Llywodraeth Cymru
Pwyllgor Sgrinio Cymru: amdanom ni
Pwyllgor Sgrinio Cymru yw’r fforwm cynghori cenedlaethol ar raglenni sgrinio iechyd. Mae’r Pwyllgor yn ystyried tystiolaeth ar sgrinio iechyd, gan gynnwys argymhellion gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.
Mae’n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru ynglŷn â’r canlynol:
- gweithredu rhaglenni sgrinio poblogaeth newydd nad ydynt yn cael eu darparu gan y GIG ar hyn o bryd
- comisiynu grwpiau prosiect i ystyried rhaglenni sgrinio newydd ac addasiadau i raglenni sy’n bodoli eisoes
- technolegau sgrinio y mae eu heffeithiolrwydd wedi cael ei brofi ond y mae angen eu cyflwyno mewn modd a reolir yn effeithlon
- parhau â rhaglenni sgrinio poblogaeth sy’n bodoli eisoes, eu haddasu, neu eu diddymu
- pennu blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer sgrinio
- materion generig sy’n ymwneud â rhaglenni, polisi, ansawdd a diogelwch sgrinio
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu’r rhaglenni sgrinio cenedlaethol canlynol:
- Bron Brawf Cymru
- Sgrinio Coluddion Cymru
- Sgrinio Serfigol Cymru
- Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
- Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru
- Sgrinio Clyw Babanod Cymru
- Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn goruchwylio’r ddarpariaeth o Sgrinio Cyn Geni Cymru, sy’n cael ei gweithredu gan fyrddau iechyd lleol.