Heddiw, ymwelodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, â Phorth y Rhaw, Tyddewi, lle mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn arwain tîm i ddysgu mwy am y safle, sy'n cael ei golli'n gyflym i'r môr oherwydd erydu arfordirol.
Dyma’r drydydd tymor o gloddio cymunedol, ac mae'r cyllid gan Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Nineveh, gyda chymorth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - ynghyd â chymorth tîm brwdfrydig o wirfoddolwyr – yn caniatáu i'r Ymddiriedolaeth adfer gwrthrychau a gwybodaeth archaeolegol na ellir eu hadfer cyn iddynt gael eu colli i'r môr.
Eleni mae'r gwaith cloddio yn canolbwyntio ar gloddio tŷ crwn mawr wedi’i adeiladu o gerrig. Mae darganfyddiadau, sy’n cynnwys crochenwaith a glain gwydr glas, yn dangos bod pobl wedi byw yn y tŷ hwn yn y Cyfnod Rhufeinig.
Dywedodd Ken Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed:
"Mae caer Porth y Rhaw yn safle pwysig sy'n gallu dweud llawer wrthym am fywyd yn yr Oes Haearn a’r Cyfnod Rhufeinig yn Sir Benfro. Mae gwaith blaenorol wedi dangos i ni y gallai'r gaer fod wedi cael ei defnyddio ers dros fil o flynyddoedd. Y tu fewn iddo, mae olion tai crwn cynhanesyddol i’w gweld, ac roedd rhai ohonynt wedi'u hailadeiladu sawl gwaith.
"Mae erydu arfordirol yn effeithio ar Borth y Rhaw ar hyn o bryd, mae llawer ohono eisoes wedi'i golli i'r môr, a bydd hyn ond yn mynd yn fwy difrifol wrth i ni deimlo effeithiau cynyddol y newid yn yr hinsawdd. Mae'n hanfodol ein bod yn adfer cymaint o wybodaeth â phosibl cyn i'r gwaith ar y safle fynd yn rhy beryglus."
Dim ond un elfen o addasu i newid yn yr hinsawdd yw cloddio ac adfer tystiolaeth; rhywbeth y mae sector yr amgylchedd hanesyddol cyfan yn gweithio arno ar hyn o bryd. Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o risgiau a chyfleoedd newid yn yr hinsawdd a'r angen i ymaddasu, mae is-grŵp newid hinsawdd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol (HEG) wedi cyhoeddi Cynllun Addasu Sector yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd yng Nghymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Rydyn ni eisoes yn profi effeithiau newid hinsawdd yma yng Nghymru. Mae tymereddau cynhesach, lefelau môr uwch, patrymau glawiad newidiol a thywydd eithafol amlach bellach yn gyfarwydd. Bydd effaith hyn ar ein hasedau hanesyddol, na ellir eu hadfer, yn arwain at ganlyniadau sylweddol i'r amgylchedd hanesyddol yn ei gyfanrwydd yn ogystal â phobl Cymru. Mae angen i ni weithredu nawr i wella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r bygythiadau a'r cyfleoedd i'r amgylchedd hanesyddol, a chynyddu ein gallu a'n cadernid i addasu ac ymateb i'r risgiau.
"Mae'r safle anhygoel hwn wedi datgelu tystiolaeth o 1000 o flynyddoedd o feddiannaeth, ac mae'n ras yn erbyn amser a'r tywydd i gael cymaint o wybodaeth ag y gallwn am y safle – sy'n adrodd stori ddiddorol i ni am ein hynafiaid. Roeddwn hefyd wrth fy modd yn cwrdd â'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda'r ymddiriedolaeth sydd wedi profi manteision sylweddol i'w lles eu hunain yn ogystal â chyfrannu at y prosiect."
Yr wythnos hon, mae saith sefydliad yn y DU wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i helpu i fynd i'r afael ag effaith newid yn yr hinsawdd ar safleoedd hanesyddol a'n treftadaeth ddiwylliannol, ac i rannu arbenigedd.
Bydd Partneriaeth Addasu Treftadaeth newydd y DU yn gweld stiwardiaid o safleoedd hanesyddol ledled y wlad – Cadw, Adran Cymunedau Gogledd Iwerddon, English Heritage, Historic Environment Scotland, Historic England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban – yn cyfuno ymchwil ac arbenigedd. Gan weithio gyda'i gilydd, bydd sefydliadau treftadaeth o bob rhan o'r pedair gwlad yn archwilio materion allweddol o ran sut y gall ein safleoedd a'n casgliadau hanesyddol addasu i amlder a dwyster cynyddol peryglon hinsawdd megis llifogydd a gwres eithafol, gan gryfhau ein hamgylchedd hanesyddol.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am gloddiadau Porth y Rhaw drwy ymweld â thudalennau cyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, neu os ydych yn yr ardal gallwch ymweld â ni ar y safle. Bob dydd ac eithrio dydd Llun, 09:00 i 16:00, tan 8 Gorffennaf.
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Archaeological Trust ar Facebook
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed (@dyfedarch) ar Instagram