Bwriad y gronfa o £15m yw cryfhau pob agwedd ar ofal critigol a helpu i ail-lunio'r ffordd y mae gwasanaethau gofal critigol Cymru yn cael eu darparu.
Mae'r £5m yn rhan o'r £15m o gyllid blynyddol newydd ar gyfer gofal critigol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2018. Bwriad y gronfa o £15m yw cryfhau pob agwedd ar ofal critigol a helpu i ail-lunio'r ffordd y mae gwasanaethau gofal critigol Cymru yn cael eu darparu.
Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Jones sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch sut y dylai'r arian gael ei ddyrannu. Dyma benderfyniad ariannu cyntaf y grŵp.
Bydd Byrddau Iechyd ag unedau gofal critigol yn cael cyfran o'r cyllid a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i gynyddu gallu gofal critigol yn ystod cyfnod prysur y gaeaf.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Rydyn ni'n gwybod bod y gaeaf yn arwain at bwysau o sawl cyfeiriad ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Does dim modd i’r unedau gofal critigol osgoi hynny, a dyma lle mae'r pwysau mwyaf yn aml iawn.
“Pan gyhoeddais y £15m o gyllid a'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ym mis Gorffennaf, roeddwn am i ni gael gafael canolog mwy cadarn er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu yn y lle cywir ac ar yr adeg gywir er mwyn sicrhau gwasanaethau mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
"Mae'r arian rwy' wedi ei gyhoeddi heddiw yn dangos yr uchelgais hwnnw ar waith, ac rwy'n gobeithio y bydd yr arian sydd wedi'i ddyrannu i helpu i wella gallu gofal critigol yn gwneud gwahaniaeth go iawn y gaeaf hwn."