Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn derbyn £46,000 i hyrwyddo Iechyd a Diogelwch o fewn y sector amaethyddol a choedwigaeth, meddai Lesley Griffiths heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymgyrch y Bartneriaeth 'Cydweithio i wneud ffermio'n fwy diogel'.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad wrth iddi gyfarfod pedwar Mentor Iechyd a Diogelwch newydd Cyswllt Ffermio yn y Sioe Frenhinol.   Bydd y mentoriaid yn helpu unigolion a busnesau i nodi'r risgiau, dileu'r peryglon a lleihau'r risg o ddamweiniau o fewn y busnes. 

Mae rhaglen fentora Cyswllt Ffermio wedi bod yn rhedeg am ddwy flynedd ac mae dros 100 o ffermwyr a choedwigwyr eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth, gan olygu cyfanswm o dros 750 o oriau o gymorth rhwng cymheiriaid.

Trist iawn yw'r cyfanswm o 144 o ddamweiniau angheuol i weithwyr o Brydain yn 2017/18, gydag amaethyddiaeth yn gyfrifol am 29% o'r marwolaethau.  Mae miloedd mwy wedi dioddef anafiadau difrifol a salwch sy'n gysylltiedig â gwaith.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Mae iechyd a diogelwch ar ffermydd o bwysigrwydd mawr.  Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn chwarae rhan allweddol i helpu i leihau y nifer annerbyniol o ddamweiniau difrifol a marwolaethau sy'n digwydd ar ffermydd ledled Cymru bob blwyddyn.

"Rwyf felly'n falch iawn o allu cyhoeddi £46,000 ar gyfer y Bartneriaeth i hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a diogelwch drwy eu cynllun 'Cydweithio i wneud ffermio'n fwy diogel'.

"Mae diogelwch ar fferm yn ffordd o fyw, nid slogan yw.  Ni ddylem golli golwg ar y ffaith, fel gydag unrhyw sector arall o ddiwydiant neu fusnes, bod iechyd a diogelwch y gweithle ac unrhyw fesurau a chostau sy'n gysylltiedig â gwneud y fferm yn ddiogel yn broblem ac yn gyfrifoldeb ffermydd unigol.

“Fuodd hi erioed yn bwysicach i ffermwyr edrych ar yr hyn sydd gan Cyswllt Ffermio i'w gynnig ichi.  

"Mae rhaglen fentora Cyswllt Ffermio yn rhaglen fentora sydd â hanes o gynnig cymorth gwerthfawr i helpu unigolion a busnesau nodi risgiau, dileu peryglon a lleihau'r perygl o ddamweiniau yn y busnes.  Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â pedwar o fentoriaid iechyd a diogelwch yn y Sioe heddiw, ac i glywed am eu penderfyniad i ledaenu'r neges ynghylch pwysigrwydd iechyd a diogelwch ar ffermydd."