Neidio i'r prif gynnwy

Mae addysg yn hollbwysig er mwyn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr adnoddau i blant a phobl ifanc 3 i 19 oed yn helpu i addysgu a dysgu Cymraeg fel pwnc ynddo'i hun a phynciau eraill a astudir drwy'r Gymraeg, a bydd yn helpu i fynd i'r afael â'r prinder adnoddau presennol y mae athrawon yn sôn amdano.

Ariannir y prosiectau fel rhan o’r cyllid blynyddol ar gyfer comisiynu adnoddau yn yr iaith Gymraeg. Ychwanegir £500,000 at yr arian hwn yn 2018/19 fel rhan o’r cytundeb ar y cyllid rhwng Plaid Cymru a Llafur.

Mae saith cyflenwr o wahanol rannau o Gymru wedi'u comisiynu i ddatblygu'r adnoddau newydd ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol a chymwysterau Celf a Dylunio; Cerddoriaeth; Cymraeg; Daearyddiaeth; Drama; Dylunio a Thechnoleg; Hanes; Llywodraeth a Gwleidyddiaeth; Mathemateg; ac Ieithoedd Tramor Modern.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

“Rydyn ni am wneud yn siwr bod yr un adnoddau addysgol perthnasol, diddorol a modern ar gael i bob un o'n disgyblion, ym mha iaith bynnag maen nhw'n astudio. Bydd y prosiectau hyn yn sicrhau bod y bylchau yn y ddarpariaeth Gymraeg sydd wedi'u nodi gan athrawon yn cael eu llenwi, ac na fydd dysgwyr dan anfantais am eu bod yn dewis dysgu drwy'r Gymraeg.”

Ychwanegodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

“Mae addysg yn hollbwysig er mwyn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Plant a phobl ifanc sy'n mynd i ysgolion Cymraeg yw siaradwyr Cymraeg yfory. Mae'n hollbwysig, felly, rhoi'r adnoddau angenrheidiol iddyn nhw i sicrhau eu bod nhw'n cael yr addysg orau a bod yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw yn yr iaith maen nhw'n ei defnyddio bob dydd.”