Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i gefnogi tua 41 o brosiectau mewn 16 awdurdod lleol ac yn creu 2818 o lefydd ysgol a gofal plant ychwanegol i ddysgwyr Cymraeg.
Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i gefnogi tua 41 o brosiectau mewn 16 awdurdod lleol ac yn creu 2818 o lefydd ysgol a gofal plant ychwanegol i ddysgwyr Cymraeg.
Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad heddiw wrth iddi ymweld ag Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl lle bydd ysgol gynradd newydd yn cael ei hagor gyda meithrinfa ar y safle o ganlyniad i dderbyn arian o dan y Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg. Mae hyn ar ben y £ 5 miliwn a gyhoeddwyd i Bantycelyn eisoes, cyfanswm o £51 miliwn i gefnogir addysg Gymraeg.
Hefyd ymhlith y 41 o brosiectau a fydd yn derbyn arian drwy’r grant fydd yr ysgolion cynradd newydd Cymraeg ym Merthyr Tudful a Thorfaen, yr ysgol cyfrwng Gymraeg gyntaf erioed yn nhref Mynwy, a chanolfan Gymraeg arloesol yn Sir Ddinbych.
Dywedodd Eluned Morgan, Y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
“Bydd y prosiectau hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ddarparu addysg cyfrwng Gymraeg. Mae cael amgylchedd cyfforddus, modern, addas i’r diben i ddysgu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr addysg orau bosibl. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn golygu y bydd hyd yn oed rhagor o’n myfyrwyr yn gallu manteisio ar y cyfleusterau gwych i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Yn ogystal â chreu ysgolion newydd ac ehangu safleoedd presennol, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn rhoi’r golau gwyrdd i ganolfannau Cymraeg ledled Cymru. Bydd y canolfannau hyn yn golygu y bydd hi’n haws dod o hyd i gyrsiau y gellir eu dilyn drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hynny’n hanfodol os yw’r iaith i barhau i dyfu a ffynnu.
“Mae ein her o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her sylweddol ac addysg yw’r allwedd i’n llwyddiant. Drwy fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd a gwella a chynyddu gwersi Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg rydyn ni’n agor y drws i’r dyfodol ac yn gosod y sylfeini cywir i gyrraedd y targed yma.
“Drwy gyfuno’r cyllid o dan y Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant rydyn ni wedi gallu sicrhau’r manteision mwyaf o’n buddsoddiadau o dan y ddwy raglen er mwyn annog twf a darpariaeth mewn dau faes pwysig.”
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant:
“Mae darparu cyfleoedd cynnar i ddysgu Cymraeg yn hanfodol os ydyn ni am gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg, ac rwy'n falch y bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn mynd tuag at gynyddu'r nifer o leoedd gofal plant sydd ar gael ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg.
“Trwy weithio gyda'n gilydd ar draws y llywodraeth a chyfuno cyllid o'r Grantiau Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Chynllun Gofal Plant, rydyn ni wedi sicrhau ein bod yn cael y mwyaf allan o’n buddsoddiad, a bydd hynny’n arwain at wasanaethau gwell i bobl ifanc.”
Dyma’r prosiectau llwyddiannus:
1. Sir Ddinbych - Canolfan Iaith yn Ysgol Glan Clwyd
2. Wrecsam - Estyniad i Ysgol Bro Alun gan fod nifer rhy uchel o ddisgyblion yn mynd iddi
3. Sir Fynwy - Egin ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Nhrefynwy
4. Sir Fynwy - Ehangu capasiti Ysgol y Ffin
5. Conwy - Estyniad ar gyfer ystafell ddosbarth yn Ysgol Awel y Mynydd
6. Conwy - Adeiladu ystafell ddosbarth barhaol ar gyfer Cylch Meithrin Ysgol Llanfair Talhaiarn yn lle'r llety symudol anaddas sydd eisoes yno
7. Conwy - Uno Cylch Meithrin Hen Golwyn a Chylch Meithrin Bae Colwyn er mwyn iddynt gael adeilad newydd a godir i'r pwrpas yn Ysgol Bod Alaw.
8. Caerdydd - Ehangu darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd Caerdydd
9. Caerdydd - Tri lleoliad newydd ar gyfer Cylchoedd Meithrin sy'n gysylltiedig ag ysgolion cynradd ar draws gwahanol ardaloedd y ddinas
10. Caerdydd - Ad-drefnu'r ddarpariaeth gynradd yng nghanol Caerdydd ac ehangu'r nifer o leoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn ôl 1FE
11. Merthyr Tudful - Ysgol gynradd Gymraeg newydd
12. Merthyr Tudful - Ad-drefnu Ysgol Rhyd y Grug fel bod lle i ddwy ystafell ddosbarth ychwanegol a galluogi cynyddu'r ddarpariaeth feithrin a chyn-feithrin.
13. Rhondda Cynon Taf - Creu cyfleuster gofal plant yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr
14. Rhondda Cynon Taf - Adleoli Cylch Meithrin sydd eisoes wedi'i sefydlu o'i leoliad presennol i Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon
15. Rhondda Cynon Taf - Gwell cyfleusterau ar gyfer y Cylch Meithrin yn Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James, Pontypridd .
16. Rhondda Cynon Taf - Adeiladu estyniad parhaol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant a fydd yn cynnwys dwy ystafell ddosbarth, yn ogystal â thoiledau ychwanegol sy'n addas i'r oedran ac ystafell gotiau, yn lle'r llety symudol sydd eisoes yno
17. Rhondda Cynon Taf - Adeilad ar gyfer gofal plant cyn ysgol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen er mwyn gallu symud y Cylch Meithrin o'i hen leoliad dros dro
18. Rhondda Cynon Taf - Adeilad newydd ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn Ysgol Llanhari er mwyn gallu adleoli'r Cylch Meithrin
19. Castell-nedd Port Talbot - Ystafell ddosbarth ychwanegol a chynnig gofal plant cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmllynfell
20. Castell-nedd Port Talbot - Dwy ystafell ddosbarth ychwanegol a chynnig gofal plant cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle'r Ynn, Llansawel
21. Castell-nedd Port Talbot - Gwaith adfer ac adnewyddu gan gynnwys darparu tair ystafell ddosbarth ychwanegol a lleoedd gofal plant ychwanegol ym Mhontardawe
22. Pen-y-bont ar Ogwr - Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg (gofal drwy'r dydd, gofal plant sesiynol a gofal y tu allan i oriau'r ysgol) ym Metws
23. Pen-y-bont ar Ogwr - Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg (gofal drwy'r dydd, gofal plant sesiynol a gofal y tu allan i oriau'r ysgol) yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr
24. Pen-y-bont ar Ogwr - Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg (gofal drwy'r dydd, gofal plant sesiynol a gofal y tu allan i oriau'r ysgol) yng Nghwm Ogwr
25. Pen-y-bont ar Ogwr - Darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg (gofal drwy'r dydd, gofal plant sesiynol a gofal y tu allan i oriau'r ysgol) ym Mhorthcawl
26. Gwynedd - Gwella'r ganolfan iaith sydd eisoes yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog (Uwchradd)
27. Gwynedd - Gwella'r ganolfan iaith sydd eisoes yn Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth (Cynradd)
28. Gwynedd - Adeiladu canolfan iaith newydd ym Mangor
29. Caerffili - Ehangu'r nifer o leoedd ar gyfer gofal plant, er mwyn caniatáu 30 o leoedd statudol ychwanegol yn Ysgol Ifor Bach
30. Caerfffili - Ehangu'r ddarpariaeth (dwy ystafell ddosbarth ychwanegol) yn Ysgol Penalltau
31. Caerffili - Ehangu'r ddarpariaeth (ystafelloedd dosbarth ychwanegol) yn Ysgol Cwm Derwen
32. Caerffili - Ehangu/gwella'r ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell (gan gynnwys dwy ystafell ddosbarth ychwanegol)
33. Caerffili - Darparu ystafell ddosbarth ychwaneol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Allta er mwyn cynyddu'r capasiti
34. Torfaen - Ysgol gynradd newydd sy'n cynnwys meithrinfa ar safle presennol Ysgol Gyfun Gwynllyw, a fydd yn ehangu'r ystod oedran yr ysgol o 11-18 i 3-18
35. Torfaen - Addasu Ysgol Gynradd Greenmeadow er mwyn sefydlu cyfleuster cyn ysgol dan y Mudiad Meithrin ar gyfer plant 2-3 oed sydd â lle i 10 FTE
36. Sir y Fflint - Darpariaeth cyn ysgol mewn adeilad newydd a godir i'r pwrpas ar safle Ysgol Glanrafon, er mwyn cydleoli'r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a hybu mwy o bobl i anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg
37. Sir y Fflint - Ailfodelu ac ehangu Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug er mwyn cynyddu'r capasiti
38. Blaenau Gwent - Sefydlu egin ysgol gynradd, a fydd yn arwain at adeiladu adeilad newydd ar gyfer Tredegar/Dyffryn Sirhywi
39. Ynys Môn - Uned gofal plant mewn ysgol newydd yn Llangefni (sefydlu ysgol newydd yn lle Bodffordd a Chorn Hir)
40. Sir Gaerfyrddin 1 - Sefydlu Canolfan Trochi/Dysgu Cymraeg bwrpasol a pharhaol sydd ag elfennau wedi'u gwasgaru'n strategol
41. Sir Gaerfyrddin 2 - Sefydlu Canolfan Trochi/Dysgu Cymraeg bwrpasol a pharhaol sydd ag elfennau wedi'u gwasgaru'n strategol