Neidio i'r prif gynnwy

£5.5miliwn o fuddsoddiad i ddatblygu gwersylloedd yr Urdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y £5.5 miliwn yn golygu y bydd Gwersyll Glan-llyn yn datblygu Canolfan Addysgol newydd sbon ac uwchraddio cyfleusterau’r Ganolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr. Bydd Gwersyll Llangrannog yn gweithredu cynllun i drawsnewid ei isadeiledd allweddol.

Erbyn heddiw mae 56% o holl ysgolion Cymru yn treulio cyfnodau preswyl yng ngwersylloedd yr Urdd, ac o’r rheiny roedd 26% o’r rhai fu’n ymweld dros y 3 mlynedd diwethaf yn dod o’r 20% cymuned mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae mwy o ysgolion ail-iaith yn mynychu’r gwersylloedd nag ysgolion Cymraeg, sydd yn dangos gwerth y gwersylloedd fel pwynt mynediad i’r Gymraeg, a’i bod yn iaith fyw a pherthnasol. 

Gan gadarnhau buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun, dywedodd yr Ysgrifennydd dros Addysg:

“Mae'n bleser gennyf gyhoeddi’r buddsoddiad hwn, o dan y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ar gyfer datblygu cyfleusterau’r Urdd yn eu Gwersylloedd yn Llangrannog a Glan-llyn. Mae moderneiddio seilwaith addysg yn chwarae rhan allweddol mewn codi safonau a chyflawni ein Cenhadaeth Genedlaethol. Mae'r Urdd yn chwarae rôl hanfodol mewn darparu cyfleoedd dysgu gydol y flwyddyn i bobl ifanc yng Nghymru. Maent hefyd yn gwneud cyfraniad hollbwysig at greu plant sy’n gymdeithasol, yn iach ac yn heini, ac sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg tu hwnt i’r ysgol. Edrychaf ymlaen at weld y datblygiadau hyn a sut y byddant yn helpu gwella profiad yr Urdd ar gyfer plant y dyfodol.”

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:

“Hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd dros Addysg am gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer datblygu gwersylloedd Glan-llyn a Llangrannog yn ganolfannau arloesol, modern sydd yn cefnogi’r cysyniad o ‘ddysgu y tu allan i’r dosbarth’. Ethos y gwersylloedd yw dysgu cyffrous ac apelgar mewn amgylchedd ddiogel sydd yn galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu a datblygu’n bersonol a chymdeithasol. Drwy fynychu  gwersylloedd yr Urdd bydd hyn oll yn cael ei wneud tra’n cynyddu eu hyder yn eu defnydd o’r Gymraeg. Diolch i’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, bydd posib i’r Urdd wella cyfleusterau ac adnoddau, greu swyddi newydd yng nghefn gwlad Cymru a diweddaru isadeiledd ar gyfer cenedlaethau o blant a phobl ifanc Cymru i’r dyfodol.”

Mae’r buddsoddiad cyfalaf hwn o £2.75m yn rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ac fe’i gytunwyd fel rhan o’r cytundeb Cyllideb dwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru.

Dangosa ymchwil gan yr Urdd bod ysgolion a sefydliadau addysg ar draws Cymru eisoes yn gweld cynnydd sylweddol yn llesiant plant a phobl ifanc o ganlyniad i ymweliad â’r gwersylloedd, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eu defnydd a’u delwedd o’r iaith Gymraeg.

Gyda 47,000 o breswylwyr yn ymweld yn flynyddol a throsiant o £5.2 miliwn, mae Gwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn yn cyflogi 160 o staff rhyngddynt. Bydd y datblygiadau yn eu galluogi i greu nifer o swyddi ychwanegol gan gynnwys 12 o brentisiaethau. Rhagwelir hefyd y bydd cynnydd yn y niferoedd o ymwelwyr fydd yn gyfwerth ag £1.3m o drosiant ychwanegol i’r Urdd.