Bydd dros £4m o gyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi i adeiladu unedau busnes newydd er mwyn cefnogi sector ynni carbon isel Ynys Môn sydd ar gynnydd.
Mae'r gwaith adeiladu yn rhan o gynlluniau ehangach i ddatblygu Ardal Fenter Ynys Môn a Rhaglen Ynys Ynni. Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn gynnar yn 2018, a bydd yr unedau'n barod ar gyfer busnesau yn gynnar yn 2019.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, yr Athro Mark Drakeford:
"Rwy'n falch iawn bod cyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi i adeiladu safle busnes o ansawdd uchel i gefnogi'r cyfleoedd cyflogaeth a'r gadwyn gyflenwi sydd ar gynnydd sy'n deillio o'r sector niwclear ac ynni yn y rhanbarth.
"Bydd hyn yn helpu i greu canolbwynt pwysig i gyflogaeth sy'n barod ar gyfer busnes a fydd yn cynorthwyo'r rhanbarth i ddenu mewnfuddsoddiad ac i fanteisio i'r eithaf ar y datblygiadau sy'n cael eu creu gan Raglen Ynys Ynni."
Bydd yr unedau'n ategu safleoedd busnes eraill sydd wedi cael cymorth gan yr UE yn yr ardal, gan gynnwys cwblhau saith uned fusnes ar safle Llangefni a'r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i adeiladu Parc Gwyddoniaeth Menai gerllaw.
Yn gynharach eleni, gwnaeth Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates agor y ddwy ran gyntaf o ffordd gyswllt Llangefni. Pan fydd wedi’i chwblhau, bydd y ffordd hon yn cysylltu pobl â chyfleoedd i hyfforddi a chael swyddi yn yr ardal, gan hwyluso twf economaidd pellach.
Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Ynys Môn, Dylan Williams:
"Bydd yr unedau newydd hyn yn cefnogi twf economaidd parhaus Ynys Môn, rhanbarth Gogledd Cymru yn ehangach a'r gwaith parhaus o ddatblygu Rhaglen Ynys Ynni.
"Mae sicrhau £4.2m o gyllid yr UE yn brawf o ansawdd ein cynigion a lleoliad y cynlluniau hyn. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i greu cyfleoedd i dyfu ac i ddatblygu llwyddiant yr Ardal Fenter, a'n gobaith yw gweld buddsoddiadau pellach mewn seilwaith yn y dyfodol."
Dywedodd deiliad y portffolio Cynllunio, Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Richard Dew:
"Rydyn ni'n ddiolchgar am gyllid yr UE ac i Lywodraeth Cymru am gefnogi ein cynlluniau am welliannau mawr eu hangen i'r seilwaith er mwyn gallu ailddatblygu safle Hyfforddiant Môn ac ehangu Canolfan Fusnes Ynys Môn. Bydd croeso mawr i'r datblygiadau hyn er mwyn cynyddu nifer y safleoedd busnes modern ac o ansawdd uchel sydd ar gael i'w rhentu yn yr ardal."