Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw yn cyhoeddi £5.7m o gyllid yr UE i annog pobl ifanc i astudio pynciau STEM at lefel TGAU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd prosiect Trio Sci Cymru, gwerth £8.2m yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n astudio pynciau STEM a chodi graddau ymysg pobl ifanc y Gorllewin a'r Gogledd a Chymoedd y De.

Bydd dros 5,600 o bobl ifanc 11 - 19 oed o 30 o ysgolion yn cael eu hannog i astudio pynciau STEM - yn arbennig Gwyddoniaeth Driphlyg (Bioleg, Cemeg a Ffiseg) at lefel TGAU a thu hwnt, gan helpu i greu gweithlu medrus ac economi ffyniannus.

Wrth gyhoeddi'r cyllid newydd, dywedodd y Gweinidog Cyllid:

"Mae technoleg yn newid yn gynt ac yn gynt, ac mae'n rhaid i Gymru gael gweithlu medrus i fanteisio ar y newidiadau hyn. Bydd y buddsoddiad hwn gan yr UE yn helpu i ysgogi diddordeb yn y pynciau craidd hyn, gan annog disgyblion i ddewis y pynciau, ac fe fydd hynny yn ei dro yn helpu economi Cymru i dyfu."

Ychwanegodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

"Rydyn ni'n gwybod bod pynciau STEM yn hanfodol ar gyfer dyfodol technolegol, cymdeithasol ac economaidd Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn annog ein pobl ifanc i ddilyn y pynciau hyn at lefel TGAU, gan eu helpu i adeiladu gyrfaoedd sy'n foddhaol ac yn cynnig cyflog da.”

Bydd diddordeb a chyfranogiad mewn addysg STEM yn cael ei ysgogi drwy weithgareddau allgyrsiol arloesol y tu allan i'r system addysg ffurfiol. Ymysg y gweithgareddau bydd arbrofion ymarferol, sioeau teithiol a chodi ymwybyddiaeth am yrfaoedd STEM, gan roi sgiliau a gwybodaeth i bobl ifanc am yr opsiynau sydd ar gael yn y sector.

Mae Trio Sci Cymru yn cael ei arwain gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Ffiseg a phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor. Caiff y prosiect gwerth £8.2m ei gefnogi gan £5.7m o gyllid yr UE a £2.5m gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.