Mae'r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion ar gyfer iâ ac eira ledled Cymru.
Mae'r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion ar gyfer iâ ac eira ledled Cymru ac roedd Mr Skates yn awyddus i atgoffa teithwyr a defnyddwyr y ffyrdd o'r paratoadau a'r cyngor diweddaraf a ble i fynd i gael yr wybodaeth orau.
Dywedodd:
"Boed ar y rheilffyrdd neu'r ffyrdd, mae'n glir o ragolygon y tywydd ar gyfer dydd Iau a dydd Gwener yng Nghymru y bydd teithio'n anodd.
"Diogelwch yw'r brif ystyriaeth a hoffwn ailadrodd y cyngor swyddogol i bawb gynllunio ymlaen llaw a gwrando ar yr wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio, gan gymryd mwy o ofal a rhoi mwy o amser ichi'ch hun gyrraedd pen eich taith.
"Ar ein ffyrdd, mae paratoadau trylwyr wedi'u gwneud ar gyfer y gaeaf - mae gennym ddigonedd o halen, ac mae gan Lywodraeth Cymru stoc wrth gefn rhag ofn. Mae gennym 133 o lorïau graeanu ar ein ffyrdd ac rydym yn cadw golwg fanwl ar y tywydd ac yn ymateb iddo i gadw defnyddwyr y ffyrdd yn sâff. Cofiwch wrando ar gyngor Traffig Cymru a'r swyddfa dywydd os ydych yn teithio ar y ffyrdd.
"O safbwynt y rheilffyrdd, bydd teithwyr eisoes wedi clywed bod trafferthion ar rai o lwybrau Trenau Arriva Cymru oherwydd difrod i olwynion rhai trenau. O gofio hynny a'r tywydd sydd i ddod, rwy'n pwyso ar deithwyr y rheilffyrdd hefyd i gynllunio ymlaen llaw ac i wrando ar gyngor swyddogol Network Rail a Trenau Arriva Cymru cyn teithio.
"Hoffwn fynegi ar goedd fy niolch i asiantwyr y cefnffyrdd, staff awdurdodau lleol, contractwyr, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, y gwasanaethau argyfwng a phawb arall sy'n gweithio'n ddiflino i'n cadw'n ddiogel.
"Neges Llywodraeth Cymru yw cynlluniwch ymlaen llaw, byddwch yn ofalus a gwrandewch ar y cyngor swyddogol diweddaraf cyn teithio pan fydd hi'n dywydd mawr."
Traffig Cymru yw'r lle gorau i fynd i glywed y cyngor teithio diweddaraf ar gyfer ffyrdd Cymru.
Llinell gwybodaeth i'r cyhoedd: 0300 123 1213
@traffigcymruN;
@trafficwalesN;
@traffigcymruD;
@trafficwalesS