Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething heddiw wedi cyhoeddi bron i £6 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer canolfan ddiagnostig newydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Mae'r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn cwmpasu'r costau adeiladu ar gyfer gosod sganiwr CT yn lle'r un presennol, yn ogystal â chostau cyfarpar ac adeiladu i osod ail sganiwr CT a sganwyr MRI yn yr ysbyty.
Bydd y ganolfan newydd yn helpu i sicrhau bod y targedau amser aros am ddiagnosis yn cael eu cyrraedd yn ardal Cwm Taf, a'u gwella ar draws y De. Bydd hefyd yn gwella'r sefyllfa o ran y sganwyr sydd ar gael ar draws y rhanbarth.
Defnyddir sganiau CT a MRI i gynhyrchu delweddau manwl iawn o'r tu mewn i'r corff. Defnyddir sganiau CT i wneud diagnosis o gyflyrau gan gynnwys niwed i esgyrn, anafiadau i organau mewnol, problemau llif gwaed, strôc a chanser. Maent hefyd yn helpu i ddod o hyd i leoliad, maint a siâp tiwmor cyn cael radiotherapi.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Vaughan Gething:
"Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd. Mae'r ganolfan newydd hon yn enghraifft ardderchog o'r buddsoddiad ar waith. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr, nid yn unig i bobl ardal Cwm Taf, ond hefyd ar draws y De i gyd.
"Wrth osod y sganwyr newydd hyn, rydyn ni'n disgwyl i'r ganolfan gynnal 7,232 sgan MRI ychwanegol a 6,599 sgan CT ychwanegol y flwyddyn. Bydd hyn yn helpu i leihau'r amser aros am ddiagnosis ac yn darparu'r gallu i greu delweddau o ansawdd uchel.
Dywedodd Ruth Treharne, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf:
"Rwy' wrth fy modd gyda'r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein cais er mwyn ein galluogi i symud ymlaen gyda'r prosiect hanfodol hwn yng Nghwm Taf.
"Un o ganlyniadau Rhaglen De Cymru oedd ymrwymiad i ddatblygu swyddogaeth sylweddol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn y maes diagnosteg a thriniaethau dydd, gan gefnogi'r rhwydwaith ehangach o ysbytai yn y rhanbarth. Yn ogystal â darparu cyfleusterau diagnosteg a sganio ar gyfer ein cleifion ein hunain yng Nghwm Taf, bydd yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer y de.
Yn ogystal â mwy o sganwyr MRI a CT, mae'n clinigwyr yn awyddus i fanteisio ar ddatblygiadau technolegol mewn diagnosteg, ac mae'r datblygiad hwn yn un cyffrous tu hwnt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a'n cymunedau lleol."