Cylch gorchwyl
Yn egluro cyfrifoldebau’r Pwyllgor Cynghori ar Reoliadau Adeiladu a sut y mae’n gweithredu.
Yn wreiddiol, sefydlwyd y Pwyllgor Cynghori ar Reoliadau Adeiladu ym 1962 o dan Adran 9 o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus 1961 – sydd bellach wedi cael ei disodli gan adran 14 o Ddeddf Adeiladu 1984 – i gynghori’r Ysgrifennydd Gwladol priodol ynghylch arfer ei bwerau i wneud rheoliadau adeiladu, ac ar faterion eraill perthnasol yng Nghymru a Lloegr.
Mae Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (y GTS) yn trosglwyddo pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf (gyda rhai eithriadau) i Weinidogion Cymru o 31 Rhagfyr 2011. O dan adran 14(5) o’r Ddeddf (fel y’i diwygiwyd gan y GTS) bydd gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i benodi Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu at y diben o gynghori Gweinidogion Cymru ar arfer eu pwerau i wneud Rheoliadau Adeiladu ac ar bynciau eraill sy’n gysylltiedig â’r rheoliadau adeiladu.
Felly, mae gan Weinidogion Cymru rwymedigaeth statudol i benodi Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ac i ymgynghori â’r Pwyllgor hwnnw (a chyrff eraill perthnasol) i gael cyngor cyn gwneud unrhyw reoliadau adeiladu sy’n cynnwys gofynion sylweddol ynddynt. Yn ymarferol, mae Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu yn cael ei ddefnyddio fel man i arbrofi ar ystod eang o reoliadau adeiladu a materion eraill cysylltiedig.
Dynodwyd Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu fel Pwyllgor Cynghori Gwyddonol o dan God Ymarfer y Llywodraeth ar gyfer Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol 2001.