Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi £50m o gyllid i leihau amseroedd aros ar gyfer triniaethau dewisol, gan adeiladu ar y cynnydd da a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £150m i leihau rhai o'r amseroedd aros hiraf, gan arwain at rai o'r perfformiadau gorau mewn dros chwe blynedd, gyda thri o'r byrddau iechyd yn rhoi gwybod na fu'n rhaid i unrhyw un aros dros 36 wythnos am driniaeth.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2019:

  • roedd y sefyllfa ar gyfer nifer y bobl fu'n aros dros 26 wythnos y gorau ers mis Gorffennaf 2013
  • roedd y sefyllfa ar gyfer nifer y bobl fu'n aros dros 36 wythnos y gorau ers mis Mai 2013
  • roedd nifer y bobl fu'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi 98% yn is nag ym mis Mawrth 2018 a dyma'r sefyllfa orau y rhoddwyd gwybod amdani erioed

Ar ddiwedd 2018-19, gwelwyd gwelliannau yn chwech o'r saith bwrdd iechyd, gyda thri bwrdd iechyd yn rhoi gwybod na fu unrhyw un yn aros dros 36 wythnos ar ddiwedd mis Mawrth a'r ddau fwrdd iechyd arall yn rhoi gwybod am sefyllfa well nag sydd yn eu proffil.

Dywedodd Mr Gething:

"Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi £150m i leihau amseroedd aros yn sylweddol ar gyfer cleifion sy'n aros am gyfnod hirach na'n targed. Ym mis Mawrth eleni, rhoddodd tri bwrdd iechyd wybod na fu unrhyw un yn aros dros 36 wythnos ac yn gyffredinol rydym wedi gweld y perfformiad gorau mewn chwe blynedd mewn rhai ardaloedd. 

Ond rwyf eisiau gweld gwelliannau pellach ym mhob ardal a bydd y £50m yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn cefnogi Byrddau Iechyd i leihau'r amseroedd aros ymhellach. Bydd yr arian hefyd yn helpu i gyflwyno gwasanaethau cynaliadwy, ochr yn ochr â'n cynllun iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach, sydd wedi'i gefnogi gan £100m i gyflawni'r newidiadau tymor hir sydd eu hangen i drawsnewid gwasanaethau.

Bydd angen i fyrddau iechyd gyrraedd y targedau maen nhw'n eu gosod er mwyn cael y cyllid yn llawn. Rwy'n disgwyl gweld gwelliannau pellach o ran amseroedd aros, fel yr ydym wedi'i weld yn y tair blynedd diwethaf.” 

Bydd dyraniad eleni hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer prosiectau i gefnogi gwelliannau mewn adrannau argyfwng a chefnogi pobl wrth iddynt adael yr ysbyty ac osgoi gorfod dychwelyd yno. 

Y rhain yw: 

  • £1 miliwn i gefnogi darparu Fframweithiau Ansawdd a Chyflenwi ar gyfer Adrannau Argyfwng mewn nifer o safleoedd sy'n eu 'mabwysiadu'n gynnar'
  • £750,000 i ymestyn cynlluniau peilot Llesiant ac Adref yn Ddiogel yr Adrannau Argyfwng, a’r cynllun Adref o'r Ysbyty
  • £3.5 miliwn i fyrddau iechyd wella'r broses o reoli cleifion dilynol, drwy weithio'n well gyda Thîm y Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio

Bydd gweddill y cyllid yn cael ei ddyrannu i fyrddau iechyd unigol i leihau nifer y cleifion sy'n aros yn hir, a datblygu gwasanaethau cynaliadwy. Mae gan Fyrddau Iechyd dargedau i leihau amseroedd aros a bydd rhaid iddynt gyrraedd y targedau hyn er mwyn cael y dyraniad cyfan. Mae’r dyraniadau fel a ganlyn:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg £7m
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda £5.8m
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro £6.1m
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan £4m
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe £6.5m
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr £13.6m
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys £1.5m