Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru, 7 Hydref 2021: diweddariad Data Cymru
Y newyddion diweddaraf gan Data Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Data daearyddiaeth ystadegol ar gael ar Data Agored Cymru ac InfoBaseCymru
I ddiwallu galw amlwg, rydym ni wedi ei gwneud yn bosibl edrych ar ddaearyddiaeth ystadegol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar InfoBaseCymru ac ar ein platfform newydd Data Agored Cymru.
Cysylltwch â ni os hoffech ychwanegu eich data chi at Data Agored Cymru!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â suzanne.draper@data.cymru.
Meithrin gallu
Rydym ni yma i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac wedi datblygu cyfres o gyrsiau hyfforddiant hanner diwrnod i helpu i feithrin gallu dadansoddol. Oes diddordeb gennych mewn ehangu eich set sgiliau? Os felly, cysylltwch â ni i weld sut allwn eich cefnogi chi. Mae’r cyrsiau hyfforddiant yn cynnwys:
- arweiniad i gyflwyno data
- cynhyrchu a defnyddio ystadegau cryno
- dylunio a dadansoddi arolygon
- cynllunio am grwpiau ffocws a’u cynnal
- arweiniad i werthuso
Yn ogystal, cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion hyfforddiant penodol neu syniadau am gyrsiau pellach.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â sam.sullivan@data.cymru.
Newyddion diweddaraf Llefydd Llewyrchus Cymru
Rydym wedi diweddaru ein hofferyn Llefydd Llewyrchus Cymru yn ddiweddar gyda data a sgoriau newydd ar gyfer 2021. Mae’r offeryn yn mesur cyffredinrwydd amodau am lesiant ar lefel daearyddiaeth awdurdodau lleol, gyda ffocws ar lesiant unigolion a chymunedau yn hytrach na llesiant ariannol. Mae’n adlewyrchu amodau mewn ardal awdurdod lleol ac nid yw’n fesur o berfformiad unrhyw sefydliad unigol, na grŵp o sefydliadau.
Nid yw methodoleg yr offeryn wedi newid, ond rydym wedi ychwanegu dau ddangosydd newydd ar gyfer eleni.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â duncan.mackenzie@data.cymru.