Neidio i'r prif gynnwy

Sut y dylid gwario’r cyllid

1. Oes gyda chi ganllawiau ar sut i wario cyllid y Rhaglen Dysgu Carlam

Darllenwch ein canllawiau ar wariant

Mae rhestri chwarae hefyd ar gael lle mae ysgolion yn rhannu eu profiadau ar sut maent yn bwriadu defnyddio'r cyllid. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir nad prynu cyfarpar, neu ddefnyddiau traul eraill, neu ddarparu dysgu proffesiynol yw diben y cyllid. Mae yna ffynonellau cyllid eraill at yr anghenion hynny. Er enghraifft, rydym wedi darparu adnoddau ychwanegol i’r Consortia Addysg Rhanbarthol i gefnogi anghenion dysgu proffesiynol sydd ynghlwm wrth y Rhaglen Dysgu Carlam, ac rydym wedi darparu cyllid i bob ysgol drwy’r Grant Dysgu Proffesiynol at eu hanghenion dysgu proffesiynol penodol.

Cwestiynau penodol am weithgareddau cymwys

1. Mae cwestiynau amrywiol wedi dod i law ynghylch defnyddio cymorth a thiwtoriaid ar-lein fel rhan o’r rhaglen, er enghraifft, a allem ddefnyddio cwmni sy’n darparu adnoddau dynol i helpu gyda’r broses ddysgu drwy blatfform ar-lein?

Gallech. Cewch ddefnyddio’r cyllid grant i dalu am diwtoriaid ar-lein, ar yr amod mai rhan gymharol fach yw hyn o ddull ehangach yr ysgol o gefnogi dysgwyr, ac nad tiwtoriaid ar-lein yw eich dull gweithredu cyffredinol.

2. Rwyf wedi cael cwestiwn ynghylch p’un a oes modd gwario’r grant ar ddarpariaeth trydydd parti i ddysgwyr sy’n agored i niwed. Beth yw eich safbwynt ar hyn?

Cadarnhawyd mai grant recriwtio yw hwn yn hytrach na grant contractio allan, ond os yw’n amlwg mai dyma’r peth iawn i’r ysgol ac i rai o’i dysgwyr, ac os mai elfen fach o gynllun yr ysgol ydyw, byddai’n dderbyniol gwneud hynny.

3. Mae angen hyfforddi staff ar lanlwytho gwaith i wahanol blatfformau er mwyn darparu gwaith i ddisgyblion sydd gartref yn hunanynysu. A oes modd gwario’r grant ar yr hyfforddiant hwn?

Nid grant y Rhaglen Dysgu Carlam yw’r cyllid i’w ddefnyddio ar gyfer hyn. Bydd Grant Dysgu Proffesiynol yr ysgol yn gymwys i hynny. Hefyd, mae’r consortia rhanbarthol wedi cael yr adnoddau cyllid i gynnig dysgu proffesiynol sydd ynghlwm wrth y Rhaglen Dysgu Carlam, ac felly dylai ysgolion drafod unrhyw anghenion gyda’u rhanbarth.

4. Mae staff am gynnal sesiynau gwaith cartref i ddisgyblion sydd ar ei hôl hi yn sgil y cyfnod clo. A ellir defnyddio’r arian i dalu ein staff presennol i wneud hyn?

Os bydd hyn yn cynyddu oriau rhywun, yna mae hynny’n wariant cyfreithlon.

5. A all ysgolion godi Cynorthwy-ydd Addysgu o Lefel 1 i Lefel 3 (gan ddefnyddio’r grant i gyllido’r cynnydd mewn costau)?

Ddim os yw hyn yn golygu dim mwy na thalu cyflog uwch i aelod staff – os yw’n newid yn ei rôl nad yw’n cynyddu’r capasiti (hy nid yw ei rôl wreiddiol wedi’i llenwi), nid yw’n gydnaws ag ysbryd y cynllun. Os yw rhywun yn newid ei rôl, dweder o Gynorthwy-ydd Addysgu i Gynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch, rydym yn eich cynghori i siarad â’ch consortiwm rhanbarthol ynghylch cymorth dysgu proffesiynol i gynorthwywyr addysgu.

6. A all ysgol ymgymryd â phrosiect ysgrifennu gan ddefnyddio ffilm a chyfryngau, gan ddefnyddio cwmni celfyddydau creadigol yn hytrach na chyflogi unigolyn?

Mae hyn yn golygu capasiti ychwanegol ar gyfer yr ysgol. Er na fydd rhywun yn cael ei gyflogi’n uniongyrchol, mae’n tynnu adnoddau dynol angenrheidiol i mewn i’r ysgol, ac felly yn ddefnydd derbyniol o’r cyllid ar yr amod mai elfen fach o gynllun yr ysgol ydyw.

7. A gawn ni ddefnyddio’r cyllid i ddatblygu’r syniad o ddysgu’n annibynnol, gan ei wario i hyfforddi athrawon er mwyn effeithio ar ethos yr ysgol gyfan?

Nid yw hyn yn ddefnydd derbyniol o’r cyllid, fel yr amlinellwyd. Mae yna gynlluniau a ffynonellau cyllid eraill i gefnogi dysgu proffesiynol o fewn y gweithlu addysg.

8. A gawn ni ddefnyddio’r cyllid i barhau â phrosiect ysgol creadigol llwyddiannus lle gallai hyn olygu cyflogi artist?

Mae hyn yn golygu capasiti ychwanegol ar gyfer yr ysgol. Er na fydd cynorthwy-ydd addysgu neu athro yn cael ei gyflogi, mae’n tynnu adnoddau dynol angenrheidiol i mewn i’r ysgol, ac felly yn ddefnydd derbyniol o’r cyllid ar yr amod mai elfen fach o gynllun yr ysgol ydyw.

9. A gawn ni ddefnyddio’r cyllid i ddatblygu strategaeth les ar draws yr ysgol, gan ei chysylltu â’n prosiect siarad i gefnogi llythrennedd emosiynol?

Nid yw’n ymddangos bod hyn yn ddefnydd derbyniol o’r cyllid, gan nad yw’n awgrymu bod capasiti ychwanegol yn cael ei greu.

Cyngor cyffredinol

Ceir defnyddio’r cyllid i:

  • recriwtio athrawon llawn-amser, cynorthwy-wyr addysgu ac eraill megis anogwyr a mentoriaid
  • recriwtio staff rhan-amser
  • llenwi swyddi, cyflogi staff i ddatblygu capasiti, ac yna symud pobl o amgylch yn ôl anghenion yr ysgol, cewch gyflogi cynorthwy-ydd addysgu, er enghraifft, o dan y rhaglen, felly, gan ryddhau rhywun arall wedyn yn yr ysgol i gefnogi dysgwyr o dan y cynllun hwn
  • prynu oriau ychwanegol ar gyfer staff sydd dan gontract pro rata
  • talu am oriau ychwanegol i staff llawn-amser
  • mewn achosion penodol, osgoi diswyddo, lle byddai ysgol yn diswyddo unigolyn ac yn recriwtio i’r un rôl/rôl debyg iawn
  • prynu i mewn rywfaint o gapasiti allanol at ddibenion penodol iawn fel cyfran gyfyngedig o’r grant, gweler uchod enghreifftiau o  gelf creadigol a chymorth ar-lein
  • penodi gweithwyr cymorth i gefnogi dysgu ar-lein, er enghraifft, fel unigolion ychwanegol i helpu mewn dosbarth ffrydio byw

Cwestiynau cyllid

1. A gaiff ysgolion gario cyllid sydd heb ei wario ymlaen o 2020 i 2021 a’i ychwanegu at y cyllid a gânt ar gyfer 2021 i 2022?

Yn anffodus, ni allwn gario cyllid ymlaen o 2020-21 i 2021-22. Caiff unrhyw gyllid nad yw wedi’i wario ei adennill.

Ysgolion cyfrwng cymraeg

1. Mae’r data a ddefnyddiwyd i bennu dyraniadau’r Rhaglen Dysgu Carlam yn wahanol i’r data a gyflwynwyd ar CYBLD.

Mae’r ffigurau a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i gyfrifo dyraniadau’r Rhaglen Dysgu Carlam yn seiliedig ar CYBLD 2020. Er bod yna broblemau cydnabyddedig o ran data rhieni, o dan y Ddeddf Diogelu Data, nid oes gan ysgolion ddewis ond cofnodi’r categori y mae rhieni yn ei ddewis. Mae’r un peth yn wir am unrhyw gasgliad data sy’n cynnwys manylion personol.

2. Mae’r blwch yn nodi Amherthnasol yn awtomatig, ac felly os na newidir yr wybodaeth ar SIMS/CYBLD, caiff ei heithrio o’r broses ddyrannu.

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar CYBLD 2020. Cyfrifir nifer y disgyblion 5 oed a throsodd sy’n dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf ac nad ydynt yn siarad Cymraeg gartref drwy gyfrif nifer y disgyblion ar sail:

  • astudio Cymraeg = 1 (dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf)
  • siarad Cymraeg yn y cartref = 0 (ddim yn siarad Cymraeg gartref)

Os nad yw’r ysgolion wedi darparu gwybodaeth ynghylch p’un a yw’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn y cartref, gan nodi 2 (amherthnasol) ar gyfer Siarad Cymraeg yn y cartref, nid yw’r rhain wedi cael eu cyfrif.

Unedau cyfeirio disgyblion

1. A fyddech cystal â chadarnhau p’un a yw’r cyllid Addysg Heblaw yn yr Ysgol sy’n rhan o ddyraniad y Rhaglen Dysgu Carlam wedi’i fwriadu ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion, disgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol na chânt eu haddysgu mewn unedau cyfeirio disgyblion, neu y ddau/y naill neu’r llall?

Mae unedau cyfeirio disgyblion wedi’u cynnwys, ac mae dyraniadau eraill i awdurdodau lleol ar gyfer Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

2. Nid oedd dyraniad o dan y pennawd Unedau Cyfeirio Disgyblion. Ai’r dyraniad ar gyfer Addysg Heblaw yn yr Ysgol oedd y dyraniad ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion, felly?

Mae’r dyraniad Addysg Heblaw yn yr Ysgol ar gyfer pob disgybl sy’n cael y rhan fwyaf o’i addysg y tu allan i’r ysgol (disgyblion nad yw eu prif fan cofrestru mewn ysgol a gynhelir, neu nad ydynt wedi’u cofrestru mewn ysgol a gynhelir ar hyn o bryd), ar sail data Addysg Heblaw yn yr Ysgol 2019. Mae disgyblion sy’n mynychu unedau cyfeirio disgyblion wedi’u cynnwys yma, ac nid ydynt wedi’u rhestru ar wahân.

Dyraniad cyllid

1. Pam mae data DEWi yn dangos ffigur gwahanol i ffigur y llythyr cynnig grant?

Mae DEWi yn dangos cyfanswm y dyraniad a ddyfarnwyd i bob awdurdod lleol. Mae’r llythyr ar gyfer 2020 i 2021 yn nodi swm gwerth 7 mis yn unig o gyfanswm y dyraniad. Caiff swm y 5 mis arall ei nodi yn y llythyr i awdurdodau lleol ar gyfer 2021 i 2022.

2. Byddai sawl un o’n hysgolion yn hoffi gwario dyraniad cyfan y Rhaglen Dysgu Carlam yn ystod tymhorau’r hydref a’r gwanwyn, gan eu bod yn teimlo mai dau dymor cyntaf y flwyddyn yw’r rhai pwysicaf o ran sesiynau ‘dal i fyny’, yn hytrach na thymor yr haf.

Byddai rhai ysgolion yn hoffi gwario’r dyraniad cyfan tra bydd ysgolion eraill mewn awdurdodau lleol eraill yn ei chael yn anodd, efallai, gwario’r hyn y maent wedi’i gael. Rhannwyd y dyraniad ar sail 7/5 i ganiatáu amser i gynllunio a chael gafael ar y bobl iawn i weithredu’r rhaglen. Ni allwn gynyddu’r cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon na chario unrhyw beth drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf.

3. Mae llythyr y cynnig yn nodi y bydd y cyllid yn targedu grwpiau blwyddyn 7, 11, 12 ac 13, ond mae manylion cyllid DEWi fel pe bai’n trin pob grŵp blwyddyn yr un fath. A fyddech cystal â chadarnhau sut rydych am i’r cyllid hwn gael ei ddyrannu i ysgolion?

Dylid dyrannu’r cyllid fel y mae DEWi yn ei amlinellu.

4. A fydd LlC yn rhoi gwybod i ysgolion beth yw’r dyraniadau unigol a’r telerau a’r amodau, neu a ddylai awdurdodau lleol e-bostio ysgolion i roi gwybod iddynt?

Dylai awdurdodau lleol roi gwybod i ysgolion beth yw eu dyraniad. Mae dogfen wedi’i chyhoeddi ar gyfer ysgolion ar wefan Llywodraeth Cymru, a bydd angen iddynt gytuno ar eu cynlluniau gyda’u cynghorydd herio.

Gofynion cofnodi o ran y Rhaglen Dysgu Carlam

1. Faint o gofnodi fydd yn ofynnol mewn perthynas â’r Rhaglen hon?

Bydd angen llunio crynodeb o’r ffordd y gwariwyd y cyllid. Bydd awdurdodau lleol yn cwblhau’r datganiad o wariant ar ddiwedd y flwyddyn, a bydd y datganiad yn destun archwiliad. Bydd y rhanbarthau hefyd yn cadarnhau’r wybodaeth drwy eu datganiad o wariant, mewn perthynas â llinellau cyllideb y Rhaglen Dysgu Carlam.

2. Pa mor fanwl ddylai cynllun ysgol fod?

Yn unol ag egwyddorion y rhaglen, rydym am i’r cynlluniau a’r cofnodion fod mor hyblyg â phosibl. Caiff yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan ysgolion ei gyhoeddi yn fuan.

3. A ddylai’r gofynion monitro fod yn gydnaws â’r hyn sy’n ofynnol gan addysg bellach?

O ran cynlluniau / monitro, mae’r gofynion gan ysgolion a lleoliadau ôl-16 mor debyg â phosibl, a chynghorir ysgolion a dosbarthiadau chwech i ddatblygu un cynllun gwariant.

Cwestiynau ôl-16

1. Oes yna fwy o gyllid ôl-16 ar gael ar gyfer 2021 i 2022?

Mae sawl un wedi gofyn p’un a fydd y £4.187m ar gyfer sesiynau dal i fyny ar gael y flwyddyn ariannol nesaf. Yn anffodus, yr ateb i hyn yw Na fydd. Dyrannwyd y £4.187m at ddibenion dal i fyny ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021, gan ei dalu’n llawn ym mlwyddyn ariannol 2020 i 2021.

2. Sut mae’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio lle mae myfyrwyr yn mynychu sefydliadau addysg bellach? Gallaf weld sut byddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau chwech drwy awdurdodau lleol, ond gan fod sefydliadau addysg bellach yn annibynnol, onid ydyn nhw’n derbyn cyllid gwahanol? Rwy’n sylweddoli bod gan rai awdurdodau lleol system drydyddol, ond sut mae hyn yn gweithio lle mae yna farchnad gymysg (o ddosbarthiadau chwech a sefydliadau addysg bellach)? Hefyd, rwy’n cymryd bod y cyllid yn gysylltiedig â’r £29m i ysgolion, ond yn ychwanegol ato?  

Mae sefydliadau addysg bellach wedi cael eu grant eu hunain at ddibenion dal i fyny, sydd wedi’i gyfrifo yn yr un ffordd yn union drwy ychwanegu 5% at y gyfradd gyllid unedol. Mewn perthynas ag ysgolion, dylai’r cyllid ychwanegol fod yn gysylltiedig â’r £29m yn sicr, gan mai gweithredu ar lefel ysgol gyfan yw’r nod, nid fel carfanau cyn-16/ôl-16.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 120 KB.

Maint Ffeil 120 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.