Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hystyried fel arweinydd byd mewn darparu gwasanaethau digidol ar gyfer addysg. Dyma rai o’r rhesymau pam.
1. Hwb o weithgarwch
Lansiwyd Hwb, platfform dysgu ar-lein ar gyfer Cymru, yn 2012. Mae hyn yn rhoi i Gymru blatfform perffaith ar gyfer cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ac yn dysgu yn ystod cyfyngiadau symud y coronafeirws.
Drwy gydol mis Mawrth 2020, mae’r defnydd o Hwb wedi cynyddu’n sylweddol gyda mwy na 2.8m o fewngofnodi wedi’i gofnodi - mae hynny’n gyfartaledd o 92k o fewngofnodi bob un dydd!
2. Adnoddau Microsoft am ddim gartref
Mae gan Gymru gytundeb trwyddedu cenedlaethol gyda Microsoft sy’n sicrhau bod pob dysgwr ac athro yn ysgolion y wladwriaeth yn cael defnyddio adnoddau diweddaraf Microsoft Office, gan gynnwys Minecraft Education Edition, ar eu dyfeisiau personol gartref.
3. Ehangu Adobe Spark yn genedlaethol
Mae Cymru newydd ddod y wlad gyntaf yn y byd i ddefnyddio Adobe Spark yn genedlaethol, gan alluogi i fwy na 500,000 o athrawon a dysgwyr ledled Cymru ddefnyddio Adobe Spark for Education.
4. Dysgu dwyieithog
Hefyd mae Cymru wedi sicrhau bod Google Classroom ac amrywiaeth o adnoddau G Suite for Education ar gael yn y Gymraeg. Y Gymraeg yw’r ail iaith leiaf yn y byd y mae G Suite ar gael ar ei chyfer.
5. Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu
Ddydd Llun, Ebrill 20, bydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn cyhoeddi Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu sy’n ceisio cefnogi dysgwyr, arweinwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr i ddelio ag effaith y coronafeirws. Cymru yw’r unig genedl yn y DU i ddarparu cyfarwyddyd ac adnoddau cenedlaethol yn y ffordd gydlynol hon.
Fel rhan o raglen Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu, mae Llywodraeth Cymru yn darparu gweithgareddau ar y cyd ag awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cefnogi dysgwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol.