Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod yr wythnos y bydd Cymru a'r DU yn ymadael â'r UE, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi mynnu bod rhaid i ddiwydiant bwyd a diod llewyrchus Cymru barhau i ffynnu, yn dilyn blwyddyn o lwyddiant digymar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ffigurau diweddaraf y diwydiant yn dangos y gwelwyd y trosiant uchaf erioed, sef £7.473 biliwn, yn 2019, sy'n rhagori ar y targed uchelgeisiol a osodwyd yn 2014 o dwf o 30% a gwerthiant o £7 biliwn erbyn 2020. Yn 2018, aeth 73% o holl allforion bwyd Cymru i'r Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod ymweliad â Chanolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, fe wnaeth y Gweinidog ddathlu'r llwyddiant hwn, a sôn am ei gobeithion ar gyfer dyfodol y sector ar ôl i ni ymadael â'r UE.

Dywedodd Lesley Griffiths:

Yn 2014 fe wnaethom ni gyhoeddi targed syml ac uchelgeisiol – sicrhau cynnydd o 30% yng ngwerth gwerthiant y sector, gan gyrraedd £7 biliwn erbyn 2020. Rwy'n hynod falch ein bod bellach wedi rhagori ar hynny, gan fod y data diweddaraf yn dangos bod gwerth y sector yn £7.473 biliwn.

Nid yw diwydiant bwyd a diod Cymru erioed wedi bod mor ffyniannus, ac mae wedi bod yn wych gallu rhannu'r llwyddiant gyda rhai o'n cynhyrchwyr arloesol a rhagorol heddiw. Ond gydag ychydig ddyddiau yn unig i fynd nes i ni ymadael â'r UE, ni allwn ni anwybyddu'r ffaith y bydd Brexit yn tarfu'n sylweddol ac yn cael effaith fawr ar lawer o’n busnesau gwych.

"Rwy'n cadw mewn cysylltiad cyson â'r Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ac mae fy neges yn glir. Mae'r sector hwn yn llwyddiant gwirioneddol y mae angen i ni barhau i'w hyrwyddo a'i ddatblygu; ni ddylid ei anwybyddu na'i fradychu.

Yn ystod y negodiadau masnach a'r trafodaethau ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol, rhaid i Lywodraeth y DU ystyried yr effaith ar y 24,000 o bobl sy'n gweithio yn sector cynhyrchu bwyd a diod Cymru a'r 229,000 o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. 

Mae gennym ni gymaint i'w ddathlu yma yng Nghymru. Rwy'n hyderus, os byddwn ni'n parhau i gefnogi ein diwydiant bwyd a diod, a chyda'r amodau economaidd iawn yn eu lle, y bydd ein henw da cynyddol fel cenedl bwyd a diod yn cryfhau ymhellach.

Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn gyfrifol am dyfu, hyrwyddo a gwella enw da diwydiant bwyd a diod Cymru.

Ychwanegodd ei Gadeirydd, Andy Richardson:

Mae'r twf syfrdanol yn sector Bwyd a Diod Cymru yn deillio o gydweithio effeithiol rhwng y diwydiant a Llywodraeth Cymru, ynghyd ag arbenigedd technegol ac ymroddiad y miloedd lawer o bobl sy'n cael eu cyflogi o fewn y sector. Er bod y ffigurau gwych hyn yn dangos ein bod yn bendant ar y trywydd cywir, mae'n hanfodol nad ydym ni'n caniatáu i'r llwyddiant hwnnw gael ei danseilio, a rhaid i ni barhau i achub ar bob cyfle i warchod ansawdd a delwedd ein cynnyrch.