Mae cynllun newydd, sydd â’r posibilrwydd o chwyldroi y ffordd yr ydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni wedi derbyn £90,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r treialon cyntaf ym Mhrydain.
Mae Ynni Lleol (dolen allanol) wedi dewis cymuned Bethesda i dreialu enghraifft o farchnad ynni leol, sy’n caniatáu i ynni adnewyddadwy o’r cynllun ynni dŵr 100kW lleol ar yr Afon Berthen i dderbyn pris uwch am gynhyrchu pan fydd y gymuned leol yn ei ddefnyddio. Mae posibilrwydd y bydd hyn yn lleihau biliau ynni y gymuned yn ddramatig ac yn lleihau allyriadau carbon.
Hyd yn hyn, mae 100 o gartrefi ym Methesda wedi eu recriwtio i lunio “Clwb Ynni Lleol”. Bydd gan bob cartref Fesurydd Deallus i ddangos pryd y mae’r trydan yn cael ei ddefnyddio yn ogystal â faint sy’n cael ei ddefnyddio. Bydd y trydan yn rhatach os bydd cartrefi yn defnyddio pŵer pan fydd y gwaith dŵr yn cynhyrchu ar adegau tawel, megis dros nos ac ar ganol y diwrnod.
Bydd Ynni Cydweithredol, partner yn y prosiect, yn prynu y trydan gan y gwaith trydan dŵr pan fydd yn cynhyrchu mwy nag y mae aelodau y Clwb Ynni Lleol yn ei ddefnyddio, ac yn darparu trydan i gartrefi pan fydd y galw yn fwy na’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu yn lleol.
Rhagwelir bod gan y prosiect y potensial i arbed hyd at 30% i gartrefi oddi ar eu biliau ynni presennol. Yn ei dro, bydd yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn lleol yn werth mwy na chontractau allforio trydan cyfredol. Bydd y gymuned yn parhau i elwa o fentrau fel Gostyngiadau Cartrefi Clyd pan fyddant yn gymwys.
Mae’r prosiect, yn cyntaf o’i fath ar gyfer y DU, yn cael ei arddangos heddiw yng Nghynhadledd Ynni y Gymuned, ble y bydd pobl ledled y DU sy’n gweithio yn y sector yn bresennol.
Amcangyfrifir y bydd y treialon yn arbed hyd at £10,000 y flwyddyn o fewn yr eocnomi leol, o gyfanswm yr arbedion i’r cwsmeriaid lleol a’r generadur lleol.
Os bydd y rhaglen beilot yn llwyddiannus, gallai’r cynllun gael ei gyflwyno ledled Cymru, gan roi blaenoriaeth i gymunedau sydd â llawer o dlodi tanwydd.
Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
“Rwy’n falch o gefnogi’r treialon cyffrous hyn ym Methesda, sy’n dangos ein hymrwymiad i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a helpu aelwydydd sy’n cael anhawster i dalu biliau ynni uchel.
“Mae’r prosiect hwn yn rhoi’r pŵer i’r gymuned leol i reoli yr ynni y mae’n ei ddefnyddio, ac mae posibilrwydd yma i arwain at newid mawr yn y ffordd y caiff ynni ei gynhyrchu a’i ddefnyddio yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld datblygiad y cynlluniau hyn ac yn dymuno pob lwc i bawb sy’n rhan o’r treialon.”
Meddai Dr Mary Gillie, sylfaenydd Ynni Lleol:
“Gallai hyn droi’r system drydan ar ei phen i lawr, gan roi rheolaeth yn ôl i’r bobl sy’n defnyddio ac yn gwneud ein hynni. Am y tro cyntaf bydd pobl Gogledd Cymru yn gweld potensial llawn eu hadnoddau ynni adnewyddadwy lleol – bydd yn cadw pres yn lleol, yn annog cydlyniant cymdeithasol, ac yn ein helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd gyda’n gilydd. Dylai’r wlad gyfan ddefnyddio pŵer fel hyn, rwy’n gobeithio y byddwn rhyw ddydd.”
Mae’r treialon Ynni Lleol yn brosiect cydweithredol sy’n cynnwys nifer o bartneriaid, gan gynnwys:
- Cyd Ogwen,
- yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol,
- Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru,
- Ynni Cymunedol Cymru,
- Rhwydweithiau Ynni Scottish Power,
- a Co-operative Energy.
Mae Ynni Lleol yn fenter gymdeithasol ddielw sy’n hybu perchnogaeth ynni adnewyddadwy yn lleol.