Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn wedi canmol y cynnydd a wnaed yng Nghymru a'r DU o ran gweithredu hawliau plant, ers adolygiad diwethaf y Pwyllgor yn 2008.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn ymateb i adroddiad gan y DU ar y camau a gymerwyd ers yr adolygiad diwethaf,  roedd y Pwyllgor wedi canmol Cymru yn benodol am gyflwyno mesurau newydd ar droseddau cam-drin domestig er mwyn ymdrin â chamfanteisio rhywiol ar blant a cham-drin plant, am gyflwyno amddiffyniad statudol ar gyfer y rhai hynny a allai fod yn dioddef yn y fasnach mewn plant, ac am ddeddfu ar gyfer chwarae.

Roedd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi croesawu'r sylwadau, a dywedodd ei fod wedi ymrwymo i wella'r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru, ac i wneud mwy er mwyn rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd iddynt drwy fynd i'r afael â materion fel tlodi, digartrefedd ac iechyd meddwl.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru am i bobl ifanc fod yn rhan o'r broses ddemocrataidd, a'i bod o blaid caniatáu i bobl ifanc 16-17 oed fwrw eu pleidlais. Mae hynny'n cefnogi'r argymhelliad a wnaed gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig i ymghynghori â phlant ynghylch yr oedran pleidleisio.

Dywedodd Carl Sargeant: 

“Rwy'n croesawu argymhellion y Pwyllgor, ac yn ddiolchgar am y cyfle hwn i ddangos y cynnydd yr ydyn ni wedi'i wneud ynghylch hawliau plant ers 2008.

“Er gwaethaf yr amgylchiadau economaidd heriol, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol, sy’n cynnwys diwygiadau addysgol, datblygu gofal plant a'r blynyddoedd cynnar, darparu cyfleoedd chwarae, mynd i'r afael â throseddau casineb a chamwahaniaethu, a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Rydyn ni'n cydnabod bod ymyrryd yn gynnar yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles yn y cyfnod hir. Rhan allweddol o'm rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant fydd sicrhau bod ein polisïau'n mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sy'n gallu arwain at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac sy'n cael effaith hirdymor ar ddyfodol plant.”