Neidio i'r prif gynnwy

Mae pum aelod newydd wedi eu penodi i fwrdd Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.

Maent yn brif gyfrifol am roi cyngor ar faterion sy'n gysylltiedig â chwaraeon i Lywodraeth Cymru ac yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Cenedlaethol i chwaraeon elitaidd a chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru.

Roeddent yn chwilio am ymgeiswyr sydd:

  • yn hyrwyddo manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol a'r manteision positif sydd iddynt o fewn cymdeithas amrywiol Cymru, yn unol â gweledigaeth Chwaraeon Cymru fel y prif gorff sy'n gyfrifol am bolisi y Llywodraeth ar chwaraeon;
  • yn gallu herio Chwaraeon Cymru i sicrhau eu bod yn cyflawni ei nodau, amcanion a thargedau perfformiad;
  • yn gweithredu mewn modd sy'n hybu safonau uchel o ran priodoldeb a chyllid cyhoeddus;
  • yn gwerthfawrogi neu â dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrifoldeb corfforaethol a rheoli risg i sicrhau bod gweithgareddau Chwaraeon Cymru yn cael eu cynnal mewn modd effeithiol ac effeithlon;

Meddai yr Arglwydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

"Mae sefydliadau ar eu gorau pan mae amrywiaeth o ran diwylliant, meddylfryd a safbwyntiau. Dwi'n falch iawn o weld aelodau mor amrywiol, a phob un ohonyn nhw â phrofiad helaeth. Mae amrywiaeth a chynhwysiant ar fyrddau mor bwysig i'r agenda fusnes.

Meddai Lawrence Conway, Cadeirydd Chwaraeon Cymru 

"Dwi'n falch iawn bod y Gweinidog wedi penodi pum aelod newydd i'r bwrdd i ymuno â Bwrdd Chwaraeon Cymru ym mis Medi. Gyda'i gilydd, maent yn dod â phrofiad eang ar draws amrywiol sectorau. Yn bwysicaf oll, maent yn frwdfrydig ynghylch defnyddio'r profiad hwnnw wrth inni weithio i gynnwys ein strategaeth newydd ar draws y sefydliad.

Penodiadau bwrdd Chwaraeon Cymru 2019

•    Rajma Begum
•    Dafydd Trystan Davies
•    Hannah Murphy
•    Delyth Evans
•    Nicola Mead-Batten