Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb gweithredol

Mewn Datganiad Llafar ar 4 Mehefin 2024, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fy mod i, Julie Morgan AS, wedi cytuno i arwain adolygiad o Raglen Gwella Gwyliau'r Haf (SHEP) (a hyrwyddwyd i ddysgwyr a theuluoedd o dan frand 'Bwyd a Hwyl') ar ran Llywodraeth Cymru ar sut y gellir gwneud y mwyaf o'r ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r haf i sicrhau eu bod yn cyrraedd y plant a'r bobl ifanc hynny sydd ei hangen fwyaf.

Yn dilyn cyfnod o adolygu tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau ac argymhellion interim yr adolygiad hwnnw.

Trosolwg a rhesymeg

Mae SHEP yn ymrwymiad o fewn y Rhaglen Lywodraethu, sy'n nodi:

Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi. Byddwn yn adeiladu ar Raglen Gwella Gwyliau’r Haf.

Mae'n gynllun ysgol sy'n darparu prydau iach, addysg am fwyd a maeth, gweithgaredd corfforol a sesiynau cyfoethogi i ddysgwyr mewn ardaloedd sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol am o leiaf 12 diwrnod yn ystod gwyliau ysgol yr haf.

Wedi'i dreialu i ddechrau gan Gyngor Dinas Caerdydd yn 2015, mae SHEP wedi ehangu i fod yn rhaglen ledled Cymru, ac mae bellach yn cael ei rheoli gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a'i hyrwyddo i ddysgwyr a theuluoedd o dan y brand 'Bwyd a Hwyl'.

Pum canlyniad arfaethedig ar gyfer SHEP:

  • Iechyd meddwl a lles emosiynol gwell.
  • Ymgysylltiad â'r ysgol a chyrhaeddiad addysgol.
  • Dyheadau gwell.
  • Gweithgarwch corfforol gwell.
  • Arferion dietegol gwell.

Er mwyn i ysgolion fod yn gymwys, rhaid bod gan o leiaf 16% o'u dysgwyr hawl i brydau ysgol am ddim (eFSM). Mae Awdurdodau Lleol yn cydlynu ceisiadau gan ysgolion sy'n dymuno gweithredu cynllun Bwyd a Hwyl ac yn eu cyflwyno i CLlLC ym mis Ionawr, Chwefror bob blwyddyn.

A disgwyl i 2025 fod yn 10fed flwyddyn y rhaglen, roedd yr adolygiad yn gyfle amserol i ganolbwyntio ar adeiladu ar y llwyddiant a welsom dros y naw mlynedd diwethaf, gwella'r hyn sydd eisoes yn gweithio ac ystyried y ffordd orau o ddenu carfan ehangach i gymryd rhan.

Yn benodol, roedd yn edrych ar sut y gellid gwella SHEP, gan gynnwys cynnig y rhaglen i'r dysgwyr mwyaf difreintiedig ac 'anodd eu cyrraedd'. Roedd y gwaith yn cynnwys ystyried y data presennol ar y defnydd o SHEP, gwerthusiadau ac adolygiadau ehangach. Yn dibynnu ar benderfyniadau terfynol ynghylch cwmpas y gwaith, efallai y bydd hefyd angen trafodaethau gyda CLlLC, awdurdodau lleol, ysgolion, dysgwyr a rhieni. 

Fel y nodir ym manyleb cychwynnol yr adolygiad, cyflwynir yr adroddiad interim hwn yn hydref 2024 gyda'r bwriad o lywio a chefnogi'r broses o weithredu cynlluniau SHEP/Bwyd a Hwyl yn haf 2025.

Gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd

Goruchwyliais ac ymgymerais â'r gweithgareddau canlynol gyda chefnogaeth swyddogion tîm Tegwch mewn Addysg Llywodraeth Cymru:

  • Adolygiad desg byr o ddogfennau, adroddiadau a gwerthusiadau polisi perthnasol.
  • Ymweld â saith ysgol sy'n rhedeg SHEP i siarad â staff a disgyblion am eu profiadau o'r rhaglen.
  • Hwyluso deg sesiwn drafod ar-lein gyda rhanddeiliaid o awdurdodau lleol, CLlLC a'r gweithlu addysgol.

Cynlluniau yr ymwelwyd â nhw:

  • Ysgol Gynradd Tregatwg, y Barri Ysgol Gynradd Aberteifi
  • Ysgol Bryn y Deryn, Caerdydd
  • Trinity Fields, Caerffili
  • Ysgol Panteg, Torfaen
  • Ysgol Greenhill, Caerdydd (a wnaed yn rhinwedd fy swydd fel AS Gogledd Caerdydd)
  • Ysgolion Coed Glas, Caerdydd (a wnaed yn rhinwedd fy swydd fel fel AS Gogledd Caerdydd)

Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda:

  • Tîm Rhaglen CLlLC
  • ALl Ynys Môn
  • ALl Sir Ddinbych
  • Cynrychiolwyr Cydlynwyr ALlau
  • Cynrychiolwyr Penaethiaid
  • Cynrychiolwyr Dietegwyr o Fyrddau Iechyd Lleol
  • Cynrychiolwyr Cydlynwyr y Cynllun
  • Cynrychiolwyr Arweinwyr Arlwyo ALlau

Mae canlyniadau'r gweithgareddau hyn i ymgysylltu â'r cyhoedd wedi'u casglu yn yr adroddiad byr hwn. 

Trosolwg o'r canfyddiadau

O ystyried yr adolygiad o'r dystiolaeth ynghylch y ddarpariaeth bresennol, cwrdd â rhanddeiliaid ac ymweld â chynlluniau, fy mhrif argraff o SHEP yw gwasanaeth o ansawdd uchel, a phob cynllun â'i nodweddion unigol ei hun, rhai yn gweithredu am amser hir ac wedi hen sefydlu, eraill yn eu dyddiau cynnar.

Cefais fy nharo gan frwdfrydedd y staff, ansawdd uchel y deunyddiau a ddefnyddiwyd, y cynllunio effeithiol ar gyfer y diwrnod, a'r gweithgareddau a gynigir i ysgogi diddordeb. Braf oedd gweld y cysylltiadau da a wnaed gyda rhieni, a fynegodd pa mor gyffrous a diolchgar yr oeddent ynghylch y ddarpariaeth, a'r niferoedd uchel yn y prydau i deuluoedd yn dystiolaeth bellach o hyn.

Roedd yn ymddangos bod yr ymgysylltiad cadarnhaol hwn yn cael effeithiau buddiol o ran y berthynas ehangach rhwng plant, eu teuluoedd a'r ysgol, ac wedi hynny, lefelau presenoldeb yn ystod y tymor. Deallaf, yn dilyn darpariaeth yr haf hwn, fod astudiaeth achos wedi ei chynnal lle gofynnwyd i benaethiaid gymharu presenoldeb ym mis Medi 2024 â mis Medi 2023 ar gyfer yr un grŵp sampl o blant. Mae'r wybodaeth a gasglwyd yn awgrymu bod dod i gysylltiad â Bwyd a Hwyl dros wyliau'r haf yn effeithio'n gadarnhaol ar bresenoldeb plant wrth ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi. Mae hyn yn arwydd cadarnhaol, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld rhagor o ymchwil a data ynghylch y mater pwysig hwn.

Wrth siarad â rhanddeiliaid, rhannwyd rhai heriau ynghylch diffyg staff i gefnogi cynlluniau a diffyg rhybudd ynghylch gwaith adeiladu yn yr ysgol, gan atal cynlluniau rhag mynd yn eu blaen. Roedd hefyd yn amlwg bod llawer yn dibynnu ar frwdfrydedd yr arweinydd mewn cynlluniau, ac yn aml dyma'r rheswm pam fod cynllun wedi datblygu mewn ysgol benodol.

Neges a ddaeth i'r amlwg yn gryf, o ran darparu elfen fwyd y Rhaglen, yw bod bron pob un o'r staff dan sylw yn gweld colli'r Bag Bwyd. Roedd rhai cynlluniau lleol wedi dod o hyd i'w ffordd eu hunain o oresgyn hyn, ond roedd yn bendant yn cael ei weld fel colled.

Yn gyffredinol, drwy'r adolygiad hwn, mae gennyf hyder bod y Rhaglen mor werthfawr fel y dylid canfod ffordd systematig i sicrhau ei bod ar gael yn ehangach mewn ardaloedd lle mae'r niferoedd yn isel, er mwyn osgoi 'loteri cod post'. Er bod y rhaglen yn tyfu, rwy'n ymwybodol mai dim ond 305 o'r bron i 1,500 o ysgolion yng Nghymru oedd yn cymryd rhan yn y Rhaglen yn 2024. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o bobl yn manteisio ar y lleoedd sy'n bodoli.

Mae'r argymhellion isod yn nodi camau gweithredu sy'n canolbwyntio ar sicrhau y gellir darparu'r rhaglen i gymaint â phosibl yn ystod gwyliau'r haf i sicrhau eu bod yn cyrraedd y plant a'r bobl ifanc hynny sydd ei hangen fwyaf, tra hefyd yn cydnabod bod angen i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i ba ddarpariaeth ehangach sydd ei hangen i gefnogi teuluoedd dros gyfnodau gwyliau.

Prif argymhellion

  1. Parhau i ehangu'r rhaglen er mwyn sicrhau mwy o degwch a chynnwys pob plentyn, gan dargedu'n well er mwyn ymgysylltu â:
    1. Mwy o ddysgwyr difreintiedig, gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu sy'n geiswyr lloches.
    2. Awdurdodau lleol sydd â lefelau cyfranogiad is i sicrhau tegwch y ddarpariaeth ledled Cymru.
    3. Ysgolion uwchradd i gefnogi pontio rhwng cynradd ac uwchradd.
    4. Ysgolion arbennig, gan gydnabod gwerth y ddarpariaeth hon i ddysgwyr a'u teuluoedd.
  2. Llywodraeth Cymru i weithio gyda CLlLC i godi ymwybyddiaeth o'r Rhaglen mewn Awdurdodau Lleol ac yn genedlaethol i sicrhau'r lefelau cyfranogiad mwyaf, gan gynnwys ymgysylltu â'r cyfryngau.
  3. Awdurdodau Lleol i sicrhau cynllunio effeithiol i sicrhau'r lefelau cyfranogiad mwyaf drwy:
    1. cydlynu SHEP â darpariaeth gwyliau haf arall, hynny yw Gwaith Chwarae er mwyn osgoi dyblygu a sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei rhannu ar draws cyfnod gwyliau'r haf.
    2. nodi pryd y mae gwaith adeiladu angenrheidiol mewn ysgolion wedi ei gynllunio ac ail-amserlennu neu ail-leoli darpariaeth h.y. drwy ddefnyddio model ysgol hyb.
  4. Gan gydnabod ystyriaethau ariannol ehangach, symud i gylch ariannu aml-flwyddyn i gael mwy o sicrwydd a chynllunio'n strategol mewn ffordd fwy hirdymor, gan gynnwys ynghylch recriwtio a hyfforddi staff.
  5. Ystyried neu gomisiynu/ymgymryd ag ymchwil pellach i edrych ar y canlynol:
    1. a yw 16% o ddysgwyr eFSM yn parhau i fod yn drothwy cadarn a phriodol ar gyfer cymryd rhan.
    2. a yw trafnidiaeth yn rhwystr i gymryd rhan, mynediad a phresenoldeb.
  6. CLlLC i gynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar gynlluniau ar bob diwrnod gweithredu drwy hwyluso'r ffordd i rannu arferion gorau.
  7. CLlLC i annog Cynlluniau i ddatblygu dull arloesol o staffio, gan gynnwys defnyddio gwirfoddolwyr neu ddarparwyr trydydd parti yn ogystal â staff ysgol i gymryd rhan lle bo hynny'n briodol.
  8. Llywodraeth Cymru i weithio gyda CLlLC i:
    1. Adeiladu ar elfennau maeth y ddarpariaeth, gan ystyried capasiti, hyfforddiant a chefnogaeth i staff a dietegwyr.
    2. Ystyried ailsefydlu'r ddarpariaeth Bag Bwyd.
  9. CLlLC i sicrhau bod pob dogfen telerau ac amodau ac unrhyw ganllawiau yn cael eu hystyried yn briodol ac yn drylwyr fel bod Awdurdodau Lleol, cydlynwyr y cynllun, partneriaid cyflawni a'u sefydliadau ehangach yn gwbl ymwybodol o'r amodau cyn gweithredu'r ddarpariaeth, yn enwedig o ran defnyddio cyfleusterau, maeth a diogelu.
  10. Ystyried ffyrdd o gydnabod llwyddiannau'r rhaglen yn well, gan gynnwys cydnabod ymdrechion staff a gwirfoddolwyr sy'n sicrhau'r ddarpariaeth.
  11. Gan gydnabod manteision y cynllun, tra'n cydnabod ystyriaethau cyllidebol ehangach, ystyried darpariaeth gwyliau ysgol mewn ffordd fwy holistaidd (hynny yw beth ddylai LlC ei wneud yn y gofod hwn wrth symud ymlaen yng nghyd-destun gofal plant, tlodi plant/newyn gwyliau ac ati).

Casgliad

Roeddwn yn falch dros ben o gael fy ngwahodd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i arwain yr adolygiad hwn o Raglen Gwella Gwyliau'r Haf. Trwy siarad â rhanddeiliaid a chynlluniau ymweld, rwyf wedi gweld drosof fy hun pa mor werthfawr yw'r Rhaglen, pa mor ddiolchgar yw teuluoedd am y ddarpariaeth hon, a faint mae plant yn mwynhau ac yn ei ddysgu o'r profiad hwn.

Mae'r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio ar y ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r haf, gan gyrraedd y plant a'r bobl ifanc hynny sydd ei hangen fwyaf, tra hefyd yn cydnabod bod angen i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i ba ddarpariaeth ehangach sydd ei hangen i gefnogi teuluoedd dros gyfnodau gwyliau.

Rwy'n gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ystyried canfyddiadau'r adolygiad hwn a bwrw ymlaen â'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn.

Julie Morgan AS/MS
Aelod o’r Senedd dros Ogledd Caerdydd