Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy na £6.5miliwn yn cael ei fuddsoddi i fynd i'r afael â gordewdra a diabetes yng Nghymru, mewn ymgais i gefnogi'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n ddifrifol gan y pandemig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid, a nodwyd yn dilyn Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, yn cael ei dargedu at blant a phobl hŷn i’w helpu i gyrraedd pwysau iach ac i gynnal y pwysau hwnnw.

Daw manylion y cyllid hwn cyn i’r Cynllun Cyflawni diwygiedig ar gyfer Pwysau Iach: Cymru Iach 2021-22 gael ei gyhoeddi ar 18 Mawrth, yng ngoleuni effaith pandemig y coronafeirws.

Bydd y cyllid yn cynnwys £5.5m a fydd yn cael ei neilltuo i raglenni penodol Pwysau Iach: Cymru Iach a bydd £1m yn mynd tuag at raglen i helpu unigolion sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes.

Mae mwy na £4m yn mynd i gael ei neilltuo i ddatblygu dull sy'n seiliedig ar systemau a fydd yn helpu i atal salwch ac yn lleihau effaith afiechyd ac anghydraddoldeb.

O ganlyniad, bydd byrddau iechyd yn gallu datblygu eu gwasanaethau eu hunain yn unol â llwybr gordewdra diwygiedig. Bydd mwy na £600,000 arall yn mynd tuag at gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith pobl hŷn.

Bydd hyn yn helpu i gefnogi’r adferiad o'r pandemig drwy annog ymddygiadau iach, yn ogystal â gwella iechyd y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n ddifrifol gan y coronafeirws.

Bydd Chwaraeon Cymru yn gweithio drwy’r awdurdodau lleol i ddarparu cyfleoedd wedi’u targedu i bobl sy’n hŷn na 60 oed, ac nad ydynt yn gwneud dim neu fawr ddim ymarfer corff, gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

Mae Sir Gaerfyrddin yn un ardal awdurdod lleol sydd eisoes wedi gallu dechrau cyflwyno ei rhaglen newydd i bobl dros 60 oed drwy gynnig dosbarthiadau ymarfer corff ar-lein.

Yn gynharach eleni, cafodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ymweld â sesiwn ar-lein 'Actif Unrhyw Le' Cyngor Sir Gaerfyrddin i gael blas o’r hyn sy’n cael ei gynnig.

Drwy ddefnyddio dull ag iddo sawl agwedd, bydd mwy na £600,000 hefyd yn cael ei dargedu at wella iechyd plant a phobl ifanc lle ceir mwy o anghydraddoldebau iechyd a lle mae cyfran uchel o'r boblogaeth sy’n blant yn ordew.

Mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r stigma sydd ynghlwm wrth ordewdra ymhlith plant ac i feithrin perthynas â theuluoedd sy’n amharod i ddod i gysylltiad â gwasanaethau cymorth a chyngor, bydd tri chynllun peilot yn cael eu cynnal i ddysgu sut i helpu teuluoedd i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael iddynt ac ysgogi newid mewn ymddygiad.

Dywedodd Pippa Britton, Llysgennad Pwysau Iach Cymru:

"Fel rhywun sydd ag anabledd, dw i’n gwybod ei bod hi’n gallu teimlo fel brwydr galed i gynnal pwysau iach ac i fod yn actif. Y peth diwethaf rydyn ni am ei weld yw bod unigolion yn gorfod wynebu’r frwydr hon ar eu pennau eu hunain.

"Mae pobl wedi teimlo eu bod nhw wirioneddol wedi’u hynysu oherwydd y pandemig ac nid yw hynny wedi helpu, yn enwedig yn ystod misoedd tywyll y gaeaf pan mae’n anodd mynd allan.

"Dw i’n credu ei bod hi wir yn wych bod Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli hyn a bydd y cyllid a ddaw drwy'r rhaglen Pwysau Iach: Cymru Iach o gymorth mawr i newid y sefyllfa."

Nodwyd bod £1 miliwn arall yn cael ei roi i gefnogi'r gwaith o ddatblygu treialon ar gyfer rhaglen ataliol ar gyfer pobl â’r cyflwr cyn-ddiabetes.

Bydd yr arian yn cefnogi trefniadau profi cadarn ar gyfer meysydd y treialon dros gyfnod o ddwy flynedd, cyn y gellir cynyddu’r gwaith hwn a chynnal rhaglen ymyrraeth ataliol ym mhob cwr o Gymru.

Mae ymchwil wedi dangos bod tystiolaeth dda fod dod o hyd i unigolion sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes yn gallu cael dylanwad mawr i ysgogi unigolion i newid eu hymddygiad ac mae'n cynyddu lefelau cymhelliant er mwyn galluogi newid.

Y gobaith yw y bydd hyn o gymorth wrth ymateb i’r her sy’n dod yn sgil y cynnydd yn nifer y rheini sydd â diabetes math 2, gwella iechyd y boblogaeth sy’n cael ei heffeithio a darparu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn y system.

Ar gyfer 2019-20, roedd gan tua 192,000 o bobl yng Nghymru ddiabetes math 2 – tua 7% o’r boblogaeth sy’n oedolion yng Nghymru. 

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

"Rydyn ni wedi gweld nad oes gwahaniaeth gan y coronafeirws pwy y mae'n ei dargedu. Ond, os nad yw iechyd rhywun yn dda iawn yn y lle cyntaf, mae’n llawer mwy tebygol o gael ei effeithio'n ddifrifol gan y feirws ofnadwy hwn.

"Drwy ymdrechu i wella iechyd y bobl hŷn hynny sydd ddim yn gwneud ymarfer corff, gallwn eu helpu i gyrraedd pwysau iach a lleihau'r perygl y byddan nhw’n wynebu rhagor o broblemau iechyd.

"Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant a chael gwared ar y stigma ymhlith teuluoedd sy’n ofn gofyn am yr help a'r ymyrraeth sydd ar gael pan fydd eu hangen arnyn nhw.

"Rydyn ni’n gwybod bod cyfraddau’r rheini sydd â diabetes yn uchel yng Nghymru ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arian hwn yn ein galluogi ni i gymryd camau yn gynnar i atal salwch, yn ogystal â lleihau effaith afiechyd ac anghydraddoldeb.

"Bydd yr arian hwn yn ein helpu i gyflawni ein nodau yn y rhaglen Pwysau Iach: Cymru Iach a'n hymdrechion i fynd i'r afael â gordewdra a diabetes.