Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Benthyciad Canol Trefi gwerth £500,000 yn cefnogi'r gwaith adnewyddu yng Nghastell-nedd Port Talbot yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu ffyniant mewn cymunedau yn y cymoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans AC y benthyciad wrth iddi ymuno â Gweithlu'r Tasglu sy'n gweithio i sicrhau newidiadau gwirioneddol yng Nghymoedd y De. Nod y tasglu yw creu swyddi o safon yn nes at gartrefi pobl, gwella sgiliau pobl a sicrhau ffyniant i bawb. 

Dywedodd Rebecca Evans AC:

"Rydw i wrth fy modd yn ymuno â Thasglu'r Cymoedd ac rwy'n gwbl ymrwymedig i weithio gyda chymunedau ar draws y Cymoedd i greu swyddi a chyfleoedd gyda'n gilydd.  Nod y Gronfa Benthyciadau Canol Trefi sydd werth £20 miliwn yw helpu i adnewyddu cymunedau ledled Cymru a bydd yn sicr o gael effaith wirioneddol yn ardal Castell-nedd Port Talbot. 

"Nod y Gronfa Benthyciadau Canol Trefi yw helpu i adfywio safleoedd ac eiddo gwag yng nghanol trefi, a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio unwaith eto.  Mae'n cefnogi gweithgareddau sy'n cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol ein trefi, yn mynd i'r afael â safleoedd gwag ac yn helpu busnesau i dyfu a ffynnu. Unwaith y bydd y benthyciadau wedi’u had-dalu, caiff yr arian ei ddefnyddio eto i ariannu benthyciadau newydd.”

Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rheoli'r benthyciad sy'n rhan o'r Gronfa Benthyciadau Canol Trefi sydd werth £20 miliwn ac sydd ar hyn o bryd yn cefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi mewn 17 o awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Mae Llanelli yn enghraifft o'r manteision a ddaw yn sgil y Benthyciadau Canol Trefi.  Maent wedi'u defnyddio i ariannu datblygu sinema oedd bellach yn adfail yn ganolfan adloniant, i greu cartrefi o eiddo gwag ac i alluogi dymchwel hen adeilad i greu eiddo newydd sy'n cynnwys unedau preswyl a masnachol.