Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y £6.8miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gryfhau darpariaeth y Bwrdd Iechyd o ofal wedi'i gynllunio a gofal heb ei drefnu ar draws pob un o'r tri ysbyty.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y £6.8miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gryfhau darpariaeth y Bwrdd Iechyd o ofal wedi'i gynllunio a gofal heb ei drefnu ar draws pob un o'r tri ysbyty, ac ysgogi gwelliannau pellach i wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu. 

Dywedodd Vaughan Gething:

"Ym mis Mai, dywedais beth oedd fy nisgwyliadau ar gyfer y Bwrdd Iechyd dros y 18 mis nesaf, ac ymrwymais i ddarparu cymorth mwy dwys, gan gynnwys adnoddau ychwanegol i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen i'r Bwrdd Iechyd yn gyflym ac yn effeithlon.

"Mae'r cyllid sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn rhan o'r cymorth hwnnw. Bydd yn cael ei ddefnyddio i sefydlu trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd cadarnach yn y Bwrdd Iechyd, ac i wthio am welliannau ariannol. Rwy'n disgwyl gweld gwelliannau sylweddol i gleifion o ganlyniad, yn arbennig mewn gofal wedi'i gynllunio a gofal heb ei drefnu ar draws y Gogledd."

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

"Daw'r cymorth ychwanegol hwn wrth i Gadeirydd newydd baratoi i ymgymryd â'i benodiad y mis nesaf. Dyma ddechrau'r cam nesaf ar daith y Bwrdd Iechyd i wella. Rydyn ni'n canolbwyntio'n bennaf o hyd ar symud ymlaen i sicrhau newid parhaus, a gwneud yn siŵr bod pobl y Gogledd yn derbyn y gwasanaeth iechyd maen nhw'n ei haeddu."