Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, wedi cytuno i neilltuo £4.48m eleni i brynu system gyfrifiadurol newydd ar gyfer anfon ambiwlansys yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Bydd y cyllid hwn yn galluogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i brynu un o’r systemau fwyaf effeithlon a modern i’w defnyddio yn lle ei system bresennol ar gyfer anfon ambiwlansys gyda chymorth cyfrifiadurol. Bydd hyn yn gwella amseroedd ymateb y gwasanaeth ymhellach.  Bydd y system newydd yn darparu:

  • amseroedd ymateb cyflymach i alwadau brys lle mae bywyd yn y fantol ac felly sydd o’r flaenoriaeth uchaf

  • effeithlonrwydd gwell o ran dod o hyd i’r adnodd mwyaf priodol a’i anfon

  • y gallu i gydgysylltu digwyddiadau mawr a rheoli capasiti’n well ar draws y GIG yng Nghymru.

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Yng Nghymru bu llawer o welliant yn amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans. Dyma faes lle rydyn ni’n arwain y ffordd yn y DU. Bydd y system newydd fwy effeithiol hon ar gyfer anfon ambiwlansiau yn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i barhau i wella ac i ddarparu gwasanaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y system yn galluogi Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i roi gwybodaeth amserol o ansawdd uchel i’w partneriaid er mwyn iddynt allu cydweithio i wella a siapio gwasanaethau. Bydd hefyd yn helpu’r Ymddiriedolaeth i fonitro perfformiad a chanolbwyntio ar feysydd lle mae angen gwella mewn modd mwy effeithiol.