Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi bod £50m arall yn cael ei neilltuo i ganiatáu i fyrddau iechyd barhau â’r gwaith o olrhain cysylltiadau dros yr haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid, sy’n ychwanegol i’r £10m y cytunwyd arno cyn hyn, yn cael ei ddefnyddio i gadw'r gweithlu olrhain cysylltiadau presennol tan ddiwedd mis Medi 2021. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi a galluogi gwelliannau parhaus i'r system olrhain cysylltiadau ddigidol.

Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd pobl sy'n gysylltiadau agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif, ac y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan dîm olrhain cysylltiadau, yn awr yn cael cynnig prawf y coronafeirws.

Gofynnir i gysylltiadau agos gael prawf wrth iddynt ddechrau eu cyfnod o hunanynysu ac unwaith eto ar ddiwrnod wyth. Os byddwch chi’n cael eich enwi fel cyswllt bydd dal angen i chi hunanynysu am y 10 diwrnod llawn hyd yn oed os bydd canlyniad y prawf yn negatif – gall gymryd hyd at 10 diwrnod neu ragor i symptomau ddatblygu, neu i'r feirws ymddangos yn eich system.

Fel ag yr oedd y sefyllfa ddiwedd mis Chwefror, mae timau olrhain cysylltiadau yng Nghymru wedi cyrraedd 167,226 (99.6 y cant) o’r achosion positif a oedd yn gymwys i gael cyswllt dilynol, ynghyd â 382,494 (95 y cant) o'u cysylltiadau agos ac wedi cynghori unigolion a oes angen iddynt hunanynysu ai peidio.

Dywedodd Mr Gething:

Er ein bod ni wedi gweld ymateb da i’r cyfyngiadau symud presennol o safbwynt niferoedd yr achosion newydd, mae cryn ansicrwydd pa lwybr y bydd y pandemig yn ei ddilyn sy'n golygu ei bod yn debygol iawn y bydd angen inni barhau i weithredu ymateb olrhain cysylltiadau sylweddol yn y dyfodol agos.

Hyd yn oed wrth i'r rhaglen frechu gael ei chyflwyno, bydd profi ac olrhain yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'n dull gweithredu wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ac er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw amrywiolion newydd wrth i bobl gyrraedd o dramor.

Mae rhaglenni profi yn parhau i gael eu datblygu ac maent yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion, gweithleoedd, cartrefi gofal, ysbytai a chan y gwasanaethau brys.

Yr wythnos hon byddwn yn cyhoeddi fframwaith ar gyfer profi cleifion sydd yn yr ysbyty yng Nghymru i atal y coronafeirws rhag cyrraedd ein hysbytai heb iddo gael ei ddarganfod, i atal ei ledaeniad mewn ysbytai ac i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau'n ddiogel i'w cartref neu i ofal yn y gymuned.

O dan ein fframwaith profi yn y gweithle, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys yr heddlu a'r gwasanaethau tân ac achub ar gynlluniau i brofi eu gweithluoedd yn rheolaidd i ddod o hyd i achosion asymptomatig a thorri cadwyni trosglwyddo.

Bydd y model ar gyfer olrhain cysylltiadau yn parhau i gael ei adolygu yn ystod 2021.