Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cais am orchymyn i sefydlu pysgodfa gregyn breifat neu i reoli pysgodfa gregyn naturiol â phwerau i gyfyngu ar hawliau pysgota ac i roi trwyddedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae ffermio pysgod cregyn, neu ddyframaethu fel y’i gelwir, yn cyfrannu £4 miliwn bob blwyddyn at economi Cymru. Mae'n cyflogi rhyw 40 o weithwyr amser llawn (neu eu cyfatebol).  I gynnal hyn yn unol â Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967, defnyddir gorchmynion - Gorchmynion Pysgodfeydd Unigol (Several Orders) a Gorchmynion Rheoleiddio fel y’u gelwir – i roi hawliau pysgota neu reoli penodol llwyr o fewn ardal benodedig.  

Gall Gorchmynion Pysgodfeydd gael effeithiau pwysig ar bobl eraill. Felly, mae pob cais am orchymyn newydd yn cael ei asesu’n drylwyr fel rhan o drefn ffurfiol y mae’n rhaid ei dilyn i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i bob barn.  Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut mae’r gorchmynion yn rheoli pysgodfeydd cregyn ac yn disgrifio’r broses ymgeisio. 

Gorchmynion Pysgodfeydd

Mae Gweinidogion Cymru yn cael gwneud gorchmynion i annog sefydlu a gwella pysgodfeydd cregyn preifat ac i reoli pysgodfeydd cregyn naturiol yn well. Ceir dau fath o orchymyn:

  • Gorchmynion Pysgodfeydd Unigol, sy’n cael eu rhoi i sefydlu neu i wella pysgodfeydd cregyn preifat
  • Gorchmynion Rheoleiddio, sy’n rhoi’r hawl i reoli’r defnydd o bysgodfa gregyn naturiol

Mae gorchmynion yn cyfyngu ar hawliau pysgota mewn ardal benodol o fôr neu arfordir llanw yng Nghymru. Maent yn ymdrin ag un neu fwy o rywogaethau o bysgod cregyn a enwir ac fe’u rhoddir am gyfnod penodol.

Er y gall y gorchmynion hyn bara am hyd at 60 o flynyddoedd, mae’n fwy cyffredin i Orchymyn Pysgodfa Unigol bara 10 i 20 o flynyddoedd ac i Orchymyn Rheoleiddio bara 20 i 30 o flynyddoedd.

Pa rywogaeth y gall gorchymyn ymdrin â hi

Gall Gorchymyn Pysgodfa Unigol a Gorchymyn Rheoleiddio ymdrin ag un neu fwy o’r rhywogaethau canlynol:

  • wystrys
  • cregyn gleision
  • cregyn cylchog
  • cocos
  • cragen fylchog
  • cregyn y frenhines (‘queenies’)
  • crancod
  • cimychiaid

Gall gorchymyn ymdrin â mathau eraill o gramenogion a molysgiaid o’u henwi.

Gorchmynion Pysgodfeydd Unigol

Pan fyddwch wedi cael Gorchymyn Pysgodfa Unigol, chi fydd perchennog cyfreithiol y rhywogaeth o bysgodyn cregyn y mae’r gorchymyn yn ymdrin â hi yn yr ardal dan sylw. Mae gennych yr hawl llwyr i:

  • gymryd y rhywogaeth o bysgodyn cregyn a enwir o’r ardal benodedig
  • creu a chynnal gwelyau pysgod cregyn
  • casglu, symud neu osod pysgod cregyn yn yr ardal benodedig

Mae’n drosedd i unrhyw un arall:

  • aflonyddu ar y pysgod cregyn na’u niweidio
  • ymyrryd â’r gwely pysgod cregyn neu’r bysgodfa ei hun heb ganiatâd deiliad y gorchymyn

Mae Gorchymyn Pysgodfa Unigol fel arfer yn cyfyngu ar yr arferion pysgota cyffredin a ganiateir yn yr ardal rhag niweidio’r rhywogaeth a enwir.  Gall hefyd osod amodau a chyfyngiadau ar ddeiliad y gorchymyn.  Er enghraifft, trwy nodi dull cynaeafu’r pysgod cregyn.

Gofynion cyfreithiol ar ffermydd pysgod cregyn

Os eich bwriad yw sefydlu busnes dyframaethu pysgod cregyn, bydd yn rhaid ichi wneud cais am ganiatâd cyn y gall unrhyw ddatblygiad ddigwydd. Mae pob fferm pysgod a physgod cregyn yn y DU wedi gorfod cael caniatâd i helpu i osgoi cyflwyno a lledaenu clefydau heintus.

Yng Nghymru, bydd yr Arolygiaeth Iechyd Pysgod (FHI) yn rhoi gwybod ichi pa ofynion y bydd yn rhaid ichi eu bodloni er mwyn cael caniatâd.  Bydd yn archwilio’ch safle cyn ichi ddechrau cynhyrchu, ac os bydd popeth yn iawn, bydd yn rhoi ei ganiatâd i’ch fferm pysgod cregyn.

Wedi ichi gael caniatâd ar gyfer eich fferm pysgod cregyn, bydd yn rhaid ichi fodloni safonau penodol. Bydd y rheini’n cynnwys cadw cofnodion a mesurau bioddiogelwch digonol.  Cewch wybod mwy yn y canllaw ar ganiatáu a chofrestru ffermydd pysgod a physgod cregyn.  Rhaid ichi gadw cofnod o fanylion holl symudiadau’ch pysgod cregyn i ac o’ch safle cofrestredig.

I wneud yn siŵr bod eich fferm pysgod cregyn yn ddi-glefyd, bydd yr arolygwyr yn cynnal archwiliadau ac yn codi samplau’n rheolaidd.

Gorchmynion Rheoleiddio

Mae Gorchymyn Rheoleiddio’n rhoi’r pŵer ichi reoleiddio’r ffordd y caiff pysgod cregyn o fewn ardal benodedig a ddaw o dan y gorchymyn eu pysgota, eu llusgrwydo a’u cymryd, ac i osod cyfyngiadau ar hynny. Os oes gennych Orchymyn Rheoleiddio ar gyfer pysgodfa gregyn naturiol, cewch:  

  • roi trwyddedau i bobl eraill iddynt gael cymryd pysgod cregyn yn yr ardal benodedig
  • gosod amodau a chyfyngiadau y mae’n rhaid i ddeiliad y drwydded gadw atynt wrth gymryd pysgod cregyn
  • rheoli’r bysgodfa gregyn
  • gwahardd pobl heb drwydded o’r bysgodfa gregyn

Mae’n drosedd i berson di-drwydded bysgota na llusgrwydo am bysgod cregyn na’u cymryd yn yr ardal benodedig.

Gwneud cais am orchymyn

Mae Gorchmynion Pysgodfeydd Unigol a Gorchmynion Rheoleiddio’n cyfyngu ar hawl y cyhoedd i bysgota mewn rhai mannau.  Mae’n bwysig ystyried yn ofalus cyn eu rhoi. Er mwyn diogelu hawliau unrhyw un sydd â budd yn yr ardal dan sylw, rhaid i bob cais am orchymyn ddilyn trefn ffurfiol. Am hynny, gall gymryd dwy flynedd i roi gorchymyn. 

Yng Nghymru, rhaid gwneud cais i Lywodraeth Cymru.

Cyn gwneud cais

Cyn gwneud cais am orchymyn, bydd angen gweld a oes gan rywun yr hawliau preifat canlynol ar lan y môr:

  • hawl pysgodfa – a roddir trwy Ddeddf arbennig y Senedd, Siarter Brenhinol neu fecanwaith debyg
  • yr hawl i gynnal gweithgaredd arall

Bydd yn rhaid ichi gael caniatâd y bobl hynny os ydych am wneud cais i greu gorchymyn pysgod cregyn.

Ymgynghori â phobl eraill sydd â diddordeb

Byddai’n syniad da ichi siarad â phobl eraill y byddai’r gorchymyn yn effeithio arnynt cyn gwneud cais.  Gallai hynny ei gwneud hi’n llai tebygol y cewch chi wrthwynebiad.  Dyma enghreifftiau o bobl a allai fod â budd yn ardal y gorchymyn:

  • pobl sy’n pysgota at ddiben masnachol neu hamdden yno
  • pobl sy’n defnyddio’r ardal at ddibenion hamdden neu chwaraeon eraill
  • awdurdodau mordwyo a phorthladdoedd
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)

Cyflwyno cynllun rheoli

Wrth wneud cais am Orchymyn Pysgodfa Unigol neu Orchymyn Rheoleiddio, bydd angen ichi hefyd gyflwyno cynllun rheoli drafft. Rhaid iddo ddangos eich bwriadau ar gyfer yr ardal a’r rhywogaeth a ddaw o dan y gorchymyn dros bum mlynedd.

Y drefn ffurfiol

Wrth wneud cais am Orchymyn Pysgodfa Unigol neu Orchymyn Rheoleiddio, rhaid dilyn trefn ffurfiol i sicrhau bod eich cais yn cael ei ystyried yn deg. Chi fydd yn gyfrifol am unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'ch cais, gan gynnwys costau asesu amgylcheddol a hysbysebu.

Rhaid ichi gwblhau'r holl adrannau perthnasol, gan sicrhau eich bod yn rhoi ateb llawn i bob cwestiwn, ac yn rhoi gwybodaeth ychwanegol a fydd, yn eich barn chi, yn ategu eich cais.

Os bydd yn rhaid inni ofyn ichi am ragor o wybodaeth, bydd yn cymryd mwy o amser i brosesu eich cais.

Heb yr holl wybodaeth ofynnol, ni fyddwn yn gallu prosesu’ch cais.

Yng Nghymru, mae'r drefn ymgeisio ffurfiol yn cynnwys y camau canlynol:

  1. Bydd angen i’r ymgeisydd lenwi a chyflwyno ffurflen gais ynghyd â:
    ffurflen o wybodaeth
    cynllun rheoli drafft pum mlynedd
    caniatâd ysgrifenedig perchennog hawliau
    dau gopi o siart ddiweddaraf y Morlys o’r ardal
    manylion y cwmni neu’r gorfforaeth os yw'n berthnasol 
    datganiad amgylcheddol os oes angen
  2. Gweinidogion Cymru fydd yn ystyried y cais gyntaf er mwyn penderfynu a ddylai gael mynd yn ei flaen. Yn y rhan hon o’r broses, ystyrir potensial ymarferol a masnachol y cynnig, yn ogystal ag unrhyw rwystrau cyfreithiol, a materion cadwraeth.
  3. Bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod naill ai fod ei gais wedi’i wrthod, gan gynnwys y rhesymau am hynny, neu fod gorchymyn drafft yn cael ei baratoi.
  4. Bydd swyddogion yn anfon y gorchymyn drafft at adrannau eraill y Llywodraeth a chyrff sydd â diddordeb i gael eu sylwadau.
  5. Bydd swyddogion yn asesu'r sylwadau ac yn gwneud unrhyw ddiwygiadau i'r gorchymyn drafft, ac yna anfonir copi at yr ymgeisydd i'w wirio.
  6. Rhaid hysbysebu'r Gorchymyn drafft am gyfnod o un mis. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw hysbysebu a rhaid bodloni gofynion penodol.
  7. Bydd Gweinidogion Cymru yn derbyn gwrthwynebiadau ysgrifenedig a bydd cyfle i'r ymgeisydd eu datrys.
  8. Trefnu ymchwiliad cyhoeddus, os oes angen, i ystyried gwrthwynebiadau arwyddocaol sydd heb eu tynnu’n ôl. Bydd Gweinidogion Cymru’n penodi arolygydd.
  9. Bydd Gweinidogion Cymru’n ystyried canlyniad yr ymgynghoriad neu ymchwiliad cyhoeddus ac yn cyhoeddi’r penderfyniad ar y Gorchymyn.
  10. Os bydd y penderfyniad o blaid yr ymgeisydd, bydd yr ymgeisydd yn hysbysebu’r gorchymyn yn y cyfryngau lleol gan gynnwys manylion pryd y daw i rym.
  11. Bydd swyddogion yn trefnu bod y gorchymyn yn cael ei argraffu.  Rhaid cadw copi o’r Gorchymyn a map o’r ardal sy’n dangos terfynau’r bysgodfa yn swyddfa’r ymgeisydd ar gyfer unrhyw un sydd am ei weld.

Rhaid dilyn y drefn ffurfiol bob tro, sy’n golygu y gall ymgeisio fod yn broses hir. Gall gymryd hyd at ddwy flynedd i gael gorchymyn.

Bydd gofyn i’r rheini y rhoddir Gorchmynion Pysgodfeydd Unigol a Rheoleiddio iddynt roi gwybodaeth flynyddol i Weinidogion Cymru, yn rhoi manylion gweithgarwch y bysgodfa.