Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi wedi cyhoeddi £9.4 miliwn yn ychwanegol o gyllid yr UE a Llywodraeth Cymru i helpu pobl gyda chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol i aros mewn gwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei roi i'r Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith sy'n anelu at roi mynediad di-dâl cyflym i bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol at therapi galwedigaethol er mwyn helpu iddynt aros mewn gwaith. Bydd y cyllid yn galluogi'r rhaglen bresennol - sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Ne Cymru ac RCS yng Ngogledd Cymru -i gael ei hymestyn tan Ragfyr 2022.

Mae'r Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith yn llenwi bwlch yn y farchnad a sylwyd arno gan sefydliadau partner gan gynnwys Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, ac sy'n darparu ymyraethau therapiwtig cyflym sy'n helpu gweithwyr sydd ar absenoldeb salwch hirdymor neu mewn perygl o fod.  

Gan gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd i aros mewn gwaith a helpu gweithwyr BBaChau i reoli effaith absenoldeb salwch ar fusnesau, mae'r rhaglen yn cyd-fynd â chynllun Llewyrch i Bawb Llywodraeth Cymru yn ogystal â'i Chynllun Gweithredu Economaidd, y Cynllun Cyflogadwyedd a'i strategaeth Iechyd - Cymru Iachach.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi y cyllid ychwanegol mewn digwyddiad dathlu ar gyfer RCS, sefydliad di-elw sy'n anelu at helpu pobl i gyflawni eu potensial drwy eu gwaith. Meddai: 

"Amcangyfrifir bod y gost i'r economi yng Nghymru o salwch sy'n gysylltiedig â gwaith yn £500 miliwn y flwyddyn ac fe wyddom fod cyflogwyr BBaChau a'u gweithwyr yn dioddef yn llawer gwaeth o ganlyniad i absenoldeb salwch yn y gwaith. Dyma un o'r rhesymau pam fod ein Contract Economaidd newydd yn annog busnesau i hyrwyddo iechyd da yn y gweithle.

"I gefnogi'r uchelgais hwn ymhellach, dwi'n falch o gyhoeddi £9.4 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Cymorth mewn Gwaith. Dwi'n gobeithio y bydd yn helpu i atal pobl sydd â chyflyrau iechyd cyffredin rhag colli gwaith, a bydd hefyd yn annog busnesau i greu lleoedd gweithio iachach."  

Bydd y cyllid ychwanegol, sy'n cynnwys £7.2 miliwn o gyllid yr UE a £2.2 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, yn ehangu y gwasanaeth i gefnogi hyd at 12,000 o bobl ac oddeutu 2.500 o fusnesau yn sylweddol er mwyn creu gweithle iach.  Bydd y gwasanaeth yn cael ei hehangu i gynnwys mwy o weithwyr mewn ardaloedd gwledig, a bydd yn cynyddu'r cysylltiad gyda rhwydweithiau busnesau llai a gwasanaethau iechyd lleol.

Meddai yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae'r prosiect hwn yn cyfuno gweithwyr iechyd proffesiynol, cymorth sgiliau a busnes yn un gwasanaeth sy'n helpu pobl i aros mewn gwaith drwy ymyraethau uniongyrchol sy'n canolbwyntio ar y gweithle.  

Mae'n dangos y posibiliadau pwerus o weithio'n effeithiol ar draws llywodraeth i gynnig gweithredu positif ar gyfer pobl fregus mewn dull syml ac effeithiol."

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol RCS, Alison Thomas:

"Mae'r Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith yn rhoi cymorth hollbwysig sy'n helpu i gadw gweithwyr mewn gwaith wrth iddynt wynebu heriau i'w hiechyd, gan ddod â manteision enfawr i bobl cyflogedig a hunan-gyflogedig ac i'r gymuned fusnes yng ngogledd Cymru yn gyffredinol.  

Rydyn ni'n falch iawn o'r newyddion fod y gwasanaeth yn cael ei ymestyn hyd at Ragfyr 2022, fydd yn rhoi'r cyfle inni barhau â'n gwaith o gefnogi gweithwyr a pherchnogion busnes i greu gweithleoedd iach, positif a chynhyrchiol."