Mae Quantum Advisory, cwmni ymgynghori actwari annibynnol sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn ehangu gyda chymorth Llywodraeth Cymru gan greu 40 o swyddi newydd.
Yn sgil £200,000 o gymorth cyllid busnes gan Lywodraeth Cymru, mae Quantum Advisory wedi symud ei bencadlys yng Nghaerdydd i safle mwy yn Llaneirwg, a bydd nifer y gweithwyr yng Nghaerdydd yn cynyddu i dros 90 yn ystod y tair blynedd nesaf.
Croesawyd y newyddion gan Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a ddywedodd:
"Mae Quantum Advisory yn fusnes cynhenid sy’n gweithio yn un o sectorau allweddol ein heconomi ac rwy’n falch bod cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi sicrhau’r prosiect ehangu hwn dros Gymru.
“Mae’r buddsoddiad yn cefnogi strategaeth y sector gwasanaethau ariannol a proffesiynol a fydd yn creu swyddi cynaliadwy uchel eu gwerth ym maes gwyddoniaeth actwari sy’n farchnad sy’n tyfu.”
Quantum Advisory yw enw masnachol Quantum Actuarial LLP ac mae’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â phensiynau a buddion i weithwyr, ar gyfer cyflogwyr ac ymddiriedolwyr ac aelodau cynlluniau. Wrth roi cyngor ar asedau cronfeydd pensiwn gwerth £3.5 biliwn, mae’r cwmni wedi darparu gwasanaeth gweinyddu pensiwn i’w cleientiaid ers ei sefydlu, yn ogystal â gwasanaethau cynghori ar fuddsoddi, materion actwari a phensiynau i gleientiaid yn y DU a thramor.
Dywedodd Andrew Reid-Jones, Partner yn Quantum Advisory:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol i sicrhau y gallwn ni wireddu ein cynlluniau i dyfu yn strategol. Nid oedd lle ar ôl yn ein hen swyddfa ond yn sgil nawdd Llywodraeth Cymru roedden ni’n gallu symud i safle cyfagos mwy sy’n addas ar gyfer y twf yr ydym yn ei ddisgwyl yn y dyfodol ac i ddarparu gwasanaethau canolog pellach i’n swyddfeydd rhanbarthol.”
Ers sefydlu’r cwmni yn 2000 gydag un swyddfa yng Nghaerdydd, mae gan Quantum erbyn hyn swyddfeydd rhanbarthol yn Amersham, Birmingham, Bryste a Llundain ac roedd y trosiant llynedd wedi cynyddu 10%.
Mae nifer bach o sefydliadau corfforaethol mawr yn arwain yn y farchnad ar gyfer ymgynghori ar fuddion a phensiynau gweithwyr a Quantum yw’r unig gwmni o’r fath sydd â'i bencadlys yng Nghymru. Mae’n arbenigo yn y farchnad hon drwy ddarparu gwasanaethau a systemau pwrpasol.
Mae £3.3 triliwn o asedau’n cael eu rheoli yn y farchnad bensiwn yn y DU ac mae’r farchnad yn parhau i dyfu oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys awtogofrestru, a newid deddfwriaethol a rheoleiddiol.