Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AC wedi cyhoeddi pecyn gwerth £8.3m gyda chefnogaeth yr UE i greu cyfleusterau busnes newydd yn Abertawe, Caerffili ac Aberdâr.
Bydd y pecyn yn golygu bod modd datblygu eiddo busnes newydd i helpu gyda’r galw yn lleol gan fentrau sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd am swyddi.
Bydd cynllun gwerth £12.7m Ffordd y Brenin yn Abertawe, gyda chefnogaeth £4.5m o gyllid yr UE, yn darparu 850m² o ofod swyddfa wedi'i dargedu at y sector digidol, gan arwain y ffordd i ddatblygu pentref digidol yng nghanol y ddinas.
Bydd yn cynnig lle i'r busnesau technoleg sydd eisoes yn bodoli a chwmnïau newydd sy'n cychwyn o'r sector addysg uwch sy'n ehangu yn Abertawe a'r cyffiniau.
Yn Robertstown, Aberdâr, bydd cynllun gwerth £3.9m i adeiladu 11 o unedau busnes newydd yn mynd rhagddo i ddiwallu'r galw lleol. Diolch i £2.5m o gyllid yr UE, bydd yr unedau yn cael eu lleoli ar safle tir llwyd, hen iard nwyddau, ger gorsaf drenau Aberdâr a Choleg y Cymoedd.
Yng Nghaerffili, bydd £2m yn cael ei fuddsoddi yn Ystad Ddiwydiannol y Lawnt, Rhymni, gan gynnwys £1.3m o gyllid yr UE, i adeiladu 10 uned newydd a seilwaith cysylltiedig ar safle lle mae 21 o unedau diwydiannol yn llawn eisoes a rhestr aros sylweddol.
Nod y datblygiad yw diwallu'r galw lleol am ehangu'r ystad ddiwydiannol hon yng nghanol Rhymni, sy'n agos at y prif adnoddau lleol a chysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd strategol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford:
"Rwy'n falch iawn o weld cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau sy'n helpu busnesau i dyfu'n gynaliadwy, a chreu cyfleoedd am swyddi lle mae dirfawr eu hangen. Mae'r prosiectau hyn yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i wneud Cymru'n fan llewyrchus a diogel i fyw a gweithio".
Mae'r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar waith Tasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru, a'r blaenoriaethau a amlygwyd yn ein cynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, gan gynnwys ymrwymiad i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili:
"Mae'r buddsoddiad hwn yn newyddion ardderchog i economi bwrdeistref sirol Caerffili ac, yn bwysicach na dim, fe fydd yn dod â chyfleoedd am swyddi gwerthfawr i Flaenau Cwm Rhymni. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i adfywio cymunedau lleol, ac fe fydd yr unedau busnes newydd hyn yn darparu eiddo o safon, lle bydd modd i'r busnesau ffynnu."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart:
"Dyma newyddion da, a phleidlais arall o hyder yn y ddinas. Bydd y cyllid yn help i gyflawni ein cynlluniau ar gyfer canol y ddinas, a hefyd yn helpu i gyflawni'r Ardal Ddigidol ar Ffordd y Brenin, sy’n un o'r prif brosiectau penodol ym margen ddinesig Abertawe.”
Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Fenter, Datblygu a Thai:
"Rwy'n croesawu'r cyllid sylweddol hwn y mae'r cyngor wedi'i gael o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a fydd yn helpu i roi hwb i'r prosiect strategol hwn yng Nghwm Cynon."
Bydd y cynlluniau yn cael eu cyflawni gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a fydd hefyd yn buddsoddi gweddill y cyllid.