyddeb y Fframwaith Gwastraff
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 a diddymu Rheoliadau Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 i weithredu'r newidiadau hyn.
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i:
- awdurdodau lleol
- Adnoddau Naturiol Cymru
- gweithredwyr o gyfleusterau gwastraff a ganiateir ac eithriedig
- cynhyrchwyr gwastraff yn enwedig y rhai sy'n cynhyrchu gwastraff peryglus
- broceriaid neu ddelwyr gwastraff
- cludwyr gwastraff
- sefydliadau proffesiynol a rhai aelodaeth
- busnesau/y sector preifat