Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £9.8 miliwn ychwanegol i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y cyllid yn dileu rhwystrau i addysg i blant a phobl ifanc oherwydd Covid-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd £8.8 miliwn yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol, gan gynnwys cyllid ar gyfer ysgolion arbennig, gyda £1m i bobl ifanc mewn addysg bellach. 

Mae'r pandemig wedi arwain at oedi cyn i rai pobl ifanc gael eu hasesu o ran eu hanghenion dysgu ychwanegol, oherwydd gofynion ymbellhau cymdeithasol a chyfyngiadau’r coronafeirws. Bydd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio'r cyllid i fynd i’r afael â’r asesiadau yr oedd angen eu cynnal, gan alluogi dysgwyr i ddychwelyd i addysg yn gyflymach. 

Gellir defnyddio'r cyllid hefyd i ariannu costau staff ychwanegol ar gyfer dysgu cyfunol, megis cymorth un-i-un a chostau meddalwedd arbenigol.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i dalu costau fel dosbarthiadau ychwanegol, er mwyn cadw staff a dysgwyr yn ddiogel, a gwasanaethau fel therapi galwedigaethol. Bydd awdurdodau lleol bellach hefyd yn gallu ymestyn cymorth iechyd meddwl a lles i ddysgwyr sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan Covid.  

Mae ysgolion arbennig wedi gallu aros ar agor drwy gydol y pandemig. Fel rhan o raglen frechu Covid-19, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig y brechlyn i staff sy'n darparu gofal personol i'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn glinigol yn ystod mis Chwefror.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Mae Covid-19 wedi creu heriau i'n holl ddysgwyr, ond yn enwedig y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, eu teuluoedd a'u staff sy'n eu cefnogi.

Bydd y cyllid hwn yn helpu pobl ifanc i ddychwelyd i’w siwrnai ddysgu neu ddechrau arni. Mae'n cynnwys cymorth i bobl ifanc mewn addysg bellach, drwy eu helpu i gwblhau eu cyrsiau eleni a symud ymlaen i'r cam nesaf yn eu bywydau fel oedolion.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:

Mae ymchwil wedi dangos y gall y pandemig gael effaith benodol ar blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed, a bod rhai plant ar eu colled yn addysgol oherwydd cymhlethdod eu hanghenion.

Yn ogystal â thargedu cyllid i amddiffyn pobl rhag effaith tymor byr y pandemig, mae ein hymateb yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu parhau i gael mynediad at addysg, sy'n hanfodol i iechyd tymor hir ein heconomi a'n cymdeithas.