Neidio i'r prif gynnwy

Mae 10 aelod ar Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu (BRACW).

Penodwyd aelodau’r pwyllgor hyd at dair blynedd ac maent yn ymdrin â meysydd arbenigol.

Pensaernïaeth: Bernadette Kinsella

Mae gan Bernadette dros 20 mlynedd o brofiad mewn saernïaeth gyda 15 mlynedd gyda ‘Powell Dobson Architects’ yn gweithio yn bennaf ar brosiectau preswyl. Cyfarwyddwr ers 2006 mae gan Bernadette profiad eang yn sectorau preswyl preifat a thai fforddiadwy, gan gynnwys prosiectau bach pwrpasol hyd at gynlluniau meistr i adeiladwyr tai cenedlaethol.

Adeiladwr Tai: Matthew Grey

Mae Matthew yn Gyfarwyddwr Adeiladu gyda Llanmoor Homes, Adeiladwyr Tai Rhanbarthol Cymru ac mae ganddo 20 blynedd profiad yn y diwydiant adeiladu tai, yn arbenigo mewn Caffael Deunydd, dulliau adeiladu, Rheoliadau Adeiladu a Chydymffurfiad Iechyd a Diogelwch. Mae Matthew hefyd wedi cynrychioli'r diwydiant adeiladu tai yng Nghymru ar weithgorau Llywodraeth Cymru ar Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu a gweithredu systemau chwistrellu yng nghartrefi yng Nghymru.

Arolygwr cymeradwy: Paul Williams

Peiriannydd Adeiladu Siartredig a Rheolwr Technegol Rhanbarth ar gyfer NHBC. Mae ganddo wybodaeth helaeth a phrofiad mewn Rheoli Adeiladu ac adeiladu sy'n pontio rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn y diwydiant.

Cynaliadwyedd: Steven Harris

Pensaer Siartredig gyda CRSH Pensaernïaeth ac Ynni yn y Fenni, a Chyfarwyddwr Technegol a Pholisi ar gyfer Energence Ltd. Mae Steven hefyd wedi bod yn aelod o hwb di-garbon, ac ymgynghorydd allanol i DCLG, HMT a GLA ar bolisïau bron yn ddi-ynni.

Adeiladwr tai mawr: Will Phillips

Mae Will yn Gyfarwyddwr Technegol ar gyfer rhanbarth De Cymru Taylor Wimpey UK, mae e wedi bod yn y rôl hon am nifer o flynyddoedd sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, cyn hyn cynhelir rolau tebyg gyda dau adeiladydd tai eraill sy’n CCC. Roedd Will hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithgorau technegol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu'r systemau chwistrellu tân mewn cartrefi yng Nghymru.

Peiriannydd strwythurol: Matthew Evans

Mae Matthew yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn y Tîm Adeiladu yn ARUP yng Nghaerdydd gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu, 20 mlynedd fel Peiriannydd Strwythurol. Mae Matthew wedi arwain sawl prosiect amlddisgyblaethol ac wedi ymwneud yn eang gyda’r Sefydliad Peirianyddion Strwythurol fel cyn Cadeirydd Cangen yng Nghymru ac yn genedlaethol fel aelod o’r Cyngor.

Hygyrchedd:  Dr Robert Gravelle

Mae gan y Dr Gravelle gyfoeth o brofiad a sgiliau ym maes Hygyrchedd (neu Fynediad). Mae’r Dr Gravelle wedi gweithio i Gyngor Sir Caerdydd fel ymgynghorydd preifat ar lawer i agwedd ar hygyrchedd ac ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Mynediad a Chynhwysiant i Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, gan weithio gyda phrosiect y Metro i sicrhau bod hygyrchedd a chynhwysiant yn ganolog i bob penderfyniad.  

Defnyddwyr/Safonau Masnachu: David Holland

Mae Dave wedi gweithio am bron 40 mlynedd mewn llywodraeth leol gan arwain ystod o wasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a Rheoleiddio. Mae wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar nifer o faterion yn ymwneud â diogelwch adeiladau, yn fwy diweddar fel aelod o Grŵp Arbenigwyr Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru.  Mae Dave wedi rhoi tystiolaeth i nifer o bwyllgorau ar rôl llywodraeth leol wrth reoleiddio diogelwch adeiladau, yn enwedig ers trychineb Grenfell.

Mae Dave wedi ysgrifennu dau lyfr ar ddiogelwch trydanol a nifer sylweddol o erthyglau mewn cyfnodolion masnach.

Peiriannydd Tân: Richard O’Connell

Mae Richard yn weithiwr proffesiynol a phrofiadol iawn ym maes diogelwch tân gyda dros 38 mlynedd yn y sector.  Cyn ymddeol wedi 32 mlynedd o wasanaeth gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, fe arweiniodd Richard ar Beirianneg Diogelwch Tân a Rheoliadau Adeiladu ar gyfer y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru.  Fel rhan o'r rôl honno bu'n aelod o'r gweithgor dros weithredu rheoliadau ar gyfer systemau chwistrellu dŵr yng Nghymru ac ers dechrau yn y sector preifat yn 2015, mae wedi ymgynghori ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys canolfan siopa a hamdden gwerth miliynau o ddoleri yn Qatar.

Peiriannydd Mecanyddol a Thrydanol: Steve Burrows

Mae Steven yn beiriannydd siartredig gyda CIBSE, ac mae'n uwch-beiriannydd yn nhîm Arup yng Nghaerdydd. Ar ôl gweithio yn y diwydiant am 16 mlynedd, mae gan Steven brofiad o ddylunio gwasanaethau adeiladu, gan weithio ar lawer o dimau prosiectau amlddisgyblaethol ar draws ystod amrywiol o sectorau busnes. Ar ôl dechrau ei yrfa ym maes peirianneg fecanyddol, mae bellach yn arbenigo mewn ffiseg a chynaliadwyedd adeiladau gan ganolbwyntio'n allweddol ar ddarparu arbedion carbon ac ynni ar brosiectau.