Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi croesawu’r ffaith bod trwyddedu gwaith i chwilio am betrolewm ar dir wedi cael ei ddatganoli i Gymru o heddiw ymlaen.
Aeth Ysgrifennydd y Cabinet ati ym mis Gorffennaf i amlinellu’r polisi y mae’n ei ffafrio, sef na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw geisiadau am hollti hydrolig, neu “ffracio”, nac yn trwyddedu unrhyw waith i chwilio am betrolewm yng Nghymru.
Ers hynny, cynhaliwyd ymgynghoriad ar echdynnu petrolewm, a ddaeth i ben ar 25 Medi. Daeth mwy na 1,800 o ymatebion i law mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried y sylwadau a gyflwynwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyn mynd ati erbyn diwedd y flwyddyn i gadarnhau ei pholisi ar gyfer y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Hysbysu sy’n golygu na chaiff yr awdurdodau lleol gymeradwyo ceisiadau am olew a nwy anghonfensiynol, gan gynnwys ffracio, heb gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Mae hynny’n cefnogi gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i ddulliau echdynnu anghonfensiynol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac Awdurdod Olew a Nwy y DU i sicrhau bod yn broses trosglwyddo pwerau yn un hwylus a diddrafferth.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Llosgi tanwyddau ffosil yw’r prif beth sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang ac mae yna dystiolaeth wyddonol hynod gryf sy’n dangos sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn niweidio’n planed. Yn lle edrych ar ffyrdd newydd o echdynnu tanwyddau ffosil, dylen ni fod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
“Fel Llywodraeth, rhaid inni fod yn gyfrifol wrth reoli’n hadnoddau naturiol, gan wneud hynny mewn ffordd sydd nid yn unig yn diwallu anghenion pobl Cymru heddiw, ond hefyd yr anghenion a fydd ganddyn nhw yn y dyfodol.
“Hoffwn i ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Dwi’n rhagweld y bydda i’n cyhoeddi polisi Llywodraeth Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.”
Darllenwch fwy am drwyddedu petrolewm ar y tir ar Gyfraith Cymru.