Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £40m ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf i wneud hyd at 10,000 o gartrefi ledled Cymru’n fwy ynni- effeithiol ac i roi hwb i fentrau twf gwyrdd eraill.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Byddwn yn targedu aelwydydd sydd ar incwm isel neu mewn cymunedau difreintiedig, i’w helpu i gynhesu’u cartrefi am bris mwy fforddiadwy gan wella’u hiechyd a’u lles.

Bydd yr arian yn helpu mentrau twf gwyrdd eraill, gan adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi’i wneud yn sector cyhoeddus Cymru i arbed ynni a charbon.

Cyhoeddwyd yr arian ychwanegol fel rhan o Gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 a chafwyd pleidlais arni yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 10 Ionawr 2017.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae costau ynni ar gynnydd ac yn bryder i lawer gormod o deuluoedd ym misoedd y gaeaf. Ers 2011, rydym wedi buddsoddi mwy na £217m yng nghynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru ac wedi gwneud rhagor na 39,000 o gartrefi’n fwy ynni-effeithiol.

“Rwy’n hynod falch y bydd y £40m ychwanegol a gyhoeddais heddiw yn ein helpu i gymryd camau pendant i leihau biliau ynni a gwneud hyd at 25,000 o gartrefi’n fwy ynni-effeithiol, yn ogystal â chefnogi mesurau twf gwyrdd arloesol.  Dyma newyddion ardderchog i gymunedau rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru y gaeaf hwn.

“Yr un pryd, byddwn yn parhau i weithio gyda sector cyhoeddus Cymru i gynnal mentrau i leihau baich costau ynni ar gyllidebau’r sector, yn ogystal â gollwng llai o garbon.”  

Mae rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn ystyried y tŷ cyfan wrth geisio ei wneud yn fwy ynni-effeithiol gan ddefnyddio mesurau fel inswleiddio, rheoli gwres, bwyleri newydd ac atal drafftydd.

Yn ogystal â gwella iechyd y bobl sydd wrthi’n brwydro i gadw eu cartrefi’n gynnes, mae’r cynllun Cartrefi Cynnes yn gweithio hefyd i leihau’r defnydd o ynni a chreu swyddi lleol a chyfleoedd i gwmnïau lleol yn y diwydiant arbed ynni.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Mark Drakeford:

“Mae Cyllideb derfynol 2017-2018 yn cynnig uchelgais a sefydlogrwydd mewn cyfnod o ansicrwydd.

“Bydd yr arian hwn yn dod â budd i unigolion a theuluoedd ac yn helpu i gryfhau cymunedau ledled Cymru.”