£8 miliwn ychwanegol i gefnogi cyflogau Addysg Bellach
Bydd y swm ychwanegol o £8 miliwn yn cyfrannu hefyd at gynnydd yng nghyflog staff cymorth mewn colegau Addysg Bellach, llawer ohonynt yn byw ar gyflog byw.
Gwnaed y cyhoeddiad yn y Senedd heddiw yn ystod trafodaeth ar Addysg Bellach yng Nghymru.
Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg:
“Rydw i wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru yn gallu cynnig y cymorth ychwanegol hwn i’r sector Addysg Bellach tuag at gostau cyflogau am y ddwy flynedd nesaf. Rydyn ni’n cydnabod bod Colegau’n delio ag amgylchiadau eithriadol ac y bydd yr hwb ariannol ychwanegol hwn yn caniatáu amser i golegau gyllidebu tuag at gostau cyflogau yn y dyfodol.”
Mae’r ‘amgylchiadau eithriadol’ yn gysylltiedig â dyfarniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ganiatáu codiad cyflog o hyd at 3.5% i athrawon ym mis Medi. Er bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r penderfyniad yn llwyr, cafodd ei wneud heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru a heb roi i Gymru’r cyllid i dalu am y costau ychwanegol.
Yn dilyn trafodaethau, cafwyd perswâd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddyrannu £23.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i fynd i’r afael â’r broblem ond nid yw hyn yn cynnwys y rhai hynny sy’n dysgu yn y sector Addysg Bellach a gallai hyn o bosib arwain at anghydraddoldeb rhwng athrawon chweched dosbarth ac athrawon yn cyflwyno’r un cyrsiau mewn Colegau Addysg Bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i’r adwy felly i wneud iawn am y gwahaniaeth ar yr achlysur arbennig yma.
Mae £3.2 miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 gyda £4.8 miliwn i ddilyn yn 2019-20 yn amodol ar gymeradwyaeth y gyllideb derfynol ar gyfer 2019-2020. Bydd hyn yn caniatáu 18 mis i’r sector gynllunio gyda’i bartneriaid ymhlith yr undebau llafur ar gyfer y rownd nesaf o drafodaethau ar gyflogau.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Dysgu Gydol Oes, sydd â chyfrifoldeb am Addysg Bellach:
“Mae Addysg Bellach yn holl bwysig i’n system addysg ac mae Colegau Addysg Bellach yn hanfodol i’n tasg o greu cenhedlaeth o bobl sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi i ffynnu. Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod y rheini sy’n dysgu mewn Colegau Addysg Bellach yn derbyn codiad cyflog sy’n gyfatebol i’r hyn mae athrawon ysgol yn ei dderbyn. Rydyn ni’n arbennig o falch ein bod wedi llwyddo hefyd i ddod o hyd i arian ychwanegol i dalu am y staff cymorth hanfodol sy’n gweithio yn ein colegau Addysg Bellach.”