Mae'r pysgodfeydd cocos ar Draeth Lafan, Traeth Melynog a Traeth Coch yng Ngogledd Cymru bellach ar gau. Byddant ar gau o 1 Mai hyd 31 Awst 2022.
Bydd y pysgodfeydd cocos yng Ngogledd Cymru ar gau i gasglwyr cocos hyd 31 Awst 2022. Gwneir hyn yn unol ag Is-ddeddf 14 Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Gorllewin Lloegr a Gogledd Cymru.
Mae is-ddeddfau Cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru mewn grym o hyd. Fel pe baent wedi’u gwneud gan Weinidogion Cymru mewn Offeryn Statudol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i legislation.gov.uk.