Yn bresennol

  • Ken Skates AC (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AC
  • Vaughan Gething AC (tan eitem 3)
  • Lesley Griffiths AC
  • Jeremy Miles AC (tan eitem 4)
  • Eluned Morgan AC
  • Hannah Blythyn AC
  • Jane Hutt AC (tan eitem 4)
  • Shan Morgan – yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Will Whiteley – Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Damian Roche – Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau (cofnodion)
  • Sophie Jones – Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Gwatkin – Cyfarwyddwr, Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach
  • Wendy Boddington – Pennaeth Polisi a Rheoleiddio Ynni
  • Bryn Richards – Pennaeth Cynllunio Rhanbarthol

Eitem 1: Cyflwyniad a chylch gorchwyl

1.1. Croesawodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y rheini a oedd yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf Pwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru. Fel y'i hamlinellwyd yn y Cylch Gorchwyl, diben y Pwyllgor oedd ystyried unrhyw fater a oedd yn berthnasol i lesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y Gogledd.

1.2. Byddai'r Pwyllgor yn adrodd i'r Cabinet ar unrhyw broblemau neu faterion trawsbynciol a fyddai â goblygiadau ariannol neu ddeddfwriaethol, ac ar aelodau'r Cabinet y byddai'r cyfrifoldeb amdanynt bob amser.

1.3. Nododd y Cadeirydd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar draws rhanbarth y Gogledd, a bod y trefniadau hynny'n gydnaws ag uchelgais y Pwyllgor i fod yn weladwy ac yn rhagweithiol ar draws yr ardal.

Eitem 2: Gofal Iechyd Sylfaenol – CAB-NW(18-19)02

2.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dull o weithredu ar iechyd a llesiant a ddefnyddid o dan y Model Gofal Sylfaenol, yn enwedig yr enghreifftiau ohono a oedd yn berthnasol i'r Gogledd.

2.2 Roedd y gwaith o drawsnewid Gofal Sylfaenol yng Nghymru yn deillio o weledigaeth y Llywodraeth ar gyfer darparu system lle y byddai pobl yn cael mynediad at y gofal iawn, ar yr amser iawn, o'r ffynhonnell iawn, naill ai yn eu cartrefi neu mor agos â phosibl i'w cartrefi.

2.3 Roedd yr angen i greu model sefydlog ar gyfer Ymarfer Cyffredinol yn ganolog i'r newid hwn, ac er gwaethaf y canfyddiad ymhlith rhai o aelodau'r cyhoedd y byddai uno practisau llai yn arwain at golli gwasanaethau, y gwirionedd oedd bod practisau mwy o faint yn fwy cynaliadwy a'u bod yn gallu darparu gwasanaethau a mynediad gwell ar gyfer y cleifion.

2.4 Nodwyd bod yr ymgyrch farchnata 'Hyfforddi, Gweithio Byw', a oedd yn canolbwyntio ar ddenu meddygon teulu a nyrsys, wedi arwain at fwy o bob yn dewis Cymru ar gyfer hyfforddi, a bod y Llywodraeth yn buddsoddi mewn 24 o leoedd hyfforddi ychwanegol i feddygon teulu.

2.5 Nododd Pwyllgor y Cabinet fod y newidiadau i gontractau gofal sylfaenol ar gyfer gwasanaethau ymarfer cyffredinol, fferyllfeydd cymunedol, a phractisau deintyddiaeth y GIG, wedi dechrau gwella'r gofal a ddarperir. Er enghraifft, roedd fferyllfeydd cymunedol yn helpu i leihau'r baich ar feddygon teulu ac ysbytai drwy drin rhai problemau cyffredin yn eu lle.

2.6 Yn benodol o ran y Gogledd, nodwyd bod y ganolfan gofal cymunedol yn Wrecsam yn cynnig gofal a chymorth cydgysylltiedig i bobl ddigartref, drwy dynnu ynghyd wasanaethau megis gwasanaethau meddygon teulu, gwasanaethau iechyd meddwl, a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Roedd y model hwn yn defnyddio'r adnoddau presennol yn y modd mwyaf effeithiol, gan rannu arferion da ac asedau cymunedol er mwyn gwella bywydau'r rheini sy'n ddigartref.

2.7 Hefyd, roedd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn y Gogledd yn rhan bwysig o'r cynigion trawsnewid, a'r nod oedd hyrwyddo llesiant meddyliol pobl yr ardal a sicrhau bod y rheini sy'n wynebu salwch meddwl yn gallu cael mynediad at y cymorth y mae ei angen, pan oedd ei angen.

2.8 Nododd y Pwyllgor y papur.

Eitem 3: Trefniadau trawsffiniol ar gyfer iechyd, trafnidiaeth, a datblygu economaidd

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y rhannau a oedd yn ymwneud ag iechyd yn y papur trawsbynciol hwn, gan amlinellu'r heriau a wynebir gan system sy'n ceisio darparu'r canlynol: teithio di-dor i unigolion sy'n gweithio ar draws ffiniau; darparu nwyddau a gwasanaethau mewn modd effeithlon; a sicrhau bod cleifion yn parhau i gael mynediad at ofal iechyd ar y ddwy ochr i'r ffin.

3.2 Adroddwyd bod y camau a gymerwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Countess of Chester i beidio â derbyn atgyfeiriadau dewisol oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi peri trallod i gleifion ar ddwy ochr y ffin, a bod y camau hyn wedi cael effaith sylweddol ar y berthynas drawsffiniol.

3.3 Ochr yn ochr â hynny, roedd costau ychwanegol wedi eu hymgorffori yn y tariff gofal iechyd trawsffiniol yn Lloegr, a'u bod wedi arwain at anghydfod ynglŷn â lefel y taliadau a'r posibilrwydd y byddai diffyg o £14m i GIG Cymru nad oedd wedi cynllunio ar ei gyfer.

3.4 Nododd y Pwyllgor fod y Llywodraeth wedi cymryd camau cadarnhaol i ddatrys y materion hyn, gan gynnwys gweithio'n agosach gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac o ganlyniad i hynny roedd wedi sicrhau cynrychiolaeth ar Grŵp Cynghori ar Dariffau Llywodraeth y DU. Byddai hyn yn golygu y gellid cadw golwg ar ganlyniadau ariannol unrhyw benderfyniadau ar dariffau a wnaed ar ochr arall y ffin, ac y byddai'n bosibl ystyried eu heffeithiau digon o flaen llaw, wrth gynllunio cyllidebau.

3.5 O ran y llwyddiannau pwysig a gafwyd ar draws rhanbarth y Gogledd, roedd cyllid cyfalaf sylweddol wedi ei ddarparu ar gyfer nifer o gynlluniau, gan gynnwys:

  • £163.957m ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd i ddatrys problemau'r asbestos a diogelwch tân, a £2.260m arall ar gyfer datblygu theatr hybrid;
  • £17.9m ar gyfer Canolfan Gofal Dwys Is-ranbarthol i Fabanod Newyddanedig yn y Gogledd;
  • £13.893m ar gyfer Adran Frys Bangor yn Ysbyty Gwynedd;
  • £3.290m ar gyfer uned llawdriniaeth dydd ac endosgopi yn Ysbyty Maelor Wrecsam;

3.6 Croesawodd y Pwyllgor y datblygiadau a'r gwelliannau hyn a gafwyd o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig.

3.7 Gan droi at y rhannau o'r papur a oedd yn ymdrin â thrafnidiaeth a datblygu economaidd, disgrifiodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y trefniadau cydweithredol presennol a oedd ar waith ar gyfer teithio ar y ffyrdd, y rheilffyrdd (gan gynnwys y Metro), ac ar y môr, gan nodi pwysigrwydd y cysylltiadau masnach a oedd ar waith ar draws ffin Cymru-Iwerddon.

3.8 Roedd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y potensial ar gyfer ehangu'r trefniadau trawsffiniol drwy Gynghrair y Mersi a’r Ddyfrdwy. Roedd ardal gyfan y Gynghrair, a oedd yn cynnwys Wrecsam, Sir y Fflint, y Wirral, a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn cynrychioli dros 950,000 o bobl, gyda gwerth ychwanegol gros o tua £23bn, a bron i 400,000 o bobl wedi eu cyflogi ar draws 32,000 o fentrau, 120 ohonynt yn cyflogi 250 neu fwy o bobl.

3.9 Eisoes roedd hanes o weithio mewn partneriaethau cadarn yn ardal Gogledd Cymru – Gogledd-orllewin Lloegr, gan gynnwys y Northern Powerhouse yn ehangach, gydag o leiaf 12 o wahanol rhaglenni yn rhoi sylw i'r diwydiannau mawr megis y diwydiant niwclear, twristiaeth, ac uwch-weithgynhyrchu.

3.10 Croesawodd y Pwyllgor y trefniadau hyn, ond cytunwyd y byddai'n allweddol cryfhau'r cysylltiadau rhwng y rhwydweithiau presennol hyn a dwysáu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gynghrair.

3.11 Cymeradwyodd Is-bwyllgor y Cabinet yr argymhellion yn y papur.

Eitem 4: Y Fargen Twf a'r Cynllun Economaidd ehangach

4.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y papur a oedd yn gwahodd Pwyllgor y Cabinet i nodi'r dull gweithredu ar gyfer negodi strwythur Bargen Twf y Gogledd; y model llywodraethu rhanbarthol; ac i roi cyngor ar gysoni ar draws y portffolios er mwyn cyflawni amcanion y cynllun gweithredu ar yr economi yng Ngogledd Cymru.

4.2 Nododd y Pwyllgor fod y Bwrdd Uchelgais Economaidd yn disgwyl y byddai hyd at £500m o fuddsoddiad gan y sector preifat yn cael ei gynnwys yn erbyn y swm bras o £250m o gyllid cyhoeddus, a oedd yn ychwanegol at y £120m yr oedd y Llywodraeth wedi ymrwymo'n gyhoeddus iddo. Roedd hyn yn golygu y byddai cyfanswm y buddsoddiad yn fwy na £1bn ar gyfer y rhanbarth, ac y byddai'n creu dros 4,000 o swyddi uniongyrchol a thros 10,000 o swyddi anuniongyrchol yn ystod oes y prosiect, sef 15 mlynedd. Y nod cyffredinol oedd y byddai gwerth economi Gogledd Cymru yn cynyddu o £13.6bn yn 2016 i £26bn yn 2035.

4.3 Roedd y Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi cynnig dull gweithredu a oedd wedi ei rannu'n ddau gam; a byddai'r prosiectau yng ngham un yn cynnwys:

  • Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru;
  • Ynni clyfar;
  • Atomfa Trawsfynydd;
  • Y Ganolfan Rhagoriaeth ar gyfer Ynni Niwclear;
  • Rhaglen Tir ac Eiddo;
  • Prosiect Porth Caergybi.

4.4 Roedd aelodau'r Pwyllgor yn falch o weld bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi ei hadlewyrchu'n eglur, a bod yna gysylltiadau cadarn â'r pum ffordd o weithio a ddisgrifir yn y Ddeddf honno.

4.5 Bu'r Pwyllgor yn ystyried Bargen Twf y Gogledd a'i pherthynas â'r Cynllun Economaidd Rhanbarthol ehangach, gan nodi'r bwriad i sefydlu model llywodraethu a fyddai'n cynnwys Cyd-bwyllgor Craffu ac Ymgynghori i gysylltu gwaith y Pwyllgor hwn â gwaith yr Awdurdod Lleol sy'n cael ei arwain gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd. Byddai gan y pwyllgor craffu gynrychiolaeth drawsbleidiol, a hefyd byddai'n cynnwys ACau, ASau, a chynrychiolwyr o awdurdodau lleol a Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn sicrhau bod pob sector yn cael ei gynrychioli.

4.6 Cymeradwyodd y Pwyllgor y papur.

Eitem 5: Strategaeth ryngwladol: yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar

5.1 Rhoddodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith o ddatblygu Strategaeth Ryngwladol newydd, a oedd yn defnyddio dull gweithredu traws-lywodraethol.

5.2 Byddai'r strategaeth yn ddogfen lefel uchel, a fyddai'n cael ei hategu gan gynlluniau cyflawni a fyddai'n gallu bod yn hyblyg er mwyn ymateb i ffactorau allanol megis effeithiau Brexit, ac unrhyw gytundebau masnach a fyddai'n dilyn hynny neu newidiadau yn yr economi fyd-eang.

5.3 Byddai tair colofn graidd yn sail i'r strategaeth: creadigrwydd; cynaliadwyedd; a thechnoleg, ac o fewn y tri maes hynny, byddai ffocws penodol ar y diwydiant lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch, a chynhyrchu deunydd teledu a ffilm o safon.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2019