Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Refeniw

Yn 2023-24, bu cynnydd o 6.5% i £10.7 biliwn yng nghyfanswm gwariant refeniw gros awdurdodau lleol Cymru. Roedd gwariant gros y pen yn £3,366 neu £147 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Cyn effaith y dirwasgiad a'r mesurau cyni a ddaeth yn ei sgil, adroddwyd yn rheolaidd am gynnydd blynyddol o 5% neu 6% ond ers 2010-11, dim ond yn ystod pum mlynedd yn unig y gwelwyd twf sy'n uwch na 2%, gyda phedair ohonynt wedi bod yn y pedair blynedd diwethaf. 

Dros amser, mae gwasanaethau statudol fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu (ac ym maes gwasanaethau cymdeithasol y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gwariant) ond, mewn gwasanaethau eraill fel llyfrgelloedd, ffyrdd a thrafnidiaeth a chynllunio, gwelwyd gostyngiadau cyffredinol ers 2010-11. Addysg a gwasanaethau cymdeithasol sydd i gyfrif yn awr am 68% o wariant cyffredinol awdurdodau unedol o'i gymharu â 59% yn 2010-11 a 60% ym 1999-2000.

Cyfalaf

Bu cynnydd o 21.8% mewn gwariant cyfalaf yn 2023-24 i £1,914 miliwn neu £605 y pen o'r boblogaeth. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o £343 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.

Yn gyffredinol, mae gwariant cyfalaf yn fwy anwadal a gall gael ei effeithio'n sylweddol gan fuddsoddiadau mawr neu addasiadau. Cynyddodd gwariant yn 2023-24 yn rhannol oherwydd cynnydd mewn addysg a thai.

Cafodd y rhan fwyaf o'r gwariant cyfalaf hwn ei wario gan awdurdodau unedol. Adroddodd awdurdodau’r heddlu, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol wariant o £47 miliwn, £18 miliwn a £4 filiwn yn eu trefn.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Anthony Newby
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image