Mae pawb yn holl wledydd y DU sy'n cadw dofednod yn cael eu hannog i gadw'n effro i fygythiad ffliw'r adar ac i baratoi nawr i leihau'r risg i'w heidiau y gaeaf hwn.
Mae camau syml y gallwch eu cymryd i gadw'ch heidiau'n ddiglefyd. Gall pawb sy'n cadw dofednod - boed ar fferm fawr fasnachol neu'r rheini sy'n cadw ychydig o rai dof yn yr ardd gefn - fod yn barod ar gyfer y gwaethaf a chymryd camau syml i leihau'r risg cyn i wyddau a hwyaid mudol ddechrau cyrraedd:
- cadwch y mannau lle rydych yn cadw adar yn lân a thwt, cadwch reolaeth ar lygod bach a mawr a diheintiwch arwynebau caled yn rheolaidd. Glanhewch eich esgidiau cyn ac ar ôl bod yn eu gweld
- rhowch fwyd a diod yr adar mewn mannau sydd wedi'u hamgáu'n llwyr a'u hamddiffyn rhag adar gwyllt a chodwch unrhyw fwyd sydd wedi sarnu
- rhowch ffens o gwmpas y mannau yn yr awyr agored y mae'ch adar yn cael mynd iddyn nhw a pheidiwch â gadael iddyn nhw fynd at byllau dŵr a mannau eraill y mae hwyaid a gwyddau gwyllt yn eu defnyddio
- cadwch yn effro i'r perygl trwy ymuno â'r gwasanaeth rhybuddion testun neu e-byst am ddim fydd yn eich rhybuddio pan geir achos o ffliw'r adar yn y DU. Dylech hefyd gofrestru'ch haid ar-lein - mae'n gyflym ac yn ddidrafferth.
Y gaeaf diwethaf, cafwyd y straen H5N8 o ffliw'r adar mewn 13 o heidiau dofednod o rhwng 9 a 65,000 o adar yn y DU. Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achos newydd dros yr haf, ond ceir achosion o hyd ymhlith dofednod yn Ewrop. Yr Eidal yw'r wlad ddiweddaraf i gael ei tharo. Hefyd, cafwyd alarch dof marw yn Norfolk yn ddiweddar.
Mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda grwpiau gan gynnwys yr NFUs, y British Hen Welfare Trust a Chlwb Dofednod Prydain Fawr i bwysleisio mor bwysig yw cynnal y safonau bioddiogelwch uchaf er bod y perygl wedi lleihau.
Mae'r grwpiau'n awyddus i dynnu sylw at effaith ffliw'r adar ar y diwydiant dofednod, gan fod achos mewn haid yn yr ardd gefn yn arwain at yr un cyfyngiadau masnachu ag achos mewn fferm fasnachol - felly mae amddiffyn eich ieir anwes rhag y clefyd yn amddiffyn ffermwyr eich ardal a thrwy'r wlad.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol y DU, Nigel Gibbens:
"Er ei bod yn newyddion da nad ydym wedi cael achos wedi'i gadarnhau o'r clefyd mewn dofednod yn y DU ers dau fis, mae'r clefyd yn parhau'n fygythiad - yn enwedig wrth i'r gaeaf nesáu.
"Am hynny, allwn ni ddim llaesu dwylo a hoffwn atgoffa pawb sy'n cadw heidiau bach neu fawr i wneud popeth i leihau'r risg i'w hadar.
"Gallai cymryd camau bach nawr, fel glanhau a diheintio'r mannau lle rydych yn cadw'ch adar yn rheolaidd a gofyn am rybuddion testun am ddim, leihau'r risg i'ch adar gael eu heintio'r gaeaf hwn."
Ychwanegodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:
"Er bod ceidwaid heidiau mawr a bach o ddofednod ac adar caeth yn fawr eu croeso i'r diffyg achosion newydd, rwyf am atgoffa pawb ei bod yn hanfodol parhau i fod yn effro i arwyddion y clefyd a chadw at y safonau bioddiogelwch uchaf. Os ydych chi'n poeni am iechyd eich adar, holwch eich milfeddyg ac os ydych chi'n credu bod ffliw'r adar ar eich adar, rhowch wybod ar unwaith i swyddfa leol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion."
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol yr Alban, Sheila Voas
"O gofio bod adar gwyllt yn creu risg parhaol o ledaenu ffliw'r adar yn y DU, rwy'n pwyso ar geidwaid adar i gymryd camau syml i leihau'r perygl i'w hadar gael eu heintio. Gallai hynny gynnwys lleihau'r cysylltiad ag adar gwyllt, yn enwedig ar byllau dŵr a chyrff dŵr eraill.
"Un o broblemau mwyaf y Llywodraeth yn yr achosion o ffliw'r adar llynedd oedd cadw mewn cysylltiad â cheidwaid â heidiau bach. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, byddwn yn pwyso ar geidwaid adar - gan gynnwys y rheini sydd eisoes ar Gofrestr Dofednod Prydain - i gofrestru ar gyfer rhybuddion testun am ddim yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion."
Meddai Robert Huey, Prif Swyddog Milfeddygol Gogledd Iwerddon:
“Er fy mod yn croesawu’r ffaith nad oes achosion newydd ledled Prydain, mae’r perygl o weld y ffliw adar yn parhau yn fygythiad real a chyson. Dyna pam ei bod yn hanfodol bod ceidwaid adar yn sicrhau bioddiogelwch effeithiol gydol y flwyddyn, ac nid yn ystod parth atal yn unig.
“Mae angen atgoffa ceidwaid dofednod ac adar eraill yng Ngogledd Iwerddon hefyd bod yn rhaid iddynt gofrestru eu hadar gyda’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Bydd hyn yn sicrhau bod modd cysylltu â hwy ar unwaith yn ystod achos o ffliw adar, gan alluogi iddynt ddiogelu eu haid cyn gynted â phosib.”
Yn dilyn yr achosion diweddaraf mewn adar gwyllt yn Norfolk a'r cyfandir, mae'n debygol y gwelwn y clefyd y gaeaf hwn eto. Rydym yn credu mai adar mudol ddaeth â'r clefyd i'r wlad llynedd, sy'n golygu ei bod yn bwysig bod ceidwaid yn gwybod ei bod yn beryglus gadael i adar dof ddod i gysylltiad ag adar gwyllt.
Gall pawb sy'n cadw dofednod gadw ei fys ar byls y sefyllfa ddiweddaraf trwy ymuno â gwasanaeth rhybuddion yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Mae'n hawdd ymuno ac mae am ddim