Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi bod chwe aelod wedi cael eu penodi i Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu (BRACW).

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dechreuodd Alan Jones, Bernadette Kinsella, Matthew Grey, Paul Williams, Steven Harris a Will Phillips eu rolau ar 1 Ionawr ac maent wedi'u penodi am gyfnod o dair blynedd. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu yn chwarae rôl bwysig yn cynghori Gweinidogion Cymru ar lunio a diwygio rheoliadau adeiladu a materion perthnasol eraill.

"Mae'r cyfnod penodi hwn yn cyd-fynd a'r adolygiad Rheoliadau Adeiladu Rhan L a'r adolygiad Cynaliadwyedd Rheoliadau Adeiladu. Rwy'n hyderus y bydd Alan, Bernadette, Matthew, Paul, Will a Steven yn rhannu profiadau ac arbenigedd amrywiol iawn i'r Pwyllgor."

Mae aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu yn cael eu penodi ar sail wirfoddol ac annibynnol i gynrychioli meysydd penodol o arbenigedd a phrofiad.