Cyngor os ydych am gyflogi pobl o dramor, gan gynnwys y rhai sy'n ffoaduriaid.
Cynnwys
Darparwr gofal plant ydw i, ac rwy am helpu ffoaduriaid sy’n dod i Gymru, fel y rheini o Wcráin
Deallwn fod pobl yn awyddus i helpu eraill, gan gynnwys y rhai sy'n dod o Wcráin, ac yn wir mae hynny’n rhan o ysbryd cymdogol pob un ohonom er mwyn sicrhau bod Cymru yn "genedl noddfa" i bob ffoadur. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Cymru yn wlad y gall pobl sy'n ceisio noddfa fynd iddi a chael eu croesawu a’u deall, a bod eu cyfraniad unigryw i fywyd Cymru yn cael ei glodfori. Os hoffech gefnogi’r weledigaeth honno, gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: Cymerwch Ran.
Ond anghenion a phrofiad plant yn eich gofal yw'r ffactor pwysicaf o hyd. Mae eu diogelwch a'u lles yn hollbwysig. Felly, rhaid dilyn arferion recriwtio diogel bob amser.
Rhaid i ni hefyd ystyried diogelwch y ffoadur. Caethwasiaeth fodern yw'r ecsbloetio anghyfreithlon ar bobl er budd personol neu fasnachol. Mae ffoaduriaid a phobl eraill sydd wedi'u dadleoli yn arbennig o agored i gael eu dal mewn arferion caethwasiaeth fodern.
Gall dioddefwyr caethwasiaeth fodern fod yn unrhyw oed, rhyw, cenedligrwydd, neu ethnigrwydd. Maen nhw'n cael eu twyllo neu eu bygwth i'r gwaith ac efallai na fyddan nhw'n gallu gadael neu roi gwybod am y drosedd drwy ofn neu fygwth. Efallai na fyddan nhw'n adnabod eu hunain fel dioddefwr.
Mae rhagor o wybodaeth, a dolenni i adnoddau pellach ynghylch adnabod caethwasiaeth fodern a beth i'w wneud, ar gael yma: Hyfforddiant caethwasiaeth modern: tudalen adnoddau - GOV.UK , a Caethwasiaeth Fodern & Chamfanteisio - Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Cymru ganllawiau i ddarparwyr gofal cymdeithasol ynglŷn â chaethwasiaeth a gwiriadau recriwtio modern, ac mae'r cyngor hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr gofal plant a gwaith chwarae.
A oes modd imi gyflogi ffoadur?
Oes. Gallwch gyflogi unrhyw un o dramor, ond bydd angen ichi sicrhau bod yr unigolyn yn addas i weithio gyda phlant a bod gan yr unigolyn y sgiliau a'r cymwysterau priodol ar gyfer y swydd. Rhaid ichi fodloni'r rheoliadau sy'n ymwneud ag 'Addasrwydd Staff' fel y byddech chi gydag unrhyw aelod arall o staff. Mae rhagor o wybodaeth yn Atodlen 1 i gefnogi eich proses recriwtio.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnaf?
Mae'r tabl isod yn amlinellu'r wybodaeth a'r dogfennau sy'n ofynnol yn unol â'r Rheoliadau. Ceir cyngor pellach ar y camau i'w cymryd yn y broses recriwtio yn Atodiad 1.
Gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol o dan reoliad 28 |
Dogfennau Angenrheidiol |
---|---|
Enw (ac unrhyw enw arall a chyn-enw) cyfeiriad a dyddiad geni |
Pasbort, trwydded yrru, tystysgrif geni, tystysgrif priodas. Os nad oes pasbort, trwydded yrru, tystysgrif geni ar gael, gellir defnyddio'r ID a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU at ddibenion adnabod ar ôl i’r unigolyn gyrraedd. |
Gwybodaeth ynglŷn â chymwysterau, profiad a sgiliau'r unigolyn mewn perthynas â'r rôl benodol |
Tystysgrifau cymwysterau, cofnodion/tystysgrifau hyfforddiant, CV, geirdaon. Pan nad oes modd darparu tystysgrifau cymwysterau a/neu drawsgrifiadau ac ati, dylai'r unigolyn lofnodi hunan-ddatganiad yn nodi bod yr wybodaeth yn y ffurflen gais ynglŷn â chymwysterau a hanes gwaith yn wir ac yn gywir. Byddai angen i'r unigolyn gysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn iddynt bennu a oes modd derbyn unrhyw gymwysterau gofal plant blaenorol. |
Datganiad gan yr unigolyn ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a’i iechyd meddyliol |
Datganiad Meddygol o Iechyd wedi'i lofnodi gan y person |
Llun diweddar |
Ffotograff |
Dau eirda gydag esboniad yn nodi bod y darparwr yn fodlon ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny. |
Geirdaon gan gyn-gyflogwyr yn ddelfrydol, gan gynnwys y cyflogwr diweddaraf. Gellir hefyd dderbyn geirdaon academaidd a geirdaon personol mewn sefyllfaoedd eithriadol. Noder: rhaid cael o leiaf dau eirda a gellid ceisio mwy ohonynt, yn dibynnu ar amgylchiadau/adborth. Mae geirdaon personol yn dderbyniol os nad oes modd cael geirdaon gan gyflogwyr. |
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau |
CV, manylion ar y ffurflen gais |
Gwirio’r rheswm pam y daeth cyflogaeth neu swydd flaenorol i ben (pan fo’r gyflogaeth neu'r swydd flaenorol yn ymwneud â gweithio gyda phlant) |
CV a datganiad wedi'i lofnodi gan y person. Geirdaon os oes modd |
Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) manwl |
Tystysgrif DBS a gwiriad o gofnodion troseddol/ 'Tystysgrif Cymeriad Da' o'r wlad gartref |
Cymhwystra i weithio yn y DU (sy'n ofynnol yn ôl cyfraith mewnfudo) |
Datganiad swyddogol/fisa/trwydded. Trwydded waith/ID a roddir gan Lywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU i ffoaduriaid |
Mae gan y person rwy’n dymuno ei gyflogi i weithio yn fy lleoliad ddogfennau adnabod (ID) cyfyngedig. Beth alla' i ei dderbyn?
Yn achos y rhai o Wcráin, dylai'r Swyddfa Gartref fod yn darparu ID dros dro a fydd wedyn yn cael ei ddisodli gan Drwydded Preswylio Fiometrig – unwaith y bydd y Swyddfa Gartref wedi casglu a phrosesu gwybodaeth fiometrig y rheini o Wcráin.
Mae'r tabl uchod yn amlinellu'r dogfennau sy'n ofynnol. Yn y ffeil staff, rhaid ichi ysgrifennu datganiad yn cadarnhau:
- a ydych yn fodlon ar hunaniaeth y gweithiwr,
- yr wybodaeth neu'r ddogfennaeth a gafodd eu hystyried gennych wrth wneud y penderfyniad hwnnw, a
- fel rhan o’ch ymholiadau am ddogfennau adnabod, a gafodd gopi o dystysgrif geni’r gweithiwr ei weld.
Efallai nad ydych wedi gweld tystysgrif geni'r ymgeisydd. Yn hytrach, dylech fanylu ar ba dystiolaeth a ddefnyddiwyd gennych yn lle hynny i wirio pwy ydynt a'u dyddiad geni. Bydd yr archwilwyr yn gweld ac yn trafod hyn gyda chi mewn perthynas â'ch prosesau recriwtio yn ystod yr archwiliad.
Nid yw'r sawl sy'n gwneud cais am swydd wedi byw yn y DU o'r blaen. Felly, a fydd angen cael gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) o hyd?
Bydd. Mae angen i ddarparwr gynnal gwiriad DBS manwl ar yr holl staff, gan gynnwys y rhai sydd â statws ffoadur. Mae hyn yn un o ofynion Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Efallai bod yr unigolyn wedi bod yn y DU o'r blaen, ac mae gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gytundebau rhannu gwybodaeth gyda rhai gwledydd. Ceir cyngor ar wneud cais am wiriad DBS yma: Archwiliadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd | Arolygiaeth Gofal Cymru
Wrth wneud cais am wiriad DBS, mae canllawiau adnabod y DBS yn ei gwneud yn bosibl i ddogfennaeth fewnfudo a 'dogfennau gan lywodraeth leol neu ganolog sy'n dangos hawl i fudd-dal' gael eu cyflwyno at ddibenion adnabod. Dylai'r dogfennau hyn, ochr yn ochr â'r ID a ddarperir gan y Swyddfa Gartref, fodloni meini prawf y DBS: Error! Hyperlink reference not valid.
Os yw'r person yn wladolyn Wcreinaidd yn y DU a bod angen cymorth arno, gall gysylltu ag UKVI ar +44 (0)808 164 8810 – dewiswch opsiwn 2. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun tan ddydd Iau (ac eithrio gwyliau banc), 9am i 4:45pm a dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), rhwng 9am a 4:30pm. Rhif ffôn am ddim yw hwn, ond efallai y bydd taliadau rhwydwaith yn dal i fod yn berthnasol.
A oes unrhyw gymorth ariannol i helpu gyda gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)?
Nid oes unrhyw gymorth ariannol i helpu gyda gwiriadau'r DBS. Bydd angen i'r unigolyn wneud cais am wiriad DBS manylach a thalu'r costau sy'n gysylltiedig â'r gwiriadau hynny.
Caiff gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) eu cynnal yn y DU yn unig, felly a oes unrhyw wiriadau eraill y mae angen imi eu cynnal cyn cyflogi person sy'n newydd i Gymru/i’r Deyrnas Unedig?
Nid yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i wiriadau cofnodion troseddol ychwanegol gael eu cynnal ar ddarpar aelodau o staff. Fodd bynnag, byddai'n rhesymol i ddarparwyr geisio sicrwydd pellach o addasrwydd y person i weithio yn ei leoliad gyda phlant, lle nad yw gwiriadau rheolaidd o bosibl yn cynnig hanes llawn.
Dylid cymryd y cam hwnnw os nad yw ymgynghori ag awdurdodau gwlad gartref yr unigolyn yn peri risg iddo, ac os oes proses ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol. Mae’n bosibl na fyddai’n rhesymol gofyn am wiriad pellach gan yr heddlu os nad yw'r rôl y mae’n gwneud cais amdani yn golygu ei fod yn gweithio'n agos gyda phlant, er enghraifft swydd fel cogydd. Byddai'n rhaid ystyried cefndir yr unigolyn a'r rhesymau dros beidio â dymuno cael archwiliad gan yr heddlu o wlad gartref yr unigolyn ym mhob achos. Dylech drafod hyn yn sensitif â'r ymgeisydd, a gofyn am ei gymeradwyaeth os penderfynwch fod angen gwiriad ychwanegol gan yr heddlu.
Mae'r broses ymgeisio ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol neu 'Dystysgrifau Cymeriad Da' ar gyfer rhywun o dramor yn amrywio o wlad i wlad. Gall unigolion wneud cais yn y wlad neu i'r llysgenhadaeth berthnasol yn y DU. Ceir canllawiau ar wneud cais am wiriadau cofnodion troseddol yma: Gwiriadau cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor - GOV.UK (www.gov.uk)
Yn achos Wcráin, gall yr unigolyn o Wcráin wneud cais am wiriad cofnod troseddol drwy Lysgenhadaeth Wcráin. Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld yma: Gwledydd Q i Z: gwneud cais am wiriad cofnodion troseddol ar gyfer rhywun o dramor - GOV.UK (www.gov.uk). Bydd angen llofnod electronig ar yr unigolyn er mwyn gwneud ei gais. Bydd yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei hanfon drwy e-bost atynt yn Wcreineg.
Ar ôl cael neges yn yr Wcreineg, bydd angen iddynt wneud cais am lythyr cadarnhad gan Lysgenhadaeth Wcráin, gall y dogfennau hyn gael eu cyfieithu gan drydydd parti.
Ar gyfer Wcreiniaid heb lofnod electronig, rhaid i geisiadau gael eu gwneud wyneb yn wyneb yn Adran Gonsylaidd Llysgenhadaeth Wcráin yn Llundain. Rhaid cael pasbort dilys fel prawf o ID a dylid cyflwyno hwnnw ar y diwrnod. Mae disgwyl i ymgeiswyr gyflwyno ei gyfeiriad(au) blaenorol yn Wcráin yn yr Adran Gonsylaidd. Gellir gwneud ymholiadau drwy consul_gb@mfa.gov.ua.
Dim ond nifer fach o gysylltiadau personol a all ddarparu geirda sydd gan yr unigolyn sy'n chwilio am waith. A yw hynny’n dderbyniol?
Mae rheoliad 28 (2) (b) (ii) Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn datgan bod yn rhaid i'r darparwr gael datganiad i gadarnhau ei fod wedi cael dau eirda a'u bod yn "fodlon ar ddilysrwydd y geirdaon hynny.”
Mae bob amser yn well cael geirda gan y cyflogwyr diweddaraf. Fodd bynnag, nid yw hynny bob amser yn bosibl mewn amgylchiadau lle mae pobl wedi'u dadleoli oherwydd rhyfel neu wrthdaro. Mewn achosion felly, gall canolwyr personol gael eu defnyddio. Nid oes unrhyw ofyniad sy'n nodi am ba mor hir y dylai canolwr fod wedi adnabod yr unigolyn. Fodd bynnag, byddai perthynas bersonol hirach yn fwy buddiol.
Er mwyn cadarnhau pa mor ddilys y mae’r canolwyr/geirdaon, byddai angen i ddarparwyr wirio unrhyw eirda a roddir. Gallai hynny olygu dros y ffôn neu drwy e-bost. Mae'n werth gwneud nodiadau o'r sgwrs (fel atebion i gwestiynau a ofynnir, a dyddiad ac amser y sgwrs) i ddangos y modd y mae’r darparwr wedi bodloni ei hunan fod y geirda yn ddilys.
Mewn achosion lle mai dim ond geirda personol a gafwyd gan gysylltiadau nad ydynt yn adnabod yr unigolyn yn dda, byddai'n ddoeth cael cyfnod o weithio dan oruchwyliaeth. Byddai hyn yn rhoi sicrwydd i'r darparwr fod yr ymgeisydd yn addas i weithio gyda phlant, a bod ganddo'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y swydd.
Mae gan y sawl sy'n gwneud cais am y swydd gymhwyster gofal plant o wlad arall. A yw'r person hwnnw’n gymwys i weithio yn fy lleoliad?
Rhaid i unrhyw un a hoffai weithio ym maes gofal plant a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru feddu ar gymhwyster sydd wedi'i restru yn fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
Os nad yw eu cymhwyster ar y rhestr, bydd angen i Gofal Cymdeithasol Cymru asesu a ellir ei dderbyn. Byddant yn gwneud hynny drwy gymharu cymhwyster yr unigolyn â chymhwyster cyfatebol yng Nghymru.
Ar ddiwedd y broses, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhoi cyngor ynghylch a yw cymhwyster yr unigolyn yn dderbyniol. Os oes gwahaniaeth bach o ran pa mor gyfatebol y mae’r cymhwyster, gall Gofal Cymdeithasol Cymru gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu fel y gellir cyflogi'r unigolyn fel aelod cymwysedig o’r staff. Os oes gwahaniaeth mwy sylweddol, gall Gofal Cymdeithasol Cymru benderfynu na ellir cyflogi'r unigolyn fel aelod cymwysedig o’r staff heb iddo ymgymryd â chymhwyster ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Ceir rhagor o wybodaeth am hwn yma: Cymwysterau blynyddoedd cynnar a gofal plant rhyngwladol | Gofal Cymdeithasol Cymru.
Dylid anfon unrhyw gwestiynau penodol am gymwysterau rhyngwladol neu'r broses hon at: InternationallyQualified@socialcare.cymru
A all yr unigolyn weithio yn fy lleoliad cyn derbyn canlyniadau gwiriadau cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a'r wlad gartref?
Gall darparwyr ganiatáu i berson ddechrau gweithio tra'n aros am wiriadau’r DBS a’r wlad gartref os ydynt yn sicrhau bod y person hwnnw'n cael ei oruchwylio'n llawn hyd nes bod yr wybodaeth wedi’i derbyn.
Byddai angen i ddarparwyr sicrhau bod ganddynt y gallu i wneud hynny a chyfyngu'r person rhag ymgymryd â gweithgareddau penodol. Fodd bynnag, bydd angen bodloni Rheoliad 28 (6) a sicrhau’r canlynol:
- Bod darparwyr yn sicr o gymeriad da ac addasrwydd yr unigolion ar gyfer y rôl
- Bod gan yr unigolyn y sgiliau a'r cymwysterau angenrheidiol
- Bod darparwyr yn fodlon ar ddilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio eu sgiliau a'u profiad.
- Bod yr unigolyn yn ffit yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant o dan ddeuddeg oed,
- Bod yr unigolyn wedi llofnodi datganiad yn cadarnhau hyn
- Bod yr unigolyn wedi'i gofrestru gyda'r DBS ac mae wedi darparu ei rif cofrestru DBS i'r darparwr
- Bod y darparwr yn fodlon ar hunaniaeth yr unigolyn a gall adrodd pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd ganddynt i gadarnhau hyn
- Bod gan y darparwr hanes cyflogaeth llawn ar gyfer y person ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person a, lle mae cyflogaeth neu swydd flaenorol y person wedi golygu gweithio gyda phlant, cadarnhad i'r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
- Bod y darparwr wedi sicrhau ffotograff a dau eirda ar yr unigolyn
- Bod yr unigolyn wedi darparu datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw droseddau y cawsant eu collfarnu neu eu rhybuddio amdanynt, gan gynnwys euogfarnau sydd wedi'u disbyddu.
- Cadarnhad na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni, ym marn resymol y darparwr, oni bai y gellir penodi'r person.
Ydw i'n gymwys i gael unrhyw gymorth?
Ydych, mae ReAct+ yn cynnig cymhorthdal cyflog o hyd at £3,000 i gyflogwyr sy'n recriwtio unigolion a oedd ddi-waith cynt (gan gynnwys ffoaduriaid) am y 12 mis cyntaf o gyflogaeth. Mae hyd at £1,000 hefyd ar gael ar gyfer unrhyw hyfforddiant sy'n gysylltiedig â’r swydd.
Gall ReStart hefyd eich cefnogi i recriwtio ffoaduriaid i'ch sefydliad. Mae'n cynnig amrywiaeth o gefnogaeth gan gynnwys cysylltu cyflogwyr â sefydliadau sy'n cefnogi mudwyr i ddod o hyd i recriwtiaid posibl. Gallwch gofrestru eich diddordeb drwy'r ffurflen (ar Busnes Cymru).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â: Talkchildcare@llyw.cymru
Atodiad 1: Cyngor Pellach
Mae 'Canllaw i Recriwtio yn Dda' Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhoi cyngor i ddarparwyr ynglŷn â recriwtio pob aelod o staff, ac mae'n ddefnyddiol wrth ystyried y broses recriwtio a'r weithdrefn ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, yn enwedig pan fo hi’n anodd cael dogfennau a gwybodaeth.
Dyma rai o’r camau a amlinellir:
- Os nad oes CV ar gael, gofynnwch i'r unigolyn lenwi ffurflen gais yn nodi'r holl wybodaeth sydd ei hangen. Trafodwch unrhyw fylchau a chofnodi manylion perthnasol
- Mewn cyfweliad, dylai'r darparwr wirio gwybodaeth a dealltwriaeth yr unigolyn o arferion gofal a datblygiad plant. Gofynnwch i'r ymgeisydd roi enghreifftiau i wirio ei wybodaeth, ei ddealltwriaeth a’i allu. Dylid cofnodi’r atebion. Mae hyn yn helpu'r darparwr i weld a oes unrhyw faterion o ran addasrwydd a/neu angen posibl am gefnogaeth a hyfforddiant pellach
- Mewn sefyllfaoedd lle mae llai o dystiolaeth ddogfennol ategol, byddai proses cyfweliad ymarferol yn galluogi darparwr i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth i gefnogi unrhyw atebion a roddwyd yn ystod y cyfweliad. Byddai nodiadau arsylwi yn dystiolaeth ddefnyddiol i ddangos bod y darparwr wedi cymryd camau i sicrhau bod gan y person y sgiliau a'r rhinweddau cywir i weithio gyda phlant
- Gallai diffygion o ran dogfennau a gwybodaeth achosi pryder ac ansicrwydd ynglŷn â recriwtio. Fel sy'n arfer dda yn gyffredinol, bydd goruchwylio a monitro yn agos yn golygu y gall darparwyr sicrhau bod yr unigolyn yn addas ar gyfer y rôl. Gellir nodi a mynd i'r afael ag unrhyw faterion ymarfer sy'n dod i'r amlwg yn gyflym
- Bydd cwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) yn caniatáu i ddarparwyr asesu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad unigolyn a nodi ei gryfderau a'i anghenion. Mae'n rhoi sicrwydd bod yr unigolyn yn gweithio'n effeithiol ac yn ddiogel
- Gall darparwyr ganiatáu i berson ddechrau gweithio pan fydd yn aros am wiriadau’r DBS a gwiriadau’r Llysgenhadaeth os ydynt yn sicrhau bod yr unigolyn hwnnw'n cael ei oruchwylio'n llawn hyd nes y ceir yr wybodaeth. Byddai angen i ddarparwyr sicrhau bod ganddynt y gallu i wneud hynny a’u bod yn atal y person rhag ymgymryd â rhai gweithgareddau. Fodd bynnag, bydd angen bodloni rheoliad 28 (6) a sicrhau’r canlynol:
- Bod darparwyr yn sicr o gymeriad da yr unigolyn a'i addasrwydd ar gyfer y rôl
- Bod gan yr unigolyn y sgiliau a'r cymwysterau angenrheidiol, a bod darparwyr yn fodlon ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio sgiliau a phrofiad yr unigolyn
- Bod yr unigolyn yn ffit yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant o dan ddeuddeg oed
- Bod yr unigolyn wedi llofnodi datganiad yn cadarnhau hyn
- Bod yr unigolyn wedi’i gofrestru gyda'r DBS ac wedi darparu ei rif cofrestru DBS i'r darparwr
- Bod y darparwr yn fodlon ar hunaniaeth yr unigolyn ac yn gallu rhoi gwybod pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gadarnhau hyn
- Bod gan y darparwr hanes cyflogaeth llawn ar gyfer yr unigolyn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth yr unigolyn a, phan fo cyflogaeth neu swydd flaenorol yr unigolyn wedi golygu gweithio gyda phlant, cadarnhad i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben
- Bod gan y darparwr lun a dau eirda ar gyfer yr unigolyn
- Bod yr unigolyn wedi darparu datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw droseddau y mae’r unigolyn wedi ei gael yn euog ohonynt neu wedi cael rhybudd yn eu cylch, gan gynnwys euogfarnau wedi’u disbyddu
- Cadarnhad na fydd buddiannau’r gwasanaeth yn cael eu bodloni, ym marn resymol y darparwr, oni bai y gellir penodi’r unigolyn
Gall cyflogwyr hysbysebu eu gofal plant a chwarae swyddi gwag ar borth swyddi Gofalwn Cymru yn rhad ac am ddim.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael yma: Canllaw i Recriwtio yn Dda