Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y cyllid yn ei gwneud yn bosib recriwtio staff arbenigol newydd ac i'r staff arbenigol presennol dreulio mwy o amser yn helpu pobl ifanc ag anhwylderau bwyta.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn helpu i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc a'u teuluoedd wrth drosglwyddo o ofal Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) i Wasanaethau Oedolion ar gyfer trin anhwylderau bwyta.

Ar hyn o bryd, mae CAMHS yn darparu triniaeth wedi'i seilio ar y teulu nes bod yr unigolyn yn cyrraedd 18 oed, ac mae gwasanaethau oedolion yn darparu triniaeth i'r unigolyn ei hun o ddyddiad y pen-blwydd yn 18 oed ymlaen. Gall y driniaeth unigol honno weithiau gynnwys aelodau o'r teulu, ond nid bob tro.

Bydd y cyllid yn ei gwneud yn bosib recriwtio staff arbenigol newydd ac i'r staff arbenigol presennol dreulio mwy o amser yn helpu pobl ifanc ag anhwylderau bwyta.  

Y weledigaeth gyffredinol yw creu gwasanaeth pontio sy'n rhan annatod o'r gwasanaeth anhwylderau bwyta i oedolion ac sy'n troi at gydweithwyr o CAMHS i weithio gyda nhw. Bydd y cyllid yn helpu i gyfuno rhai gwasanaethau fel cymorth yn y cartref/yn y gymuned a thriniaethau teuluol er mwyn sicrhau cyfnod pontio llyfn. Bydd hefyd yn cefnogi gwell hyfforddiant i staff presennol ac yn helpu i sefydlu triniaethau ar y cyd, gan gynnwys rhaglenni therapi grŵp aml-deulu, therapi adferiad gwybyddol a chymorth i deuluoedd.

Mae'r cyllid sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn ychwanegol  at y £1.25m y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn gwasanaethau trin anhwylderau bwyta ehangach i blant ac oedolion ar draws Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething:

"Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi pobl ifanc ac oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylderau bwyta. 

"Mae anhwylderau bwyta yn cynnwys amrywiol fathau o salwch meddwl cymhleth iawn, ac yn gyflyrau gwanychol yn eu hunain, a dyna pam bod diagnosis ac ymyrraeth gynnar yn hanfodol.

"Bydd y cyllid ychwanegol sy'n cael ei gyhoeddi gen i heddiw yn helpu i sicrhau nad yw'r gwasanaethau a'r driniaeth y mae pobl ifanc a'u teuluoedd yn eu derbyn yn newid wrth iddynt drosglwyddo o ofal CAMHS i'r gwasanaethau i oedolion.

"Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y gofal a'r cymorth angenrheidiol mewn cyfnod anodd iawn iddyn nhw a'u teuluoedd. Gobeithio bydd y gwelliannau yn sgil y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol iddyn nhw."