Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi £5.5m arall i gefnogi cynlluniau i atal gordewdra yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2020-22, a lansiodd y Gweinidog heddiw yn ystod ymweliad â chylch chwarae yng Nghaerdydd i weld prosiect bwyta'n iach ar waith. Dywedodd Mr Gething: 

Mae gordewdra yn un o’r heriau iechyd y cyhoedd mwyaf sy’n ein hwynebu ac rydw i am i Gymru fod yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i weld gostyngiad mewn cyfraddau gordewdra. 

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen inni weld newid ym mhob rhan o'n cymdeithas. Rydw i am inni greu amgylchedd lle’r dewis iach yw’r dewis hawdd. Byddwn yn gweithio gyda phobl ledled Cymru i sicrhau newid cadarnhaol, gan ddechrau drwy roi cefnogaeth yn ystod y blynyddoedd cynnar hanfodol mewn bywyd. Rydw i’n ymweld â'r Grŵp Chwarae Tiny Tigers heddiw, i glywed am y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gyda theuluoedd a phlant i'w hannog i wneud dewisiadau cadarnhaol wrth ddewis bwyd. 

Mae'r cynllun cyflawni cyntaf ar gyfer ein strategaeth yn nodi'r hyn rydyn ni’n ei wneud i gefnogi pobl o bob oedran ar draws pob rhan o Gymru i wneud dewisiadau iachach mewn bywyd. Gall newidiadau bach i’n harferion bob dydd arwain at fanteision iechyd mawr a pharhaol i bob un ohonom.

Mae'r £5.5m a gyhoeddwyd heddiw wedi'i rannu fel a ganlyn: 

  • £4.1m i fyrddau iechyd a phartneriaid i ddarparu gwasanaethau cefnogi i helpu oedolion, pobl ifanc a theuluoedd i gynnal pwysau iach. 
  • £600,000 ar gyfer rhaglen plant a theuluoedd i gefnogi prosiectau pwysau iach fel yr un yr aeth y Gweinidog i’w weld heddiw. 
  • £500,000 i'w fuddsoddi mewn cynnig chwaraeon a hamdden ar gyfer pobl dros 60 oed.
  • £300,000 i ariannu grantiau ar gyfer cyrff chwaraeon ac i werthuso. 

Mae'r cynllun cyflawni hefyd yn nodi nifer o brosiectau traws-lywodraethol eraill o dan wyth maes blaenoriaeth. 

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Helpu busnesau bwyd yng Nghymru i ddatblygu cynhyrchion iach.
  • Gwella mynediad at fwydydd a diodydd iach ar safleoedd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
  • Cynyddu nifer y gorsafoedd dŵr yfed.
  • Buddsoddi mewn llwybrau beicio a cherdded.
  • Gwella mynediad at weithgareddau hamdden yn yr awyr agored.
  • Mynd i'r afael â rhwystrau er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd a deiet.
  • Cyflwyno rhaglenni pwysau iach ar gyfer plant cyn ysgol.
  • Cynnwys maeth a bwyta'n iach yn y cwricwlwm newydd. 

Dywedodd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol: 

Cynnal pwysau iach yw un o'r ffyrdd gorau o leihau'r risg o gyflyrau fel diabetes, clefyd y galon a chanser. 

Rydyn ni’n yn cydnabod y gall newid arferion byw fod yn dasg heriol ond mae'r cynllun hwn yn nodi sut mae pob rhan o'r llywodraeth yn gweithio i helpu unigolion i wneud y newidiadau hynny.

Roedd y Gweinidog yn ymweld â'r Grŵp Chwarae Tiny Tigers yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd. Gwelodd blant yn cymryd rhan yn y rhaglen faetheg a oedd yn cael ei chyflwyno gan dîm Dechrau'n Deg Caerdydd. Ymunodd Beca Lyne-Pirkis, y cogydd teledu a Llysgennad Pwysau Iach: Cymru Iach, gyda nhw. 

Dywedodd Beca:

Roedd yn hyfryd gweld plant yn cael hwyl wrth ddysgu am fwyd a maeth. Bydd y cyllid a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddefnyddio i gynnal rhagor o brosiectau fel hyn ar hyd a lled Cymru, er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddangos diddordeb mewn bwyd ac i fwynhau coginio. Mae'n ffordd wych o helpu pobl i ddeall pwysigrwydd cynnal pwysau iach a dangos agwedd iach tuag at fwyd yn gyffredinol.

Mae'r arian a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys cyllid i ddatblygu prosiectau a fydd yn cael eu darparu’n lleol, fel yr un yn Tiny Tigers, er mwyn atal a lleihau gordewdra yng Nghymru.