Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau staff yn Data Cymru

Ar 28 Mai dwedom ni ffarwel trist i Andrew Stephens sydd nawr wedi ymddeol, ar ôl 40 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Andrew, y bydd llawer ohonoch chi yn ei adnabod, oedd ein Cyfarwyddwr Gweithredol yn Data Cymru ers 18 mlynedd. Cyn i Andrew ymadael, ysgrifenodd flog o’r enw ‘Yfory newydd’, sy’n myfyrio ar ei amser yn Data Cymru a’i yrfa’n fwy cyffredinol.

Richard Palmer, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Data Cymru o’r blaen, yw ein Prif Swyddog Gweithredol bellach.

Rydym ni’n symud!

Mae cynlluniau’n mynd rhagddynt i ni symud swyddfa yn hwyrach eleni. Rydym ni (a CLlLC) yn symud o Dŷ Llywodraeth Leol i lety newydd. Rydym ni’n aros yng Nghaerdydd, ond bydd ein gofod newydd yn cynnig amgylchedd gweithio hyblyg. Felly, wrth i gyfyngiadau’r llywodraeth ddechrau gael eu lliniaru, byddwn yn gallu gwahodd partneriaid i gyfarfodydd wyneb yn wyneb eto yn hytrach na rhai Zoom a Teams!

DataAgoredCymru

Mae ein porth data agored newydd, Data Agored Cymru, yn fyw erbyn hyn. Mae’r wefan yn galluogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i gyhoeddi eu data agored ar safle canolog sy’n gallu cael ei gyrchu a’i ddefnyddio’n rhydd ac yn hawdd, heb drafferth gorfod datblygu eu gwefan eu hun.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid am 18 mis i ddatblygu a phrofi’r safle, a’n gobaith yw y daw yn lle hanfodol a fynd ato ar gyfer data agored sector cyhoeddus yng Nghymru.

I gefnogi egwyddor data agored ledled Cymru, rydym yn cyd-drefnu rhwydwaith rhithwir data agored sector cyhoeddus - ‘cymuned’ o unigolion o bob rhan o’r sector cyhoeddus sy’n ymddiddori mewn data agored ac yn awyddus i ddysgu a rhannu â’i gilydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â daniel.cummings@data.cymru.

DataBasicsCymru

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi lansiad DataBasicCymru a DataBasicCymru+, ein rhaglen hyfforddiant newydd a phecyn hyfforddiant a hwylusir sydd wedi’u dylunio i’ch helpu i adeiladu diwylliant data o fewn eich sefydliad.

Mae rhaglen hyfforddiant DataBasicCymru yn cynnwys cyfres o ymarferion ar-lein, hunan-wasanaeth, am ddim, gweithdai (y mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dibynnu ar bapur, ysgrifbin a thrafod) a nifer fach o offerynnau a fydd i gyd yn eich helpu i adeiladu’r sgiliau sylfaenol mae eu hangen er mwyn defnyddio data’n fwy effeithiol mewn ffordd ddifyr a chreadigol.

Gyda’n pecyn DataBasicCymru+, byddwch chi’n gadael y gwaith caled i gyd i ni.  Bydd hwylusydd personol yn cael ei aseinio i chi a fydd nid yn unig yn arwain yr holl sesiynau hyfforddiant ond a fydd yn gweithio gyda chi, ymlaen llaw, hefyd i ddylunio’ch pecyn hyfforddiant pwrpasol.

I drafod eich gofynion, cysylltwch â duncan.mackenzie@data.cymru.

Ymunwch â’n gweminar am ddim: 29 Mehefin 2021 14:00 i 16:00

 

I gyd-fynd â lansiad DataBasicCymru a DataBasicCymru+ rydym yn cynnal gweminar ar 29 Mehefin 14:00 i 16:00. Erbyn diwedd y gweminar bydd y cyfranogwyr:

  • dysgu mwy am raglen hyfforddiant DataBasicCymru a sut mae’n gallu bod o fudd i’ch sefydliad chi
  • cael eich cyflwyno i ddeunyddiau DataBasicCymru a chael cyfle i roi prawf ar weithdy i chi eich hun
  • dysgu mwy am sut y gall ein hwyluswyr medrus, profiadol helpu’ch sefydliad chi i fanteisio i’r eithaf ar y rhaglen hyfforddiant

Sylwch y caiff y gweminar ei gyflwyno yn Saesneg yn unig, ond y cewch gyfle i ofyn cwestiynau/rhoi sylwadau yn y Gymraeg drwy gyfrwng y cyfleuster sgwrsio.

Cliciwch y ddolen i gadw’ch lle am ddim a dechrau’ch taith i mewn i adeiladu hyder data yn eich sefydliad: Rhaglen hyfforddiant newydd sbon i Gymru: DataBasicCymru

Rhannwch yr wybodaeth hon â’ch cydweithwyr yn ôl yr angen. Am fwy o wybodaeth am y gweminar, cysylltwch â duncan.mackenzie@data.cymru.

Data Payckeck CACI

Rydym yn nesáu at drydedd blwyddyn ein trefniant consortiwm tair-blynedd presennol rhwng awdurdodau a CACI, sy’n cynnig mynediad i ddata Paycheck am gyfradd ostyngedig i’r awdurdodau. Byddwn yn cysylltu ag awdurdodau yn ystod yr haf er mwyn deall eu defnydd ar y data ac unrhyw alw am ddata Paycheck yn y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â duncan.mackenzie@data.cymru.

Cefnogaeth i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Cynllunio Rhanbarthol

Rydym wedi cyhoeddi set data craidd ar ein porth Data Agored, gyda’r nod o gefnogi’r ymarfer casglu data y bydd partneriaethau’n ei gynnal fel rhan o’u priod brosesau asesu.

Hefyd byddwn yn cyhoeddi Catalog Data, sy’n amlinellu’r data a’r wybodaeth sy’n cael eu cyhoeddi gan amrediad o sefydliadau cyhoeddus/gwirfoddol rhanbarthol a allai gyfrannu at asesiadau. Bydd y catalog yn cynnwys manylion cyswllt pob sefydliad hefyd os bydd angen mwy o wybodaeth ar bartneriaethau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â duncan.mackenzie@data.cymru.

Gweithdy Rheoli Data

Ar 28 Mai, cynhaliodd Data Cymru weithdy ynghylch rheoli data ar y cyd â swyddfa Prif Swyddog Digidol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cafodd y gweithdy ei fynychu gan fwy na 40 o gydweithwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Roedd y gweithdy yn gyfle i ofyn i gydweithwyr feddwl am daith data eu sefydliad; ble maen nhw a beth all gael ei wneud i’w symud yn agosach at eu nodau strategol.

Roedd yn sesiwn hynod o gynhyrchiol, pan drafodom ni strategaeth ddata, aeddfedrwydd data, a galluedd. Diolch o galon i bawb a’i mynychodd. Bwriadwn drefnu gweithdai/ digwyddiadau pellach yn y dyfodol, felly os nad oedd modd i chi fynychu’r un hwn neu os hoffech gymryd rhan yn y dyfodol, cysylltwch â ni.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â sam.sullivan@data.cymru.