Rebecca Evans AS Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Cynnwys

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Cynnwys
Bywgraffiad
Cafodd Rebecca Evans ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ym mis Mai 2011 i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, cafodd ei hethol yn Aelod o’r Senedd ar gyfer etholaeth Gŵyr.
Enillodd Rebecca radd mewn Hanes gan Brifysgol Leeds, a gradd MPhil mewn Astudiaethau Hanesyddol gan Goleg Sidney Sussex, Prifysgol Caergrawnt. Cyn iddi gael ei hethol, bu Rebecca yn gweithio yn y trydydd sector.
Yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae Rebecca wedi gwasanaethu ar Bwyllgor yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 daeth yn Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018 ymunodd â’r Cabinet fel Gweinidog Cyllid a Threfnydd.
Cyfrifoldebau
- Trysorlys Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru
- Rhoi cyfarwyddyd strategol a rheoli adnoddau Llywodraeth Cymru
- Polisi trethi
- Polisi trethi lleol, gan gynnwys y Dreth Gyngor, ardrethi annomestig, gostyngiadau’r dreth gyngor a noddi Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio
- Monitro a rheoli'r gyllideb
- Buddsoddi Strategol
- Buddsoddi i Arbed
- Cyfrifyddu ac archwilio ariannol
- Monitro a rheoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn
- Gwerth am arian ac effeithiolrwydd
- Gweithredu a datblygu'r setliad cyllid datganoledig a'r Datganiad Polisi Cyllido
- Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru
- Caffael, cynnal a gwaredu eiddo ac asedau eraill
- Cyd-drefnu'r Ystadegau Gwladol a'r Cyfrifiad
- Rheoli busnes Llywodraeth Cymru yn Senedd yn unol â'r Rheolau Sefydlog
- Darparu'r Datganiad Busnes wythnosol
- Cynrychioli'r Llywodraeth ar y Pwyllgor Busnes
- Cysylltu â phleidiau eraill ynghylch Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth (heblaw am Filiau unigol sy'n parhau’n gyfrifoldeb i’r Gweinidog sy’n arwain arnynt)