Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data am awdurdodau’r heddlu, tân a pharciau cenedlaethol ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Refeniw

Yn 2017-18, bu cynnydd o 1.3% i £8.0 biliwn yng nghyfanswm gwariant refeniw gros awdurdodau lleol Cymru. Er bod hyn yn dilyn dwy flynedd lle bu cwymp yn y gwariant, mae'n parhau â'r darlun cyffredinol a welwyd ers y dirywiad economaidd ddechrau'r degawd pan fu llai o dwf mewn gwariant. Roedd gwariant gros y pen yn £2,560 neu £24 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Cyn effaith y dirwasgiad a'r mesurau cyni a ddaeth yn ei sgil, adroddwyd yn rheolaidd am gynnydd blynyddol o 5% neu 6% ond ers 2010-11, dim ond yn ystod un flwyddyn yn unig y gwelwyd twf sy'n uwch na 2%.

Mae hyn wedi cael effaith amrywiol gan ddibynnu ar y maes gwasanaeth, er bod newidiadau o ran dosbarthu yn golygu y dylid bod yn ofalus wrth ddadansoddi dros gyfnod o amser. Yn gyffredinol, mae gwasanaethau statudol fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu (ac ym maes gwasanaethau cymdeithasol y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gwariant) ond, mewn gwasanaethau eraill fel llyfrgelloedd, gwasanaethau amgylcheddol lleol, ffyrdd a thrafnidiaeth a chynllunio, gwelwyd gostyngiadau cyffredinol ers 2010-11. Addysg a gwasanaethau cymdeithasol sydd i gyfrif yn awr am 62% o wariant cyffredinol awdurdodau unedol o'i gymharu â 59% yn 2010-11 a 60% ym 1999-2000.

Cyfalaf

Bu cynnydd o 5.5% mewn gwariant cyfalaf yn 2017-18 i £1,174 miliwn neu £377 y pen o'r boblogaeth. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o £61 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.

Yn gyffredinol, mae gwariant cyfalaf yn fwy anwadal a gall gael ei effeithio'n sylweddol gan fuddsoddiadau mawr neu addasiadau. Cynnydd pellach yn y gwariant cyfalaf ar addysg, sydd yn awr yn cynrychioli 37% o wariant cyfalaf, oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am y cynnydd a welwyd yn 2017-18. Mewn cyferbyniad llwyr, ers 2010-11 mae cyfran y gwariant cyfalaf a gaiff ei wario ar drafnidiaeth wedi syrthio o 21% i 12%.

Cafodd y rhan fwyaf o'r gwariant cyfalaf hwn ei wario gan awdurdodau unedol. Adroddodd awdurdodau’r heddlu, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol wariant o £40 miliwn, £12 miliwn a £2 filiwn yn eu trefn.

Adroddiadau

Refeniw a gwariant cyfalaf alldro awdurdodau lleol, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 224 KB

PDF
Saesneg yn unig
224 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.