Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (14 Ebrill) mae’r Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething wedi cyhoeddi £40m ychwanegol i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod pandemig y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn helpu i dalu costau cynyddol offer diogelu personol, bwyd, costau staff a TGCh sy’n rhan o’r gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion.

Mae’n dod o’r gronfa frwydro gwerth £1.1 biliwn sydd wedi’i chreu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i bandemig y coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog:

Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi rhai o’r bobl mwyaf agored i niwed yng Nghymru a’r gwasanaeth iechyd. Mae’r gwaith hwn yn bwysicach nag erioed yn awr. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi’r costau ychwanegol y mae’r gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hwynebu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatgan yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fodloni’r galw ychwanegol sydd ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion. Byddwn yn adolygu’r dyraniad hwn ac yn sicrhau bod rhagor o arian ar gael efallai os bydd angen yn y dyfodol.

Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol ar y rheng flaen yn yr ymdrech enfawr hon i ymateb i bandemig y coronafeirws ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob un person i wneud eu gwaith.    

Mae gan bob un ohonom ni yng Nghymru ddyled aruthrol iddynt. Fe hoffwn i ddiolch yn bersonol i’n gweithlu gofal cymdeithasol am eu hymdrechion rhagorol i warchod y cyhoedd.

Bydd y £40m yn cael ei ddyrannu i lywodraeth leol drwy ‘gronfa galedi’ Covid-19 newydd llywodraeth leol. Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i wneud defnydd o’r cyllid ychwanegol yn seiliedig ar y costau newydd sy’n dod i’r amlwg.