Bron i £700,000 er mwyn mynd gam ymhellach i warchod un o bentrefi glan môr mwyaf poblogaidd De Cymru, sef y Mwmbwls, rhag llifogydd.
Bydd y £682,500 gan Lywodraeth Cymru’n cyfrannu 75% tuag at gost cynnal gwaith dylunio manwl ar gyfer cynllun amddiffyn rhag llifogydd er mwyn lleihau’r perygl llifogydd a’r perygl o ran erydu arfordirol i’r Mwmbwls.
Yr opsiwn a ffefrir gan y Cyngor yw gwella’r amddiffynfeydd arfordirol a lledu’r promenâd, gan greu manteision hamdden, twristiaeth ac iechyd a lleihau’r perygl i gartrefi a busnesau.
Unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau mae’r arfarniad wedi dod i’r casgliad y bydd 124 eiddo’n elwa ar unwaith arno, ac y bydd 147 eiddo’n elwa arno erbyn 2118, yn sgil effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd cysylltiedig yn lefel y môr.
Dywedodd Hannah Blythyn:
“Un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth yw lleihau’r perygl o lifogydd sy’n deillio o gynnydd yn lefel y môr a’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cyllid hwn a fydd yn cyfrannu at gost y gwaith dylunio yn helpu i sicrhau bod y Mwmbwls gam yn nes at gynllun sylweddol i warchod yr arfordir. Rwy’n siŵr y bydd y trigolion lleol a’r ymwelwyr yn croesawu cynllun o’r fath.
“Rydym yn cydweithio ag awdurdodau lleol arfordirol ar draws Cymru, gan fuddsoddi hyd at £150 miliwn er mwyn lleihau’r peryglon rydym yn eu hwynebu yn sgil cynnydd yn lefel y môr a’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cyllid hwn yn ategu’r buddsoddiad cyfalaf arall gwerth £151 miliwn mewn gwaith rheoli’r perygl llifogydd a fydd yn digwydd yn ystod cyfnod y Llywodraeth hon.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Gwasanaethau’r Amgylchedd, y Cynghorydd Mark Thomas:
“Rydym yn falch iawn fod ein partneriaid yn Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyfraniad ariannol sylweddol ar gyfer y prosiect cyffrous hwn. Golyga’r arian hwn y gallwn bellach fynd ati i ddatblygu dyluniad manwl ar gyfer y cynllun.”
“Bydd yn amddiffyn eiddo gerllaw’r môr sy’n wynebu perygl llifogydd a hefyd yn mynd i’r afael ag erydu arfordirol er budd cenedlaethau’r dyfodol. Bydd hefyd yn creu cyfle i ehangu a gwella rhannau o’r promenâd ar yr un pryd er mwynhad y trigolion a’r ymwelwyr.”