Mae cynllun grant gwerth o leiaf £4m wedi cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 7) er mwyn helpu i wella safleoedd o arwyddocâd naturiol ledled Cymru, gan gefnogi rheolwyr tir, elusennau a chymunedau i fwrw ymlaen â’u gwaith hanfodol a chyfrannu at adferiad y genedl o Covid-19.
Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi agor rownd newydd o arian grant ar gyfer prosiectau cyfalaf ar raddfa fawr, er mwyn cynnal a gwella safleoedd Natura 2000.
Mae pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at werth byd natur a phwysigrwydd mynediad i’n hamgylchedd naturiol er budd ein hiechyd a’n lles.
Sefydlwyd safleoedd Natura yn 2011 gyda’r nod o sicrhau goroesiad tymor hir rhywogaethau a chynefinoedd gwerthfawr a than fygythiad ledled Ewrop. Maent yn rhan o’r rhwydwaith cydgysylltiedig mwyaf o ardaloedd dan warchodaeth yn y byd.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog ar gyfer yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
“Mae gwarchod a hybu adnoddau naturiol Cymru yn elfen allweddol o’n hadferiad ni o bandemig Covid-19.
“Yn ystod y pandemig, mae llawer o gymunedau wedi dod i werthfawrogi mwy ar ein hamgylchedd naturiol – nid dim ond y rhan mae’n ei chwarae mewn lles a hamdden, ond hefyd fel sail i economïau gwledig allweddol.
“Ac fel rwyf wedi nodi o’r blaen, mae cysylltiadau uniongyrchol rhwng ein hadferiad o bandemig Covid-19 a’n hadferiad o argyfwng yr hinsawdd – mae’r ddau’n gofyn i ni ailfeddwl am sut rydym yn gweithredu wrth fyw o ddydd i ddydd, a bydd y mesurau a roddir ar waith i ymateb i un yn ategu ein hymateb i’r llall yn aml.
“Bydd y cyllid hwn yn darparu cefnogaeth benodol i helpu i achub byd natur sy’n wynebu argyfwng, a gwella cadernid ecosystemau gan ein helpu i ymateb i argyfwng yr hinsawdd.
“Mae cyllido ein hymateb i argyfwng yr hinsawdd yn parhau yn un o’n prif flaenoriaethau, a byddwn yn adolygu’r cyllid yn gyson wrth i ni barhau i ddeall graddfa’r gwaith adfer sydd ei angen.”
Yn ogystal â gwella amgylchedd naturiol Cymru, bydd yr arian grant yn arwain at fanteision pellach eraill hefyd i gymunedau a thirweddau o amgylch safleoedd Natura 2000 – yn ogystal â rhoi hwb i gadernid ecosystmau i effeithiau’r hinsawdd.
Anogir sefydliadau ac unigolion sy’n gallu gweithredu i wella safleoedd Natura 2000 i ymgeisio erbyn mis Mawrth 2021. Bydd ffenestr y grant ar agor am bum wythnos.
Mae’r cynllun yn un rhan o raglen ehangach o fuddsoddiad sylweddol mewn adnoddau naturiol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, drwy amrywiaeth o wahanol gynlluniau – gan gynnwys Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW); Glastir; Rheolaeth Gynaliadwy a phrosiectau Seilwaith Gwyrdd.
Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Cynllunio Adnoddau Naturiol yn CNC:
“Mae safleoedd Natura 2000 ymhlith rhai o’r safleoedd mwyaf gwerthfawr yng Nghymru ac maen nhw hefyd yn bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn agored iawn i bwysau fel newid hinsawdd, rhywogaethau goresgynnol, newid mewn defnydd tir a llygredd.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i gynnal a gwella’r mannau yma gan alluogi bywyd gwyllt i ffynnu ac addasu i newidiadau amgylcheddol. Gyda’i gilydd mae’r safleoedd hyn yn ffurfio rhwydwaith hanfodol i fyd natur, er mwyn i gynefinoedd a rhywogaethau allu ymledu, boed ar y tir, mewn dyfroedd mewndirol ac yn y môr.”